Dillad a Helmed Beicio Modur
Diweddarwyd y dudalen ar: 07/09/2023
Prynwch y dillad cywir cyn gyrru eich beic modur.
Bydd angen y canlynol arnoch:
- Helmed gymeradwy sy'n ffitio'n ddiogel. Os ydych yn meddwl bod yr helmed yn ddiffygiol, newidiwch hi. Gall helmed wen neu liwgar iawn eich helpu i fod yn weledig.
- Dillad da - ac mae hynny'n golygu siaced, trowseri ac esgidiau. Mae'r rhai gorau wedi'u marcio â CE a gallant eich amddiffyn rhag cael anaf os ydych yn disgyn. Dylent fod yn fflwroleuol yn ystod y dydd ac yn adlewyrchol yn ystod y nos.
- Bydd y dillad sy'n eich amddiffyn yn briodol rhag y tywydd nid yn unig yn gwneud i chi deimlo'n fwy cyfforddus, byddant hefyd yn eich galluogi i hoelio mwy o sylw ar eich gyrru.
Gwnewch yn siŵr nad yw eich fisor yn frwnt neu wedi'i grafu a chofiwch beidio â gwisgo goglau neu fisor arlliwedig yn ystod y nos.
Er bod yr holl helmedau beiciau modur sydd ar werth yn y DU yn gorfod bodloni'r gofynion cyfreithiol lleiaf, mae profion wedi dangos bod gwahaniaeth sylweddol ym mherfformiad diogelwch yr helmedau beiciau modur sydd ar gael.
Er mwyn ceisio mynd i'r afael â hyn, cafodd y ‘Rhaglen Asesu a Sgrinio Helmedau Diogelwch’ (SHARP) ei sefydlu yn 2007 gan yr Adran Drafnidiaeth er mwyn galluogi gyrwyr beiciau modur i ddewis helmed yn haws sy'n diwallu eu hanghenion.
Bydd SHARP yn rhoi i ddefnyddwyr asesiad annibynnol o berfformiad diogelwch yr helmedau sy'n cael eu gwerthu yn y DU. Mae'r Sgôr SHARP yn adlewyrchu perfformiad pob model helmed yn dilyn cyfres o brofion manwl yn labordy SHARP a bydd yr helmedau yn cael sgôr rhwng 1-5 o sêr.
Mae gwefan SHARP yn rhoi cyngor a gwybodaeth i yrwyr beiciau modur hefyd ynghylch dewis helmed ac yn cynnwys arddangosiadau ynghylch sut mae'r profion SHARP yn cael eu gwneud a sut i wneud yn siŵr fod helmed yn ffitio'n briodol.
Mae ymchwil SHARP wedi dangos y gellid achub hyd at 50 o fywydau gyrwyr beiciau modur bob blwyddyn pe byddai pawb yn gwisgo helmed sy'n sgorio'n uchel yn system brofi SHARP.
Teithio, Ffyrdd a Pharcio
Ymgeisio am...
- Cau ffordd o ganlyniad waith brys
- Cau ffordd ar gyfer gwaith sydd wedi'i gynllunio
- Hysbysu am gwaith yn y ffyrdd
- Arwyddion traffig cludadwy
- Ganiatâd i wneud gwaith insiwleiddio allanol dros briffordd
- Arwyddion rhybuddio marchogaeth
- Arwyddion twristiaeth brown
- Ymgeisio am addurniadau tymhorol ar/uwchben y briffordd
- Mynediad i gerbydau i dramwyfeydd (cyrbau isel)
- Marciau i warchod mynediad preifat (Bar H)
- Mynediad i lleoedd parcio i'r anabl
- Hawlen Bargodi Dros Dro
- Cynllun parcio i breswylwyr
- Tystysgrif hepgor gollyngiad
Mynediad ar gyfer cerdded a beicio (Teithio Llesol)
Gwasanaethau bws
Rhannu ceir
Tocyn teithio consesiwn
Ceir Cefn Gwlad
Gwefru Cerbyd Trydan
Graeanu
Beicio modur
- Dillad a Helmed Beicio Modur
- Hyfforddiant Beic Modur
- Biker Down! Cymru
- Dragon Rider Cymru
- Carden CRASH Beiciau Modur
Parcio
Pont pwyso cyhoeddus
Rhoi gwybod am anifail sydd wedi marw ar y ffordd
Rhoi gwybod am broblemau ar y ffyrdd
- Rhoi gwybod am dwll yn y ffordd
- Rhoi gwybod am lifogydd / ddraen wedi blocio ar Briffordd
- Rhoi gwybod am olau stryd ddiffygiol
- Rhoi gwybod am lystyfiant wedi gordyfu / chwyn niweidiol
- Rhoi gwybod am goed peryglus / wedi cwympo
- Rhoi gwybod am berygl baglu
- Rhoi gwybod am falurion / rwystr / tirlithriad
- Rhoi gwybod am beryglon Y Gaeaf
- Rhoi gwybod am farciau / arwyddion ffordd diffygiol
- Rhoi gwybod am strwythur ar briffordd
- Rhoi gwybod am oleuadau traffig dros dro diffygiol
- Rhoi gwybod am ffensys / rhwystrau wedi difrodi
- Rhoi gwybod am broblem gyda chysgodfan fysiau
- Rhoi gwybod am gerbyd wedi'i adael
- Rhoi gwybod am glawr twll archwilio / draen wedi difrodi
- Rhoi gwybod am ddodrefn stryd wedi difrodi / ar goll
- Rhoi gwybod am oleuadau traffig parhaol diffygiol
Rhoi gwybod am gerbyd wedi'i adael
Diogelwch ffyrdd
Mwy ynghylch Teithio, Ffyrdd a Pharcio