Adolygiad o'r Dreth Gyngor

Rydym yn adolygu holl ostyngiadau person sengl y Dreth Gyngor i wneud yn siŵr eu bod yn gywir ac i atal unrhyw dwyllo.

Yn y sir, ar hyn o bryd mae tua 40,000 o dalwyr y Dreth Gyngor yn derbyn gostyngiad person sengl o 25%. Rydym yn defnyddio gwiriadau data clyfar i gymharu cofnodion a chadarnhau bod pob gostyngiad yn ddilys.

Os yw rhywun yn cael gostyngiad na ddylai ei gael, byddwn yn ei ddileu ac efallai y byddwn yn ôl-ddyddio'r bil i pan ddechreuodd y gostyngiad. Mewn rhai achosion, gallwn roi dirwy neu hyd yn oed gymryd camau cyfreithiol yn erbyn pobl sydd wedi hawlio'r gostyngiad yn anonest.

Rwyf wedi derbyn llythyr ynghylch adolygiad  am y gostyngiad person sengl

Os ydych chi'n derbyn llythyr yn gofyn am eich gostyngiad person sengl, dywedwch wrthym am eich sefyllfa byw bresennol fel y gallwn ddiweddaru ein cofnodion.

Y ffordd gyflymaf a hawsaf o wneud hyn yw ar-lein. Bydd angen eich:

  • Rhif PIN unigryw
  • Cyfeirnod Cyfrif y Dreth Gyngor
  • Côd Post

Gallwch ddod o hyd i'r manylion hyn yn y llythyr neu'r e-bost a anfonwyd atoch.

 

Cwblhau eich Adolygiad o Ostyngiad Person Sengl