Iechyd Meddwl

Diweddarwyd y dudalen ar: 22/01/2024

Mae'r Cynllun Bathodyn Glas (Parcio i'r Anabl) yn darparu trefniant cenedlaethol o gonsesiynau parcio ar gyfer y bobl hynny sydd ag anabledd parhaus neu sylweddol i'w galluogi i barcio yn agos at eu cyrchfan, wrth deithio yn annibynnol fel gyrrwr neu deithiwr.

Mae'r Bathodyn Glas yn caniatáu i'r cerbyd lle mae deiliad y bathodyn yn teithio ynddo i barcio mewn mannau dynodedig.

Os ydych chi’n meddwl eich bod yn profi problemau gyda’ch iechyd meddwl, cysylltwch â’ch meddyg teulu. Bydd yn ceisio eich cefnogi i ddechrau, ond os bydd y symptomau’n parhau efallai bydd yn ystyried eich atgyfeirio i’r Gwasanaeth Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol neu fel arall i ni fel Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol.

Gallwch hefyd gysylltu â Llesiant Delta drwy ffonio 0300 000 2222 i gael gwybodaeth, cyngor a chymorth.

Efallai byddwch yn cael eich atgyfeirio i un o’r Tîmau Iechyd Meddwl Cymunedol. Mae’r tîm yn cynnwys Gweithwyr Cymdeithasol Iechyd Meddwl, Nyrsys Seiciatrig Cymunedol, Seiciatryddion Ymgynghorol, Seicolegwyr Clinigol, Therapyddion Galwedigaethol, Dietegydd a staff Cymorth.

Bydd y Tîm Iechyd Meddwl yn cynnig apwyntiad i chi ar gyfer asesiad. Ymatebir i atgyfeiriadau o fewn 28 diwrnod gwaith ac i atgyfeiriadau brys o fewn 4 awr, a gorau oll ar yr un diwrnod gwaith.

Yn dilyn asesiad, os yw’n briodol i chi gael cymorth gan y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol, bydd Cydgysylltydd Gofal yn cael ei neilltuo i weithio gyda chi. Un o’r gweithwyr proffesiynol a grybwyllir uchod fydd hwn a bydd yn gweithio gyda chi i ddatblygu Cynllun Gofal a Thriniaeth.

Nod y Cynllun Gofal a Thriniaeth yw canolbwyntio ar ganlyniadau, gan roi cyfle i chi osod nodau ym mhob agwedd ar eich bywyd. Mae’r rhain yn cynnwys agweddau megis llety, addysg a hyfforddiant, arian, perthnasoedd magu plant neu ofalu, gwaith, llesiant corfforol ac anghenion cymdeithasol, diwylliannol neu ysbrydol. Trwy gydweithio gyda’r cydgysylltydd gofal, bydd hyn yn eich galluogi i gymryd mwy o reolaeth ar eich adferiad eich hun.

Mae Cynllun Gofal a Thriniaeth ar gyfer unigolion sy’n cael gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd o dan Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010.

Byddwn yn adolygu eich cynllun gofal a thriniaeth ac ar y cyd byddwn yn cytuno ar gynllun rhyddhau. Mae’r Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol yn cydweithio â gwasanaethau cymorth lleol i sicrhau eich bod yn parhau i wella.

Os byddwch yn mynd yn sâl ar ôl cael eich rhyddhau byddwch yn gallu eich atgyfeirio’ch hun yn ôl i’r Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol o fewn tair blynedd o ddyddiad eich rhyddhau neu fel arall gallwch fynd at eich meddyg teulu.

Bydd yr holl wybodaeth y byddwch chi’n ei rhoi i ni, neu y bydd eraill yn ei rhoi ar eich rhan, yn cael ei chadw’n gyfrinachol. Mae’r holl wybodaeth yn cael ei dal yn ddiogel, mae’n aros yn breifat a dim ond i’n helpu ni i ddarparu’r gwasanaethau y mae eu hangen arnoch y caiff ei defnyddio. Dim ond am y rhesymau yr ydych chi wedi cytuno â hwy y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth a dim ond y staff sy’n rhan o ddarparu eich gwasanaethau sydd â chaniatâd i gael mynediad at eich ffeil.

Ar rai achlysuron efallai y gofynnir inni rannu gwybodaeth gyda gweithwyr proffesiynol eraill; fodd bynnag, dim ond gyda’ch gwybodaeth a’ch caniatâd chi y byddai’r wybodaeth hon yn cael ei datgelu fel arfer, a hynny’n unol â Deddf Diogelu Data 1998.

Mae rhai achlysuron pan fo’n gyfreithiol ofynnol i ni ddatgelu gwybodaeth heb eich cydsyniad, er enghraifft:

  • Wrth yr heddlu neu’r llys mewn materion cyfreithiol neu droseddol difrifol, neu
  • I osgoi niwed difrifol i chi neu i bobl eraill.