A ydych chi'n poeni am oedolyn/blentyn?

Diweddarwyd y dudalen ar: 16/01/2024

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ymrwymo i sicrhau bod plant ac oedolion yn cael eu hamddiffyn rhag camdriniaeth ac esgeulustod a bydd yn cymryd camau ar unwaith lle bo angen, i'w cadw'n ddiogel rhag niwed. Cyfrifoldeb yr holl wasanaethau statudol yw diogelu oedolion a phlant, ond mae gan yr awdurdod lleol y prif gyfrifoldeb.