A ydych chi'n poeni am oedolyn/blentyn?

Diweddarwyd y dudalen ar: 22/04/2024

Efallai na fydd rhai pobl bob amser yn gallu amddiffyn eu hunain rhag camdriniaeth neu esgeulustod oherwydd eu hanghenion gofal neu gymorth.  

Gall oedolyn sy'n wynebu risg fod yn berson sydd:

  • yn oedrannus ac yn fregus oherwydd salwch, anabledd corfforol, neu nam gwybyddol
  • ag anabledd dysgu
  • ag anabledd corfforol a/neu nam ar y synhwyrau
  • ag anghenion iechyd meddwl
  • â salwch neu gyflwr hirdymor
  • yn camddefnyddio sylweddau neu alcohol
  • yn ofalwr (fel aelodau o'r teulu a ffrindiau)
  • yn methu dangos y gallu i wneud penderfyniad ac mae angen gofal a chymorth arno
  • yn methu cyfathrebu

Mae mathau o gam-drin yn cynnwys:

  • corfforol
  • rhywiol
  • seicolegol neu emosiynol
  • ariannol neu faterol
  • gwahaniaethol
  • esgeulustod ac anweithred
  • trefniadaethol neu sefydliadol
  • trais domestig
  • caethwasiaeth fodern

Gall oedolion fod mewn mwy o berygl o gael eu cam-drin pan fyddant:

  • yn byw ar eu pen eu hunain
  • ag anghenion gofal a chymorth
  • yn dibynnu ar eraill, er enghraifft, i reoli eu harian
  • yn ei chael hi'n anodd cyfathrebu

Gall camdriniaeth ddigwydd mewn amrywiaeth o wahanol leoliadau, rhai enghreifftiau yw:

  • cartrefi gofal
  • mannau cyhoeddus
  • canolfannau dydd
  • cartref yr oedolyn
  • ysbytai

Gall unrhyw un fod yn gamdriniwr, gall fod yn:

  • ffrind
  • aelod o'r teulu
  • gweithiwr proffesiynol
  • gwirfoddolwr
  • cymydog
  • gweithiwr gofal
  • masnachwr

Os ydych chi'n cael eich cam-drin neu mewn perygl o niwed neu'n poeni y gallai rhywun rydych chi'n ei adnabod fod mewn perygl o niwed, dylech siarad â rhywun amdano cyn gynted â phosibl a phan fydd hi'n ddiogel gwneud hynny.

Os oes angen cymorth ar unwaith, ffoniwch 999 yn ddi-oed. Os cyflawnwyd trosedd ond nad oes angen cymorth ar unwaith, ffoniwch 101.

I roi gwybod am bryder, ffoniwch Llesiant Delta ar 0300 333 2222 (ar gael 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos) neu llenwch y ffurflen atgyfeirio ar-lein.

Bydd ymholiadau diogelu yn cael eu trin mor sensitif â phosibl.

Bydd barn a dymuniadau'r oedolyn sy'n wynebu risg yn ganolog i'r ymholiad ac unrhyw gamau diogelu angenrheidiol.

Rhoi gwybod am problem

 

 

Mae ganddo ni dyletswydd i reoli honiadau a phryderon am unrhyw berson sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc ac oedolion sydd mewn perygl yn eu hardal. Mae rhai rolau swydd sy'n cynnwys person sy'n gweithio'n uniongyrchol gyda phlant neu oedolion sydd mewn perygl yn golygu eu bod yn cael eu hystyried yn Ymarferydd/Person mewn Swydd Ymddiriedolaeth. Mae hyn yn cynnwys staff y Cyngor, staff asiantaethau partner, darparwyr gwasanaethau a gwirfoddolwyr.

Mae'n rhaid rhoi gwybod i ni pan fod pryderon am berson sy'n gweithio gyda phlant neu oedolion sydd mewn perygl wedi:

  • Ymddwyn mewn ffordd sydd wedi niweidio neu a allai fod wedi niweidio plentyn neu oedolyn sy'n wynebu risg
  • Gall fod wedi cyflawni trosedd yn erbyn plentyn neu oedolyn sy'n wynebu risg neu sy'n effeithio'n uniongyrchol ar y plentyn neu'r oedolyn sy'n wynebu risg
  • Ymddwyn tuag at blentyn, plant neu oedolion sydd mewn perygl mewn ffordd sy'n dangos nad yw'n addas i weithio gyda phlant ac oedolion.

I roi gwybod am bryder gwasanaeth, gallwch ddefnyddio'r ffurflen ar-lein neu gallwch ffonio Llesiant Delta ar 0300 333 2222 (ar gael 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos).

Os oes angen cymorth ar unwaith ffoniwch 999 yn ddi-oed. Os cyflawnwyd trosedd ond nad oes angen gymorth ar frys ffoniwch 101.

Os hoffech gysylltu â Swyddog Dynodedig yr Awdurdod Lleol i Oedolion neu'r Swyddog Dynodedig Diogelu drwy e-bost

Rhoi gwybod am problem

Os ydych chi'n poeni nad yw darparwr gwasanaeth gofal neu gymorth fel cartref gofal yn darparu gwasanaethau diogel i bobl, a eich bod yn pryderu bod pobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth mewn perygl neu risg o gael eu cam-drin, rhaid i chi roi gwybod i ni.

I roi gwybod am bryder am wasanaeth gallwch ddefnyddio'r ffurflen ar-lein neu gallwch ffonio Llesiant Delta ar 0300 333 2222 (ar gael 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos).

Os oes angen cymorth ar unwaith ffoniwch 999 yn ddi-oed. Os cyflawnwyd trosedd ond nad oes angen cymorth ar frys ffoniwch 101.

Os nad yw eich pryder yn ymwneud â mater diogelu ond eich bod am wneud cwyn am ddarparwr gwasanaeth, gallwch ymweld â'r tudalen Cwynion a Chanmoliaeth Gwasanaethau Cymdeithasol am fwy o wybodaeth.

Rhoi gwybod am problem

Os ydych chi'n weithiwr proffesiynol sy'n gweithio gydag oedolion sydd wynebi risg a bod gennych syniad bod rhywun yn cael/mewn perygl o gael ei gam-drin neu ei esgeuluso rhowch wybod am eich pryderon gan ddefnyddio'r ddolen isod, neu cysylltwch â'r tîm diogelu oedolion i gael cyngor.

Mae'r Tîm Diogelu ar gael rhwng 9am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Iau a rhwng 9am a 4.30pm ar ddydd Gwener, cysylltwch drwy ebost:  diogeluoedolion@sirgar.gov.uk

Yn y cyfamser, cymerwch ba bynnag gamau rydych chi'n teimlo sy'n briodol i ddiogelu'r unigolyn a chofnodi'ch penderfyniadau a'ch gweithredoedd yn gywir.

Os oes angen cymorth ar unwaith ffoniwch 999. Os cyflawnwyd trosedd ond nad oes angen cymorth ar unwaith deialwch 101.

Am arweiniad cyfeiriwch at Weithdrefnau Diogelu Cymru

Rhoi gwybod am problem (MARF)