Cynllun y Bathodyn Glas

Diweddarwyd y dudalen ar: 21/02/2024

Mae'r Cynllun Bathodyn Glas (Parcio i'r Anabl) yn darparu trefniant cenedlaethol o gonsesiynau parcio ar gyfer y bobl hynny sydd ag anabledd parhaus neu sylweddol i'w galluogi i barcio yn agos at eu cyrchfan, wrth deithio yn annibynnol fel gyrrwr neu deithiwr.

Mae'r Bathodyn Glas yn caniatáu i'r cerbyd lle mae deiliad y bathodyn yn teithio ynddo i barcio mewn mannau dynodedig.

Rydych yn gymwys i gael bathodyn glas yn awtomatig heb fod yn destun asesiad pellach os ydych:-

  • Â nam difrifol ar y golwg
  • Yn derbyn Taliad Annibyniaeth Bersonol ac yn ei gael ar sail y canlynol:
    • Cynllunio a dilyn taith (12 pwynt) – categori F a/neu
    • Symud o gwmpas (8 pwynt neu fwy) – categori C, D, E neu F
  • Yn derbyn Cyfradd Uwch yr Elfen Symudedd o'r Lwfans Byw i'r Anabl (HRMCDLA)
  • Yn derbyn tâl atodol symudedd pensiwn rhyfel
  • Yn derbyn taliad gwarantedig o dan dariffau 1-8 o Gynllun Iawndal y Lluoedd Arfog ac os yw wedi ei gadarnhau bod gennych anabledd parhaol a sylweddol sy'n golygu na allwch gerdded neu eich bod yn ei chael yn anodd iawn cerdded.

Os ydych wedi cael diagnosis fod gennych salwch terfynol gyda ffurflen DS1500/SR1 a nam symudedd bydd eich ffurflen gais yn cael sylw'n gynt.

Os nad ydych yn bodloni'r cymhwysedd awtomatig a restrwyd uchod ar gyfer Bathodyn Glas, mae'n bosibl y byddwch yn dal i allu cael Bathodyn Glas trwy gael asesiad pellach. Gweler Nodiadau Esboniadol ar gyfer Bathodyn Glas.

Os nad ydych yn gallu cerdded neu'n cael anhawster mawr wrth gerdded a bod gennych anabledd sylweddol ond dros dro sy'n debygol o bara am y 12 mis nesaf, gallwch wneud cais am Fathodyn Glas. Gallech gael eich cyfeirio i gael asesiad er mwyn penderfynu a ydych yn gymwys i gael Bathodyn Glas dros dro.

Gallwch wneud cais am Fathodyn Glas drwy: 

  • neu drwy ffonio 01267 234567

Bydd angen i chi ddarparu prawf o gymhwysedd a phrawf ardystiedig o hunaniaeth. Gellir e-bostio'r rhain i BlueBadge@sirgar.gov.uk neu eu postio i Dîm Y Bathodynnau Glas i'r cyfeiriad uwchben.

Gellir uwchlwytho'r llun wrth lenwi'r ffurflen ar-lein neu ei bostio i Dîm y Bathodynnau Glas.

Gallwch hefyd fynd a'ch dogfennau gwreiddiol a/neu ffurflen i unrhyw Hwb. 

Gall eich cais am Fathodyn Glas gymryd hyd at 12 wythnos i'w brosesu, yn dibynnu ar gymhwysedd, tystiolaeth ac asesiadau ac mae gennym nifer uchel o geisiadau i’w prosesu ar hyn o bryd.

Er mwyn cadarnhau eich cyfeiriad, bydd angen ichi roi caniatâd i'r Awdurdod Lleol wirio'r cronfa ddata Treth y Cyngor, y Gofrestr Etholiadol a cofrestr yr ysgol (dan 16 oed).

Os nad oes cofnod o'ch cyfeiriad ar y systemau hyn, cysylltwch â Thîm Cynllun y Bathodyn Glas a gall rhywun eich cynghori ynghylch pa dystiolaeth a dderbynnir o dan yr amgylchiadau hyn. I sicrhau bod eich cais yn cael ei brosesu'n gyflym, cyflwynwch gopïau ardystiedig o un o'r canlynol fel tystiolaeth:

  • Tystysgrif Geni/Mabwysiadu
  • Tystysgrif Priodas/Ysgariad
  • Pasbort
  • Trwydded Yrru
  • Tystysgrif Dinasyddiaeth Brydeinig
  • Tystysgrif Partneriaeth Sifil/Diddymu Partneriaeth

Ystyr llungopi ardystiedig yw llungopi o ddogfen sydd wedi'i chadarnhau'n gywir gan rywun nad yw'n bartner nac yn berthynas ichi, sydd wedi eich adnabod am o leiaf ddwy flynedd, ac sy'n 18 oed neu'n hŷn.

Dylai'r sawl sy'n ardystio'r ddogfen lofnodi'r llungopi a nodi “Mae hwn yn gopi o ddogfen wreiddiol a welwyd gennyf i" wrth ymyl ei lofnod. Dylai hefyd ysgrifennu ei enw a'i alwedigaeth mewn llythrennau bras wrth ymyl y wybodaeth hon.

Dyma enghreifftiau o’r mathau o bobl a fyddai’n addas:

  • Cyfrifydd
  • Swyddog Banc/Cymdeithas Adeiladu
  • Bargyfreithiwr
  • Cynghorydd (Lleol neu Sir)
  • Gwas Sifil
  • Deintydd
  • Swyddog Gwasanaeth Tân
  • Ynad Heddwch
  • Daliwr Trwydded Tŷ Tafarn
  • Swyddog Llywodraeth Leol
  • Nyrs (RGN ac RMN)
  • Swyddog Lluoedd Arfog
  • Optegydd
  • Fferyllydd
  • Heddwas
  • Gweithiwr Cymdeithasol
  • Cyfreithiwr
  • Syrfëwr
  • Athro, Darlithydd
  • Swyddog Undeb Llafur

Os ydych yn bwriadu cyflwyno eich cais yn bersonol yn un o Ganolfannau Gwasanaethau Cwsmeriaid cewch roi eich dogfennau gwreiddiol iddynt a byddant yn copïo’r dogfennau ac yn eu hardystio. Ni ellir derbyn llungopïau a gyflwynir heb lofnodion a byddai hynny'n achosi oedi o ran eich cais.

Bydd angen ichi gyflwyno llun diweddar tebyg i lun pasbort. Sicrhewch fod enw a dyddiad geni yr ymgeisydd wedi'u hysgrifennu ar gefn y llun. Mae’n rhaid i’r llun wahaniaethu’n glir rhwng y wyneb a’r cefndir a bod:

  • Mewn lliw
  • 45 milimetr o hyd a 35 milimetr o led (maint pasbort)
  • Wedi'i dynnu o fewn mis i ddyddiad y cais
  • Yn erbyn cefndir llwyd golau neu hufen
  • Heb ei ddifrodi
  • Heb “lygaid coch”, cysgodion nac adlewyrchiad neu lacharedd sbectol
  • Yn llun o ben cyfan yr unigolyn (heb fod neb arall yn y golwg nac unrhyw beth yn gorchuddio’r pen oni bai fod hwnnw’n cael ei wisgo oherwydd cred grefyddol neu am resymau meddygol)
  • Yn wynebu ymlaen
  • Heb fod dim yn gorchuddio'r wyneb
  • Yn edrych yn syth i’r camera
  • Gyda mynegiant niwtral a’r geg ar gau
  • Gyda’r llygaid ar agor ac i’w gweld yn glir (heb sbectol haul neu sbectol ag arlliw a heb wallt neu sbectol yn cuddio’r llygaid)
  • Mewn ffocws pendant ac yn glir
  • Yn dangos tebygrwydd gwirioneddol, heb ei ddiwygio.

Os na allwch ddarparu ffotograff lliw diweddar (tebyg i lun pasbort), gallwch drefnu apwyntiad yn unrhyw Hwb sef Canolfannau Gwasanaethau Cwsmeriaid lle gellir tynnu llun ohonoch. Ar hyn o bryd, ni chodir tâl am dynnu llun.

Ni chodir tâl am y Bathodyn Glas i'r bobl sy'n byw yng Nghymru'n barhaol.

Nid yw'ch Bathodyn Glas yn adnewyddu yn awtomatig. Mae gan bob bathodyn ddyddiad dod i ben, rydym yn argymell eich bod yn adnewyddu eich Bathodyn Glas tua 12 wythnos cyn y dyddiad a argraffwyd ar y bathodyn. Gallwch chi wneud hyn trwy:

Gall rhiant plentyn sy'n iau na 3 oed wneud cais am Fathodyn Glas os oes gan ei blentyn:

  • Cyflwr meddygol lle mae'n ofynnol fod offer meddygol swmpus, na ellir ei gario o amgylch gyda'r plentyn heb anhawster mawr, yn cael ei gadw gydag ef/hi bob amser
  • neu cyflwr meddygol sy'n golygu bod angen i'r plentyn fod yn ymyl ei gerbyd modur bob amser naill ai i gael triniaeth neu i'w gludo i leoliad lle gall gael triniaeth.

Wedi'i i ddwyn

Os caiff eich Bathodyn Glas ei ddwyn bydd angen i chi gysylltu â'r heddlu a fydd yn darparu cyfeirnod trosedd.

Ar goll

Os yw eich Bathodyn Glas ar goll, dylech roi gwybod i ni am hyn trwy ein ffonio ar 01267 234567.

Wedi'i ddifrodi

Os yw bathodyn wedi'i ddifrodi i'r fath raddau fel nad oes modd i'r bobl a fydd yn gwirio'r bathodyn ei ddarllen pan gaiff ei ddefnyddio ar gyfer parcio neu gonsesiynau eraill, bydd angen i chi ddychwelyd y Bathodyn Glas sydd wedi'i ddifrodi i unrhyw un o'r Hwb Canolfannau Gwasanaethau Cwsmeriaid neu ei bostio i: Tîm y Bathodynnau Glas, Adran Cymunedau, Cyngor Sir Caerfyrddin, 3 Heol Spilman, Caerfyrddin, SA3 1LE.

Y Cam Nesaf

Ar ôl ichi roi gwybod am eich bathodyn sydd ar goll, wedi'i ddwyn neu wedi'i ddifrodi, bydd angen i chi wneud cais am fathodyn glas newydd yn ei le. Mae'r bathodyn newydd yn ddilys tan ddyddiad dod i ben y bathodyn gwreiddiol. Gallwch wneud cais am fathodyn newydd ar-lein ar wefan Gov.uk.

Ar hyn o bryd, ni chodir ffi am fathodynnau newydd (nid adnewyddiadau) sy'n cael eu rhoi os yw bathodyn ar goll, wedi'i ddwyn neu wedi'i ddifrodi.  

Os yw eich bathodyn i fod i ddod i ben mewn llai na 3 mis, mae angen i chi ailymgeisio yn lle gwneud cais newydd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael uchod o fewn yr adran ‘Sut y gallaf wneud cais am Fathodyn Glas’.

Os yw eich Bathodyn Glas wedi dod i ben neu os nad oes ei angen mwyach, dylech ddychwelyd y bathodyn i'r cyfeiriad rhadbost canlynol: 

Y Tîm Bathodyn Glas
Adran Cymunedau
Cyngor Sir Gâr
3 Heol Spilman
Caerfyrddin
SA31 1LE

Neu gallwch eu cyflwyno i unrhyw Hwb sef Ganolfan Gwasanaeth Cwsmeriaid.

Gellir rhoi Bathodyn Glas i sefydliad ar gyfer cerbyd modur a ddefnyddir i gludo pobl anabl sydd ag anabledd parhaol neu sylweddol ac sy'n methu cerdded neu sy'n ei chael yn anodd iawn cerdded.

Bydd bathodyn yn cael ei roi i sefydliad sydd â cherbydau wedi eu trwyddedu o dan ddosbarth treth Cerbydau Cludo Teithwyr Anabl.

Er mwyn prosesu'r cais bydd angen:

  • Copi o'r llyfr log cerbydau - V5

Gallwch wneud cais am fathodyn ar gyfer sefydliad wrth:

Os yw eich cais wedi ei wrthod ac os ydych yn barnu bod eich cyflwr yn newid, neu nad oedd yr holl ffeithiau perthnasol wedi eu hystyried, gallwch apelio yn erbyn y penderfyniad, a byddwn yn ailystyried eich cais.

Dylech ysgrifennu at Dîm y Bathodyn Glas yn y cyfeiriad isod i ofyn am i'ch cais gael ei ailystyried, gan gynnwys unrhyw wybodaeth ychwanegol sy'n berthnasol yn eich barn chi:

Tîm y Bathodyn Glas
Cyngor Sir Gâr
Adran Cymunedau
3 Heol Spilman
Caerfyrddin
SA31 1LE

 

Os oes gennych Fathodyn Glas, dylid ond ei ddefnyddio pan fyddwch yn gyrru cerbyd neu'n teithio ynddo ar daith sydd er eich lles chi. Ni ddylech adael i bobl eraill ddefnyddio'r bathodyn os nad ydych chi'n bresennol gyda nhw, hyd yn oed os taw ar eich rhan chi y maent yn gwneud y daith.

Mae camddefnyddio Bathodyn Glas yn drosedd a'r ddirwy fwyaf y gall rhywun ei chael os caiff ei ddyfarnu'n euog yw £1000 ynghyd ag unrhyw ddirwy ychwanegol am y drosedd barcio gysylltiedig. Os ydych yn barnu bod rhywun yn camddefnyddio Bathodyn Glas, gallwch roi gwybod am hynny drwy ffonio 01267 234567. Ymchwilir i bob galwad.

Nid yw'r Bathodyn Glas yn drwydded i barcio yn unrhyw le. Mae taflen Hawliau a Chyfrifoldebau'r Cynllun Bathodyn Glas yng Nghymru yn esbonio'ch cyfrifoldebau o gael Bathodyn Glas ac yn esbonio ble y gallwch barcio.

Llwythwch mwy