Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid

Diweddarwyd y dudalen ar: 21/03/2024

Mae angen i bobl nad oes ganddynt alluedd meddyliol gael gofal mewn modd sy'n sicrhau eu bod yn ddiogel, ond cyn belled ag y bo modd, dylent hefyd fod yn rhydd i wneud y pethau y maent am eu gwneud.

Mae'r Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid (DoLS) yn rhan o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005. Maent yn berthnasol i oedolion

  • sydd yn yr ysbyty
  • sy'n byw mewn cartref gofal
  • Yn yr ysbyty/ cartref gofal a heb y galluedd meddyliol i gydsynio i driniaeth neu ofal.

Os yw rhywun yn cael ei atal rhag gwneud yr hyn y mae am ei wneud, gelwir hyn yn cael ei amddifadu o'i ryddid. Weithiau gall pobl sy'n cael triniaeth neu ofal gael eu hamddifadu o'u rhyddid er mwyn eu cadw'n ddiogel.

Weithiau mae amddifadu rhywun o'i ryddid er ei fudd pennaf.  Nod hyn yw  atal rhywun rhag cael niwed.

Byddai'n rhaid i bobl sy'n gyfrifol am wneud penderfyniadau ar ran y person hwnnw fod yn sicr bod y penderfyniadau hynny er budd pennaf y person hwnnw ac nad oes ffordd arall o ofalu amdano’n ddiogel.

Mae'r Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid yno i sicrhau, os yw rhywun yn cael ei amddifadu o'i ryddid, ei fod yn cael ei wneud mewn ffordd gyfreithiol, gymesur ac sy'n amddiffyn yr unigolyn.

Os yw'r ysbyty neu'r cartref gofal yn credu ei fod er budd pennaf yr unigolyn i gael ei amddifadu o'i ryddid, mae'n rhaid gwneud cais am awdurdodiad DoLS ac i’r cais hwnnw gael ei dderbyn. 

Cyngor Sir Caerfyrddin yw'r Corff Goruchwylio ar gyfer yr awdurdodiadau hynny lle mae'r person yn byw mewn cartref preswyl neu gartref nyrsio ac sydd fel arfer yn byw yn Sir Gaerfyrddin. Mae gan ysbytai eu corff goruchwylio eu hunain pan fydd claf yn cael ei amddifadu o'i ryddid mewn ysbyty.

Gelwir y Cartref Gofal yn 'Awdurdod Rheoli' wrth ddechrau ar y broses hon. 

Rhaid i'r Awdurdod Rheoli wneud cais i'r Corff Goruchwylio.

Ar ôl i'r Awdurdod Rheoli (Cartref Gofal) wneud cais am awdurdodiad Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid (DoLS), mae'n golygu bod yn rhaid i'r corff goruchwylio fod yn fodlon bod y meini prawf wedi cael eu bodloni ac mae'n gyfrifol am benodi o leiaf ddau weithiwr proffesiynol i asesu'r person a gwirio bod yr holl seiliau perthnasol wedi'u bodloni cyn i awdurdodiad DoLS gael ei gyhoeddi. 

Ceir 6 rhan i'r broses asesu:

  • Asesiad oedran - A yw'r person dros 18 oed?
  • Iechyd Meddwl – A oes gan y person anhwylder meddwl?
  • Galluedd Meddyliol – A oes diffyg galluedd meddyliol gan y person i wneud penderfyniad am ei drefniadau gofal a colled o ryddid sy'n deillio ohono?
  • Budd Pennaf – A yw amddifadu o ryddid yn berthnasol? Os felly:

-a yw hyn er budd pennaf y person?

- a oes angen cadw'r person yn ddiogel rhag niwed?

- a yw'n ymateb rhesymol i'r tebygolrwydd y bydd y person yn dioddef niwed (gan gynnwys opsiynau llai cyfyngol ac os ydynt yn fwy priodol).

  • Cymhwysedd - A yw'r person eisoes yn agored i gael ei gadw o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983, neu a fyddai'n bodloni'r gofynion i gael ei gadw o dan y Ddeddf hon? Os felly, y Ddeddf Iechyd Meddwl sy’n berthnasol ac nid y Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid.
    • Dim Gwrthod – A fyddai'r awdurdodiad yn gwrth-ddweud neu'n gwrthdaro ag unrhyw benderfyniad y mae'r person wedi'i wneud ymlaen llaw o ran gwrthod triniaeth neu unrhyw benderfyniadau a wnaed, er enghraifft, drwy ddirprwy a benodwyd gan y llys neu rywun sydd ag Atwrneiaeth Arhosol.

Os caiff awdurdodiad ei gyhoeddi gan y Corff Goruchwylio (y Cyngor) rhaid iddo benodi Cynrychiolydd y Person Perthnasol cyn gynted â phosibl i gynrychioli'r person sydd wedi cael ei amddifadu o'i ryddid.

Rôl Cynrychiolydd y Person Perthnasol

  • Cadw mewn cysylltiad â'r Person Perthnasol.
  • Cynrychioli a chynorthwyo’r Person Perthnasol ym mhob mater yn ymwneud â’r Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid

gan gynnwys dechrau adolygiad os oes angen. Gall hyn gynnwys gwneud cais i'r Llys Gwarchod.

Gellir penodi aelod o'r teulu neu ffrind i rôl Cynrychiolydd y Person Perthnasol ond os nad oes unrhyw un addas yna bydd y Corff Goruchwylio (y Cyngor) yn penodi cynrychiolydd cyflogedig.  Gelwir hyn yn Eiriolwr Annibynnol o ran Galluedd Meddyliol (IMCA). 

Bydd Cynrychiolydd y Person Perthnasol yn cael ei hysbysu'n ysgrifenedig, gan gynnwys manylion megis pwrpas amddifadu o ryddid a'r cyfnod y bydd ar waith. Mae dau fath o gais am awdurdodiad - safonol a brys.

Awdurdodiad Brys

Mae Awdurdodiad Brys yn ddilys am uchafswm o 7 diwrnod calendr, ac mae’n cael ei roi yn unig os yw’n glir bod angen amddifadu person o’i ryddid ar unwaith er ei fudd pennaf er mwyn ei ddiogelu rhag niwed.

 Awdurdodiad Safonol

Awdurdodiad safonol yw'r math mwyaf cyffredin o awdurdodiad. Dylid gwneud cais am y math hwn o awdurdodiad cyn i berson gael ei amddifadu o’i ryddid a dim ond pan mae’n glir na fydd camau llai cyfyngol yn diwallu anghenion y person.

Ar ôl i awdurdodiad safonol gael ei roi, gall bara am 12 mis ar y mwyaf, ond dylid gwneud pob ymdrech i sicrhau ei fod yn ei le am gyn lleied o amser â phosibl.

Pan fydd corff goruchwylio yn derbyn cais gan gartref gofal am awdurdodiad amddifadu o ryddid safonol, lle nad oes awdurdodiad brys wedi'i roi, bydd ganddo 21 diwrnod calendr i gwblhau’r broses asesu

Pan ddaw awdurdodiad i ben am unrhyw reswm, dylai'r corff goruchwylio hysbysu'r person neu Gynrychiolydd y Person Perthnasol yn ysgrifenedig. Dylai’r achos o amddifadu’r person o’i ryddid ddod i ben ar unwaith.  Mae hyn hefyd yn berthnasol pe caiff awdurdodiad ei atal, sydd yn bosibl am 28 diwrnod calendr ar y mwyaf.

Rydym yn deall mewn rhai achosion efallai na fydd y person neu Gynrychiolydd y Person perthnasol neu rywun sy'n gweithredu ar ei ran yn cytuno ag Amddifadedd.  Yn yr achosion hyn, rydym yn awgrymu bod Cynrychiolydd y Person Perthnasol, ffrind, aelod o'r teulu yn siarad â Rheolwr y Cartref Gofal yn y lle cyntaf.  Gellir cynnal adolygiad o'r Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid os gofynnir amdano. Os ydych yn ystyried bod canlyniad yr adolygiad hwn yn anfoddhaol, yna gellir gwneud cais i'r Llys Gwarchod, i ystyried y sefyllfa ymhellach . Mae gan y person sy'n cael ei orfodi ac mae gan y RPR hawl i gael cymorth gan Eiriolwr Annibynnol Arbenigol ar Capaciti Meddyliol (IMCA).