Grant Tyfu Busnes

10. Polisi Amgylcheddol

Mae'r Awdurdod Lleol wedi ymrwymo i ddod yn sero carbon net erbyn 2030 ac mae'n awyddus i hyrwyddo arferion busnes cynaliadwy trwy ei raglenni cyllido. Fel rhan o'r cais gofynnir ichi sut mae'ch busnes yn dangos ymrwymiad i ddatblygu cynaliadwy ac yn ymrwymo i Addewid Twf Gwyrdd Llywodraeth Cymru

Os cewch eich gwahodd i gyflwyno cais llawn, bydd angen i chi ddarparu polisi a chynllun gweithredu amgylcheddol. Os oes angen help arnoch i ysgrifennu'r polisi, cysylltwch â Busnes Cymru. Byddem hefyd yn eich annog i gytuno i Addewid Twf Gwyrdd Llywodraeth Cymru.

Bydd eich ymrwymiad i leihau effaith eich busnes ar yr amgylchedd nid yn unig yn cynorthwyo'r Sir i fod yn garbon sero-net, bydd hefyd yn eich helpu i fanteisio ar gyfleoedd ariannu yn y dyfodol. Gofynnir i chi ddangos dull eich busnes o gefnogi'r agenda bwysig hon mewn unrhyw geisiadau am grantiau yn y dyfodol.