Grant Tyfu Busnes
Yn yr adran hon
11. Rheoli Cymorthdaliadau
Bydd disgwyl i chi roi gwybod i ni gyda'ch ffurflen gais am unrhyw grantiau a chymorth arall a dderbynioch gan y sector cyhoeddus dros y 3 blynedd ariannol ddiwethaf.
Dyfernir Grant Cychwyn Busnes Sir Gaerfyrddin o dan Reolau Cymorthdaliadau'r DU – Hawliau Arbennig Tynnu Arian, ac felly mae'n ofynnol i chi roi gwybod i ni am unrhyw gyllid cyhoeddus a dderbynioch dros unrhyw gyfnod o 3 blynedd ariannol. Ni all hyn fod yn fwy na £335,000 dros unrhyw gyfnod o'r tair blynedd yn unol â Chytundeb Masnach a Chydweithredu'r DU-UE.
Lwfans Symiau Bach o Gymorth Ariannol - mae'r lwfans hwn yn cyfateb i £335,000 o Hawliau Arbennig Tynnu Arian [1], i un cyfranogwr economaidd dros unrhyw gyfnod o dair blynedd ariannol ac mae'n cynnwys unrhyw gymhorthdal a dderbyniwyd yn flaenorol fel cymorth de minimis neu fel Symiau Bach o Gymorth Ariannol o dan Erthygl 3.2(4) o'r Cytundeb Masnach a Chydweithredu (TCA) gan unrhyw gorff dyfarnu cymhorthdal.
[1] Ar 2 Mawrth 2021 roedd hyn yn cyfateb i £335,000. Gellir defnyddio'r gyfrifiannell Hawl Arbennig Tynnu Arian yma i gyfrifo'r gyfradd gyfnewid ar y diwrnod y dyfarnwyd y cymhorthdal: https://coinmill.com/SDR_calculator.html.