Derbyn i Ysgolion 2023-2024- Gwybodaeth i Rieni

Derbyn i Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir

Dylai rhieni sy'n dymuno anfon eu plentyn i Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir gysylltu â Phennaeth yr ysgol honno. Nodir y manylion cyswllt ar wahân yn y rhestr ysgolion yn y llyfryn hwn. Corff Llywodraethu'r ysgol sy'n delio â'r trefniadau derbyn ac apeliadau ar gyfer Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir.

Mae ein polisi derbyn fel a ganlyn:-

Nifer Derbyn yr ysgol yw 60 disgybl. Golyga hynny mai nifer y disgyblion y gellir eu derbyn i unrhyw grŵp blwyddyn yn yr ysgol yw 60 disgybl. Os oes mwy o geisiadau nag sydd o lefydd defnyddir y meini prawf canlynol er mwyn blaenoriaethu ceisiadau:-

  1. Plant sy’n Derbyn Gofal a Phlant oedd yn Arfer Derbyn Gofal.
  2. Plant sy'n byw ym mhlwyfi hanesyddol Dewi Sant a San Pedr, Caerfyrddin.
  3. Plant sydd â brodyr neu chwiorydd sydd eisoes yn mynychu'r ysgol.
  4. Plant sydd wedi cael bedydd Cristnogol ac sy’n byw’r tu allan i blwyf Dewi Sant a San Pedr, os oes lle ar gael. Gellid gofyn hefyd am lythyr o gefnogaeth oddi wrth yr offeiriad plwyf lleol.

Bydd plant sydd â datganiadau o Anghenion Addysgol sy'n enwi'r ysgol yn cael llefydd cyn defnyddio'r meini prawf gor-alw.

Sylwer - ym mhob un o'r categorïau uchod rhoddir blaenoriaeth i:

  • Plant sy'n derbyn gofal a phlant sy'n preswylio dros dro yn lloches Cymorth i Fenywod Caerfyrddin.
  • Plant aelodau o'r lluoedd arfog sy'n cael eu derbyn y tu allan i'r cylch derbyn arferol.
  • Bydd plant sydd ag efaill neu frawd neu chwaer arall o enedigaeth luosog yn cael eu derbyn yn ddisgyblion na chânt eu heithrio, fel y disgybl(ion) olaf i gael lle cyn cyrraedd y nifer derbyn.
  • Bydd y disgyblion a eithrir bellach yn cynnal y statws hwn ar hyd eu cyfnod mewn dosbarth babanod neu tan fod dosbarthiadau yn cael eu haildrefnu neu fod niferoedd yn cyrraedd lefel sy'n cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth ynghylch maint dosbarthiadau babanod.
  • Bydd y pellter o’r cartref i’r ysgol, fel y mesurwyd gan y radiws byrraf o'r adeilad ysgol fwyaf canolog, yn cael ei ddefnyddio yn faen prawf ar gyfer penderfynu ar flaenoriaeth, a rhoddir blaenoriaeth a lle yn yr ysgol i’r sawl sy’n byw agosaf at yr ysgol dros y sawl sy’n byw ymhellach i ffwrdd.

Os nad ydym yn cynnig lle i blentyn yn yr ysgol hon, y rheswm am hynny yw y byddai gwneud hynny yn amharu ar addysg plant eraill drwy ganiatáu i niferoedd y plant yn yr ysgol gynyddu gormod.

Apeliadau Derbyn i Ysgolion

Bydd y Corff Llywodraethu'n trefnu bod apêl gan riant yn erbyn penderfyniad i wrthod derbyn disgybl yn cael ei chlywed gan Bwyllgor Apêl Annibynnol yn unol â’r rheoliadau. Bydd penderfyniad y Pwyllgor Apêl Annibynnol yn rhwymo’r Corff Llywodraethu a’r rhiant.

Y Meini Prawf o Ran Derbyn i Ysgol Penboyr

Os bydd nifer y plant sy'n ceisio lle yn yr ysgol yn fwy na nifer y llefydd sydd ar gael, cynigir lle ar sail blaenoriaeth yn y drefn ganlynol:

(a.i)Plant sy’n derbyn gofal sy'n gymunwyr y ffydd Anglicanaidd.
(a.ii) Plant a oedd yn arfer derbyn gofal, sy'n gymunwyr y ffydd Anglicanaidd ac sydd bellach wedi cael eu mabwysiadu.
(b.i) Plant sy'n derbyn gofal.
(b.ii) Plant a oedd yn derbyn gofal ond sydd bellach wedi cael eu mabwysiadu.
(c)Plant sydd â brodyr neu chwiorydd, p'un a yw'r rhein y'n frodyr neu chwiorydd maeth, mabwysiedig neu sy'n byw yn barhaol yn yr un cyfeiriad, sydd yn mynychu’r ysgol ar y dyddiad derbyn ar faethedig.
(ch) Plant sy'n byw yn nalgylch yr ysgol.
(d)Plant o deuluoedd sy'n byw y tu allan i'r ardal ond sy'n gymunwyr rheolaidd mewn eglwys Anglicanaidd.
(dd)Plant o deuluoedd sy'n perthyn i enwadau Cristnogol eraill ac sy'n byw y tuallan i'r dalgylch ac y mae eu rhieni am iddynt dderbyn addysg mewn Ysgol Eglwysig Anglicanaidd.
(e)Plant o deuluoedd sy'n byw y tu allan i'r dalgylch nad ydynt yn addolwyr Cristnogol ond y mae eu rhieni am iddynt dderbyn addysg mewn Ysgol Eglwysig Anglicanaidd.

Ym mhob achos, mae 'hawl i apelio' yn erbyn penderfyniad i wrthod cais am dderbyn plentyn i'r ysgol ac mae'n rhaid cyflwyno'r apêl i Gadeirydd y Corff Llywodraethu.

Apeliadau Derbyn i Ysgolion

Bydd y Corff Llywodraethu'n trefnu bod apêl gan riant yn erbyn penderfyniad i wrthod derbyn disgybl yn cael ei chlywed gan Bwyllgor Apêl Annibynnol yn unol â’r rheoliadau. Bydd penderfyniad y Pwyllgor Apêl Annibynnol yn rhwymo’r Corff Llywodraethu a’r rhiant.

Cyfrifoldeb y Corff Llywodraethu yw derbyn plant i'r ysgol. Hyn a hyn o ddisgyblion y caiff ysgol eu derbyn mewn unrhyw grŵp blwyddyn. Y Nifer Derbyn presennol yw 27 mewn unrhyw grŵp blwyddyn.

Ysgol Gynradd Wirfoddol a Gynorthwyir yr Eglwys yng Nghymru yw Pentip yn bennaf, sy'n gwasanaethu Deoniaeth Lliedi ac ardal Llanelli fel y nodir ar fap yr ALl. Mae'r Llywodraethwyr yn croesawu ceisiadau gan rieni disgyblion o enwadau eraill sy'n cefnogi ethos a thraddodiadau Cristnogol yr ysgol.

Mae'r corff llywodraethu'n ystyried ceisiadau am dderbyn i'r ysgol yn ystod Tymor yr Hydref cyn y flwyddyn academaidd y bydd y disgybl yn dechrau yn yr ysgol. Dylid gwneud ceisiadau i'r Swyddog Gweinyddol. Rhif Ffôn: 01554 758602, e- bost: admin@pentip.ysgolccc.cymru. Pe bai gor-alw ar gyfer llefydd, mae'r meini prawf ar gyfer derbyn fel a ganlyn:

  1. Disgyblion sydd â naill ai frawd neu chwaer eisoes yn yr ysgol.
  2. Plant sy’n byw o fewn y dalgylch dynodedig ar gyfer yr ysgol fel y dangosir ar fap yr ALl. Mae map yn dangos y dalgylch ar gael yn yr ysgol.
  3. Plant yr Eglwys yng Nghymru a fedyddiwyd yn Neoniaeth Bro Lliedi.
  4. Plant rhieni enwadau eraill sy'n dymuno rhannu a chefnogi ethos a thraddodiadau Cristnogol yr ysgol.

Sylwch - ym mhob un o'r categorïau uchod rhoddir blaenoriaeth i blant sy'n derbyn gofal.

Os gwrthodir cais am le, mae gan rieni'r hawl i apelio. Dylid anfon llythyr at Gadeirydd y Corff Llywodraethu yn apelio yn erbyn y penderfyniad i beidio â chynnig lle. Caiff hwn ei glywed gan banel apeliadau annibynnol. Bydd penderfyniad y panel yn rhwymo'r llywodraethwyr a'r apelyddion.

Y Broses Ymgeisio

Gellir cael ffurflenni cais am fynediad i’r ysgol drwy ofyn amdanynt oddi wrth Swyddog Gweinyddol yr Ysgol a dylid eu dychwelyd i’r ysgol. Rhif ffôn: 01554 759178, e-bost: admin@stmarysllanelli.ysgolccc.cymru. Yna, caiff ceisiadau am fynediad i'r Ysgol eu hystyried gan y Pwyllgor Derbyn a Bugeilio bob tymor ar gyfer mynediad ddechrau'r tymor nesaf. Mae plant meithrin yn cael eu derbyn yn y tymor ar ôl eu trydydd pen-blwydd. Bydd ceisiadau hwyr, neu geisiadau a wneir ar ôl i’r Pwyllgor gyfarfod, yn cael eu trafod yn brydlon; fel arfer, byddant yn cael eu hystyried gan ddau aelod o’r Pwyllgor a enwebwyd at y diben hwnnw gan y Pwyllgor i weithredu ar ei ran.

Y Meini Prawf Gor-alw

Mae Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair yn croesawu ceisiadau gan deuluoedd sy’n ceisio addysg Gristnogol i’w plant. Os bydd nifer yr ymgeiswyr yn fwy na nifer y llefydd sydd ar gael, defnyddir y meini prawf gor-alw canlynol:

  1. Plant Catholig sydd wedi'u bedyddio 'sy'n derbyn gofal' ac 'a oedd yn arfer derbyn gofal' sydd yng ngofal awdurdod lleol (plant mewn gofal) neu sy'n cael llety ganddynt e.e. plant â rhieni maeth neu sydd â datganiad anghenion arbennig yn enwi'r ysgol, o fewn y plwyfi a wasanaethir gan yr ysgol.
  2. ‘Plant sy'n derbyn gofal' a 'Phlant a oedd yn arfer derbyn gofal' sydd yng ngofal yr awdurdod lleol (plant mewn gofal) neu sy'n cael llety ganddynt e.e. plant â rhieni maeth neu sydd â datganiad anghenion arbennig yn enwi'r ysgol, o fewn y plwyfi a wasanaethir gan yr ysgol.
  3. Plant Catholig sydd wedi'u bedyddio o fewn y plwyfi a wasanaethir gan yr ysgol.
  4. Plant Catholig eraill sydd wedi’u bedyddio.
  5. Plant sydd â brawd neu chwaer yn yr ysgol ar yr adeg derbyn tebygol.
  6. Plant o enwadau Cristnogol eraill.
  7. Plant eraill sydd â brawd neu chwaer yn yr ysgol ar adeg eu derbyn.
  8. Plant o grefyddau eraill y mae eu rhieni yn ceisio addysg Gatholig.
  9. Plant eraill y mae eu rhieni yn ceisio addysg Gatholig ar gyfer eu plentyn.
  10. Plant y mae'r AALl wedi gofyn yn benodol am le iddynt yn yr ysgol.

Sylwch:

  • Ym mhob un o'r categorïau uchod rhoddir blaenoriaeth i blant sy'n derbyn gofal.
  • Ym mhob un o’r categorïau uchod, bydd y pellter o’r cartref i'r ysgol yn ffactor sydd penderfynu, gyda’r rheiny sy’n byw agosaf at yr ysgol yn cael y flaenoriaeth uchaf.

Apeliadau

Os gwrthodir cais am le, mae gan rieni’r hawl i apelio. Dylid anfon llythyr at Gadeirydd y Corff Llywodraethu yn apelio yn erbyn y penderfyniad i beidio â chynnig lle. Caiff yr Apêl ei chlywed gan Banel Apêl Annibynnol; mae hwn yn annibynnol ar y Corff Llywodraethu a holl gynrychiolwyr eraill yr ysgol, a bydd ei benderfyniad yn rhwymo’r Corff Llywodraethu a’r apelyddion.

Y Broses Ymgeisio

Gellir cael ffurflenni cais am fynediad i’r ysgol, drwy ofyn amdanynt, oddi wrth Swyddog Gweinyddol yr Ysgol a dylid eu dychwelyd i’r ysgol. Rhif ffôn: 01267 234297, e-bost: admin@stmaryscarm.ysgolccc.cymru. Yna, mae ceisiadau am fynediad i’r ysgol yn cael eu hystyried gan y Pwyllgor Derbyn a Bugeilio bob tymor ar gyfer mynediad ddechrau’r tymor nesaf. Mae plant meithrin yn cael eu derbyn yn y tymor ar ôl eu trydydd pen-blwydd. Bydd ceisiadau hwyr, neu geisiadau a wneir ar ôl i’r Pwyllgor gyfarfod, yn cael eu trafod yn brydlon; fel arfer, byddant yn cael eu hystyried gan ddau aelod o’r Pwyllgor a enwebwyd at y diben hwnnw gan y Pwyllgor i weithredu ar ei ran.

Y Meini Prawf Gor-alw

Mae Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair yn croesawu ceisiadau gan deuluoedd sy’n ceisio addysg Gristnogol i’w plant. Os bydd nifer yr ymgeiswyr yn fwy na nifer y llefydd sydd ar gael, defnyddir y meini prawf gor-alw canlynol:

  1. Plant Catholig sydd wedi'u bedyddio.
  2. Plant eraill nad ydynt yn Gatholig sydd wedi'u bedyddio.
  3. Plant sy’n perthyn i gymunedau ffydd nad ydynt yn Gristnogol.
  4. Plant sydd â brawd neu chwaer (h.y. brawd, chwaer, hanner brawd, hanner chwaer, llysfrawd, llyschwaer, brawd mabwysiadol neu chwaer fabwysiadol) wedi’u cofrestru yn yr ysgol pan fydd y plentyn yn cael ei (d)derbyn i’r ysgol.
  5. Gall y Corff Llywodraethu roi ystyriaeth i geisiadau a wnaed gan rieni a all ddangos bod mynediad yn angenrheidiol er lles meddygol neu gymdeithasol eu plentyn. Bydd angen tystiolaeth ategol annibynnol.

Sylwch:

  • Ym mhob un o'r categorïau uchod rhoddir blaenoriaeth i blant sy'n derbyn gofal.
  • Ym mhob un o’r categorïau uchod, bydd y pellter o’r cartref i'r ysgol yn ffactorsy’n penderfynu, gyda’r rheiny sy’n byw agosaf at yr ysgol yn cael y flaenoriaethuchaf.

Apeliadau

Os gwrthodir cais am le, mae gan rieni'r hawl i apelio. Dylid anfon llythyr at Gadeirydd y Corff Llywodraethu yn apelio yn erbyn y penderfyniad i beidio â chynnig lle. Caiff yr Apêl ei chlywed gan Banel Apêl Annibynnol; mae hwn yn annibynnol ar y Corff Llywodraethu a holl gynrychiolwyr eraill yr ysgol, a bydd ei benderfyniad yn rhwymo’r Corff Llywodraethu a’r apelyddion.

Y Meini Prawf Gor-alw o ran Derbyniadau

Mae Polisi Derbyn a Gor-alw Llywodraethwyr Ysgol Gyfun Gatholig Sant Ioan Llwyd fel a ganlyn:

Nid yw hyn yn effeithio ar hawl rhieni nad ydynt o'r un ffydd â'r ysgol hon neu nad ydynt o gefndir ffydd i wneud cais am le yma a chael eu hystyried ar ei gyfer. Yn wir, mae'r Ysgol yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan bob teulu. 105 yw Nifer Derbyn yr Ysgol ar hyn o bryd.

Os yw nifer y ceisiadau'n fwy na'r nifer derbyn, bydd y llywodraethwyr yn rhoi blaenoriaeth i'r ceisiadau'n unol â'r meini prawf a restrir, ar yr amod bod y llywodraethwyr yn gwybod am y ceisiadau hynny cyn bod penderfyniadau ynghylch derbyniadau'n cael eu gwneud. Ym mhob categori bydd y llywodraethwyr yn rhoi blaenoriaeth i'r sawl sydd â brawd neu chwaer yn mynychu Ysgol Gyfun Gatholig Sant Ioan Llwyd ac yna i'r plant sy'n byw agosaf i'r ysgol yn ôl y pellter byrraf.

  1. Plant Catholig sydd wedi'u bedyddio ac sydd yng ngofal awdurdod lleol (plant mewn gofal) neu sy'n cael llety drwy awdurdod lleol (e.e. plant â rhieni maeth) (Adran 22 o Ddeddf Plant 1989) a phlant sydd â datganiad o Anghenion Dysgu Ychwanegol sydd wedi enwi Ysgol Sant Ioan Llwyd.
  2. Plant nad ydynt yn Gatholig sydd yng ngofal awdurdod lleol (plant sy'n derbyn gofal) neu sy'n cael llety drwy awdurdod lleol (e.e. plant â rhieni maeth) (Adran 22 o Ddeddf Plant 1989) a phlant sydd â datganiad o Anghenion Dysgu Ychwanegol sydd wedi enwi Ysgol Sant Ioan Llwyd.
  3. Plant Catholig sydd wedi'u bedyddio ac sydd yn mynychu ysgol fwydo Gatholig ddynodedig ar hyn o bryd.
  4. Plant Catholig sydd wedi'u bedyddio ac sy'n byw ar hyn o bryd yn ardal plwyf ysgol fwydo Gatholig ddynodedig nad ydynt yn mynychu'r ysgol fwydo Gatholig ddynodedig ar hyn o bryd.
  5. Plant yr Eglwys yng Nghymru sydd wedi’u bedyddio.
  6. Plant eraill sydd heb eu bedyddio sydd ar hyn o bryd yn mynychu ysgol fwydo Gatholig ddynodedig.
  7. Plant eraill sydd heb eu bedyddio sy'n mynychu ysgolion yr Eglwys yng Nghymru.
  8. Plant eraill nad ydynt yn Gatholigion o ysgolion cynradd eraill.

Y Broses Ymgeisio

Gofynnir i rieni wneud cais yn uniongyrchol i'r ysgol gan ddefnyddio ffurflen gais yr ysgol. Mae'r rhain ar gael o swyddfa'r ysgol a hefyd yn cael eu dosbarthu yn y Noson Agored ar gyfer disgyblion blwyddyn 6 a'u rhieni ym mis Hydref. Yn ogystal, mae'n rhaid i rieni wneud cais ar-lein drwy dudalen Derbyniadau Ysgolion Sir Gaerfyrddin a dewis Ysgol Sant Ioan Llwyd fel eu dewis cyntaf. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau blwyddyn 6 ar gyfer 2023-2024 yw 20 Rhagfyr 2022. Rhoddir gwybod i rieni os yw eu plentyn wedi cael cynnig lle yn dilyn cyfarfod yr Is-bwyllgor Derbyniadau i Lywodraethwyr yn nhymor y Gwanwyn. Bydd cynigion o lefydd mewn ysgolion yn cael eu hanfon drwy e-bost at rieni ar 1 Mawrth 2023.

Apeliadau

Os gwrthodir cais am le, mae gan rieni'r hawl i apelio. Dylid anfon llythyr at Gadeirydd y Corff Llywodraethu (d/o yr ysgol), yn apelio yn erbyn y penderfyniad i beidio â chynnig lle. Caiff yr apêl ei hystyried gan Banel Apêl Annibynnol, na all gynnwys unrhyw un o Lywodraethwyr na chynrychiolwyr eraill yr ysgol.