Derbyn i Ysgolion 2025-2026- Gwybodaeth i Rieni

Cyflwyniad

Annwyl rieni a gwarcheidwaid,
Croeso i Sir Gaerfyrddin, lle mae taith ddysgu pob plentyn yn flaenoriaeth gyffredin. Fel awdurdod lleol, rydym yn falch o gynnig amgylchedd diogel, cefnogol a chynhwysol lle mae pob disgybl yn cael ei annog i ffynnu, i archwilio eu diddordebau, a chyrraedd eu potensial llawn.
Ein gweledigaeth fel Gwasanaeth Addysg yw y byddwn yn cefnogi ein holl ddysgwyr gan sicrhau eu bod yn hapus, yn ddiogel, yn ffynnu, ac yn cyflawni eu potensial personol, cymdeithasol a dysgu. Fel gwasanaeth, rydym yn ymdrechu i fod y gorau y gallwn fod ac rydym yn uchel ein parch yn lleol, gan ennill cydnabyddiaeth genedlaethol a rhyngwladol hefyd.
Rydym yn gweithio'n ddiwyd i ddarparu'r addysg o'r ansawdd uchaf posibl er mwyn datblygu-
• Dysgwyr uchelgeisiol, galluog sy'n barod i ddysgu trwy gydol eu bywydau.
• Unigolion iach, hyderus, yn barod i fyw bywydau boddhaus fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.
• Cyfranwyr mentrus, creadigol, yn barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith.
• Dinasyddion moesegol, gwybodus o Gymru a'r byd.

Arolygodd Estyn ein Gwasanaethau Addysg ym mis Gorffennaf 2023. Mae'r adroddiad cynhwysfawr, sydd ar gael ar wefan Estyn yn nodi ystod o gryfderau ac yn cadarnhau ein bod yn darparu gwasanaethau o ansawdd uchel i ddiwallu anghenion dysgwyr Sir Gaerfyrddin. Cymeradwywyd pwysigrwydd a phriodoldeb ein Strategaeth 10 mlynedd (Addysg Sir Gâr 2022-2032) i sefydlu gwasanaethau addysg gynaliadwy, gan roi ystyriaeth gadarn iawn i'r egwyddorion a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Ein hymrwymiad yw darparu cwricwlwm atyniadol sy’n adlewyrchu diwylliant, iaith a threftadaeth gyfoethog Sir Gaerfyrddin a Chymru wrth feithrin ymwybyddiaeth fyd-eang a meddwl beirniadol. Rydym yn ymdrechu i ddatblygu dysgwyr hyderus, chwilfrydig a thosturiol sydd wedi'u paratoi'n dda ar gyfer y dyfodol. Trwy addysgu arloesol a chefnogaeth ymroddedig, ein nod yw ysbrydoli cariad gydol oes at ddysgu ym mhob dysgwr.
Ein nod yw bod pob dysgwr yn cael cyfleoedd i ddod yn ddwyieithog neu'n amlieithog. Ein gweledigaeth yw ehangu addysg ddwyieithog ymhellach yn Sir Gaerfyrddin gan alluogi ein dysgwyr i ddod yn ddinasyddion dwyieithog a bod mewn sefyllfa well ar gyfer cyfleoedd cyflogaeth yn y dyfodol. Am fwy o wybodaeth am fanteision dwyieithrwydd edrychwch ar y wybodaeth gynhwysfawr ar wefan y Cyngor Sir.
Rwy'n gobeithio y bydd y ddogfen hon o gymorth i rieni/gofalwyr plant sy'n dechrau'r ysgol am y tro cyntaf, ac i rieni/gofalwyr plant sy'n symud i'r ardal. Rydym yn gwerthfawrogi y gall dewis ysgol fod yn her, ond rydym yn cydnabod pwysigrwydd y penderfyniad hwn i chi fel rhieni neu ofalwyr. Mae'r canllawiau hyn i'ch cefnogi yn y broses honno ac yn cynnwys:
• Gwybodaeth gyffredinol am ein hysgolion
• Cyngor ar sut a phryd y mae angen i chi wneud cais am le mewn ysgol.
• Y broses o ddyfarnu lleoedd a
• Amrywiaeth o bolisïau fel cludiant ysgol a allai fod yn berthnasol i'ch amgylchiadau.

Cyn cwblhau eich dewis, rydym yn eich cynghori i gysylltu â'r ysgolion yn eich ardal ac ymweld â nhw i drafod y ddarpariaeth sydd ar gael a'ch amgylchiadau unigol. Bydd gwybodaeth hefyd ar gael ar wefannau unigol ysgolion ac yn eu prosbectws.
Credwn fod addysg yn bartneriaeth rhwng yr ysgol, teuluoedd a'r gymuned ehangach. Gyda'n gilydd, gallwn sicrhau bod eich plentyn nid yn unig yn cyflawni llwyddiant academaidd ond hefyd yn tyfu'n gymdeithasol, yn emosiynol ac yn bersonol.
Byddwch yn ymwybodol nad yw mynediad i'ch ysgol ddewisol wedi'i warantu. Mae cyfyngiadau llym ar nifer y disgyblion y gellir eu derbyn i bob ysgol. Os oes mwy o geisiadau na lleoedd ar gael, rhaid prosesu'r ceisiadau a dderbynnir erbyn y dyddiad cau yn gyfreithiol yn gyntaf gyda'r meini prawf gordanysgrifio, fel y manylir yn y llyfryn hwn, a ddefnyddir i flaenoriaethu'r dyfarniad o'r lleoedd sydd ar gael. Er mwyn osgoi cael eich siomi a gwneud y mwyaf o'r cyfle i gael lle yn eich ysgol ddewisol, sicrhewch eich bod yn cyflwyno'ch cais erbyn y dyddiad cau penodedig.
Diolch am ystyried ysgol yn Sir Gaerfyrddin ar gyfer addysgu eich plentyn. Rydym yn eich gwahodd i archwilio ein prosbectws ymhellach i ddysgu mwy am y cyfleoedd gwych sydd ar gael.
Rydym yn edrych ymlaen at groesawu eich plentyn i un o'n hysgolion a dymunwn bob llwyddiant iddynt.
Gareth Morgans - Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant a Theuluoedd


ADRAN A - Derbyn i Ysgolion Sir Gaerfyrddin

Ffeithiau Allweddol

  • Ffeithiau Allweddol
    • Nid oes hawl awtomatig i le mewn ysgol.
    • Rhaid i chi gyflwyno cais i awdurdod derbyn er mwyn i'ch plentyn gael lle mewn ysgol.
    • Mae terfyn ar nifer y disgyblion y gellir eu derbyn i ysgol mewn unrhyw grŵp blwyddyn. Ar ôl cyrraedd y terfyn hwnnw, ni chaniateir derbyn rhagor o ddisgyblion.
    • Os oes gan eich plentyn anghenion dysgu ychwanegol fe'ch cynghorir i gysylltu â phennaeth yr ysgol neu swyddogion cynnydd disgyblion yr adran cyn cyflwyno cais.
    • Gwnewch gais erbyn y dyddiadau cau - gweler yr Amserlen Derbyn i Ysgolion.
    • Os byddwch yn cyflwyno cais ar ôl y dyddiadau hyn caiff ei drin fel cais hwyr a bydd yn cael ei ystyried ar ôl y rhai a dderbyniwyd cyn y dyddiad cau. Bydd hyn yn lleihau'r siawns o gael lle i’ch plentyn mewn ysgol o’ch dewis.
    • Os cynigir lle i'ch plentyn, mae'n rhaid i chi dderbyn y lle erbyn y dyddiad a bennwyd neu bydd y cynnig yn cael ei dynnu'n ôl a chynigir y lle i ddisgybl arall.

Awdurdodau Derbyn

Yn achos ysgolion cymunedol ac ysgolion gwirfoddol a reolir yn Sir Gaerfyrddin, Awdurdod Lleol (ALl) Sir Gaerfyrddin yw'r Awdurdod Derbyn. Mae manylion cyswllt Cyngor Sir Caerfyrddin fel a ganlyn:

Yr Adran Addysg a Phlant

Neuadd y Sir

Caerfyrddin

SA31 1JP

Ffôn: 01267 246449

E-bost: derbyniadau@sirgar.gov.uk

 

 

Gwall yn llwytho sgript Rhan-Wedd (ffeil: ~/Views/MacroPartials/Milestones.cshtml)

Trefniadau derbyn arferol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2025-26

Yn y rhan hon o'r ddogfen nodir gweithdrefnau Sir Gaerfyrddin o ran trefniadau derbyn arferol addysg Feithrin, Gynradd, Uwchradd a chweched dosbarth ar gyfer y flwyddyn academaidd.

Pwyntiau allweddol ar gyfer Ysgolion Cymunedol ac Ysgolion Gwirfoddol a Reolir.
• Yn ôl y gyfraith mae'n rhaid i rieni/gwarcheidwaid wneud cais i'r Awdurdod am le.
• Nodir dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau yn yr Amserlen Trefniadau Derbyn ar ddiwedd y ddogfen hon.
• Rhaid gwneud cais erbyn y dyddiadau cau.
• Ni fydd disgyblion yn trosglwyddo'n awtomatig i'r Ysgol Gynradd o'r Ysgol Feithrin.
• Ni fydd disgyblion yn trosglwyddo'n awtomatig i'r Ysgol Uwchradd o'r Ysgol Gynradd.
• Mae ceisiadau a gyflwynir ar ôl y dyddiadau cau yn annhebygol o gael lle yn eu hysgol dewis cyntaf.
• Defnyddir Meini Prawf Gor-alw penodol wrth ddyrannu lle mewn ysgol.
• Wrth ddyrannu lleoedd, ni roddir ystyriaeth i'r ysgol feithrin a'r ysgol
gynradd y mae'r disgybl yn ei mynychu. Y cyfeiriad cartref fydd yn cael ei
ystyried wrth dderbyn i ysgolion.
• Nid yw'n bosibl i unrhyw unigolyn nac ysgol roi sicrwydd ymlaen llaw y
bydd lle ar gael i blentyn mewn ysgol. Dylid diystyru sylwadau neu
addewidion o'r fath.
• Anfonir e-bost neu lythyr gan yr Awdurdod yn rhoi gwybod a yw'r cais wedi bod yn llwyddiannus neu wedi'i wrthod.
• Ni chaiff plentyn ddechrau yn yr ysgol hyd nes bod y rhiant/ gwarcheidwad wedi cadarnhau gyda’r Awdurdod ei fod yn derbyn y lle sy’n cael ei gynnig.


Pryd i wneud cais

Amserlen Cyflwyno Ceisiadau Derbyn i Ysgolion ‐ Ysgolion Cymunedol ac Ysgolion Gwirfoddol a Reolir

Y Ddarpariaeth Ystod Dyddiad Geni Dechrau Ysgol Dyddiad Cau ar gyfer Cyflwyno Cais Dyddiad Llythyron Cynnig Llefydd Dyddiadau Cau am Apeliadau
Addysg Feithrin Plant 3 blwydd oed
(Rhan-Amser)

1 Medi 2022 tan 31 Awst 2023

Ionawr, Ebrill, Medi 2026 31 Gorffennaf 2025 Hydref 2025 Dim hawl i apelio

Addysg Plant 4 blwydd oed 4-11
(Amser Llawn)

1 Medi 2021 tan 31 Awst 2022 Ionawr 2026, Ebrill 2026, Medi 2026

31 Ionawr 2025

16 Ebrill 2025 neu'r diwrnod gwaith nesaf 14 Mai 2025
Ysgol Uwchradd - (Symud o'r Ysgol Gynradd i'r Ysgol Uwchradd) 1 Medi 2013 tan 31 Awst 2014 Medi 2025 29 Tachwedd 2024 1 Mawrth 2025 neu'r diwrnod gwaith nesaf 31 Mawrth 2025

Ceisiadau Cynnar

Sylwch na ellir defnyddio ceisiadau cynnar yn faen prawf ar gyfer rhoi blaenoriaeth wrth ddyrannu llefydd. Mae'r holl geisiadau sy'n dod i law hyd at y dyddiad cau yn cael eu trin yn yr un modd.

Ceisiadau Hwyr

Ni fydd ceisiadau sy'n dod i law ar ôl y dyddiad cau yn cael eu hystyried nes bod y ceisiadau sydd wedi dod i law cyn y dyddiad cau wedi cael lleoedd. Mae ceisiadau a gyflwynir ar ôl y dyddiad cau yn llai tebygol o gael lle yn yr ysgol dewis cyntaf y gwnaeth y rhieni gais amdani.


Faint Fydd Oed Plant yn Dechrau'r Ysgol?

Y Blynyddoedd Cynnar ‐ Darpariaeth i blant 3 oed

Beth yw'r Blynyddoedd Cynnar?

Mae Addysg y Blynyddoedd Cynnar yn ddarpariaeth anstatudol sydd ar gael i blant 3 oed a bydd yn rhaid gwneud cais am le mewn ysgol h.y. ar gyfer categorïau (i) â (ii) isod, i'r Awdurdod Derbyn erbyn y dyddiad cau - Gweler yr Amserlen ar gyfer Cyflwyno Cais.

Ble mae addysg ran amser i'w chael?

Mae hawl gan bob plentyn 3 blwydd oed gael lleoliad am ddim am 10 awr yr wythnos mewn sefydliad cofrestredig trwy’r Grŵp Hawliau Bore Oes o'r tymor yn dilyn ei drydydd pen-blwydd. Mae'r Awdurdod yn caniatáu i ddarparwyr nas cynhelir ddefnyddio adeiladau ysgolion lle bynnag y bo hynny'n ymarferol.

Mae sawl math o ddarpariaeth:

(i)Ysgol Feithrin - Ysgol Feithrin Rhydaman yw'r unig ysgol feithrin yn y Sir.
(ii)Dosbarthiadau Meithrin/Blynyddoedd Cynnar mewn Ysgolion Babanod neu Gynradd (Ysgolion 3-11 yn unig).
(iii)Darpariaeth gan y sector nas cynhelir sy’n bartneriaid yn y Grŵp Hawl Bore-Oes, megis Blynyddoedd Cynnar Cymru, mudiadau fel Cymdeithas Darparwyr Cyn-ysgol Cymru (WPPA), Mudiad Meithrin a darparwyr preifat. Gallwch ddod i wybod mwy o dan yr adran Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir Gaerfyrddin yn y llyfryn hwn.

Pryd y gall plentyn ddechrau addysg ran-amser?

Fel rheol, derbynnir plant i ddarpariaeth blynyddoedd cynnar mewn ysgolion lle mae'r ddarpariaeth honno ar gael yn rhan-amser ar ddechrau'r tymor yn dilyn eu trydydd pen-blwydd.

3ydd Pen-blwydd y Plentyn  Y Tymor Derbyn
1 Medi - 31 Rhagfyr

Tymor y Gwanwyn

1 Ionawr - 31 Mawrth

Tymor yr Haf

1 Ebrill - 31 Awst

Tymor yr Hydref

Nid oes gan rieni hawl i apelio os na chynigir lle i’w plentyn mewn lleoliad blynyddoedd cynnar o'u dewis.

Ni fydd gan blentyn y cynigir lle rhan-amser iddo/iddi mewn ysgol, hawl awtomatig i barhau i dderbyn addysg amser llawn. Mae'n rhaid cyflwyno cais ffurfiol i'r Awdurdod Derbyn cywir - gweler yr amserlen derbyn.

Os bydd mwy o geisiadau na llefydd ar gael, yna bydd y Cyngor yn blaenoriaethu ceisiadau yn unol â’i meini prawf gor-alw a nodir yn y ddogfen hon.

 

Addysg Amser Llawn ‐ Plant 4 a 5 oed

Lle nad oes darpariaeth blynyddoedd cynnar mewn lleoliad a gynhelir, wedi i gais gael ei gymeradwyo, mae plant yn cael eu derbyn yn llawn amser ar yr adegau canlynol:

4ydd Pen-blwydd y Plentyn Y Tymor Derbyn
1 Medi - 31 Rhagfyr

Tymor y Gwanwyn

1 Ionawr - 31 Mawrth

Tymor yr Haf

1 Ebrill - 31 Awst

Tymor yr Hydref

Dylid cyflwyno ceisiadau i'r Awdurdod Derbyn erbyn y dyddiad cau - gweler yr amserlen cyflwyno ceisiadau derbyn. Gall rhieni ohirio dyddiad derbyn plentyn i'r ysgol tan ddechrau'r tymor sy'n dilyn pumed pen-blwydd y plentyn.

Yn ôl y gyfraith rhaid i rieni drefnu bod eu plant yn cael addysg llawn amser ar ddechrau’r tymhorau canlynol:

5ed Pen-blwydd y Plentyn Mae'n rhaid, yn ôl y gyfraith, i'r plentyn ddechrau ysgol
1 Medi - 31 Rhagfyr

Tymor y Gwanwyn

1 Ionawr - 31 Mawrth

Tymor yr Haf

1 Ebrill - 31 Awst

Tymor yr Hydref

Ni fydd ceisiadau sy'n dod i law ar ôl y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yn cael eu hystyried nes bod y ceisiadau sydd wedi dod i law cyn y dyddiad cau wedi cael llefydd.

Derbyn plant i ysgolion uwchradd gan gynnwys y chweched dosbarth

Ffeithiau:

  • Ni fydd disgyblion yn trosglwyddo'n awtomatig i'r ysgol uwchradd o'r ysgol gynradd.
  • Mae'n rhaid, yn ôl y gyfraith, i chi gyflwyno cais i'r Awdurdod Derbyn am le mewn ysgol.
  • Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 29 Tachwedd, 2024.
  • Cyfeiriad y cartref yw'r hyn y rhoddir ystyriaeth iddo wrth dderbyn i ysgol uwchradd ac nid yr ysgol gynradd a fynychwyd.
  • Nid yw'n bosibl i unrhyw unigolyn na chorff roi sicrwydd ymlaen llaw y bydd lle ar gael i blentyn mewn ysgol. Dylid diystyru sylwadau neu addewidion o'r fath.
  • Bydd angen ichi aros hyd nes y cewch lythyr neu e-bost gan yr Awdurdod Derbyn yn rhoi gwybod ichi os yw eich cais wedi cael ei gymeradwyo neu ei wrthod.
  • Ni chaiff plentyn ddechrau yn yr ysgol uwchradd hyd nes bod y rhiant/gwarcheidwad wedi cadarnhau gyda’r Awdurdod Derbyn ei bod yn derbyn y cynnig o le.
  • Darllenwch y Polisi Cludiant i'r Ysgol cyn gwneud eich dewis terfynol o ysgol.

Mae'n rhaid i blant ysgolion cynradd ddechrau'r ysgol uwchradd yn y mis Medi yn dilyn eu pen-blwydd yn 11 oed.

Mae'n ofynnol i riant/gwarcheidwad gwblhau cais ar-lein ar gyfer y disgyblion hyn erbyn y dyddiad cau penodedig fel y nodir yn yr Amserlen Trefniadau Derbyn.

Ni fydd ceisiadau sy'n dod i law ar ôl y dyddiad cau penodedig yn cael eu hystyried nes bod y ceisiadau a ddaeth i law cyn y dyddiad cau wedi cael eu dyfarnu. Caiff y rhain eu hystyried fel Ceisiadau Hwyr fel y nodir yn y ddogfen hon.

Os bydd mwy o geisiadau na lleoedd ar gael, yna bydd yr Awdurdod yn blaenoriaethu ceisiadau yn unol â’i feini prawf gor-alw a nodir yn y ddogfen hon.

Nid yw’r ysgol gynradd y mae’r disgybl yn ei mynychu yn fater sy’n cael ei ystyried wrth ddyrannu lleoedd.

Rhaid llenwi ffurflenni cais ar-lein erbyn y dyddiad cau penodedig.

Os na fydd y ffurflen wedi cael ei chyflwyno erbyn y dyddiad cau, mae'r siawns o gael lle yn y dewis ysgol yn llai, felly hefyd y posibilrwydd o gael cludiant i’r ysgol am ddim.

Ein bwriad yw anfon llythyrau penderfyniad mewn perthynas â'r ceisiadau hyn a gyflwynwyd erbyn y dyddiad cau erbyn y dyddiad cynnig a nodir yn yr Amserlen Trefniadau Derbyn.

Y DYDDIAD CAU I WNEUD CAIS AM LE AMSER LLAWN MEWN YSGOL UWCHRADD YW 29 TACHWEDD 2024

Fel rhan o'r broses o wneud cais, bydd rhieni plant yn eu blwyddyn olaf yn yr ysgol gynradd yn derbyn pecyn gwybodaeth oddi wrth yr Awdurdod. Mae'n bwysig eich bod yn llenwi'r ffurflen ar-lein erbyn y dyddiad cau gan mai'r ceisiadau hyn fydd yn cael yr ystyriaeth gyntaf. Ni fydd ceisiadau sy'n dod i law ar ôl y dyddiad cau yn cael eu hystyried nes bod y ceisiadau a ddaeth i law cyn y dyddiad cau wedi cael eu dyfarnu. Er nad oes unrhyw sicrwydd y rhoddir lle mewn ysgol, mae'r meini prawf derbyn yn rhoi blaenoriaeth i ddisgyblion sy'n byw yn nalgylch dynodedig yr ysgol uwchradd. Felly nid yw’r ysgol gynradd y mae’r disgybl yn ei mynychu yn fater sy’n cael ei ystyried.

Dilynwch y canllawiau a ddarparwyd, cwblhewch y ffurflen ar-lein yn unol â hynny a darllenwch y rhan o'r llyfryn hwn sy'n ymwneud â dewis y rhieni a chludiant i'r ysgol er mwyn sicrhau eich bod yn deall eich dyletswydd o dan yr amgylchiadau hyn.

Nid oes trefniadau trosglwyddo awtomatig na hawl awtomatig i symud o'r Ysgol Gynradd i'r Ysgol Uwchradd.

Mae'n rhaid i ffurflenni gael eu cwblhau a'u cyflwyno erbyn 29 Tachwedd 2024. Os na chaiff y ffurflen ei chyflwyno erbyn y dyddiad cau, yna bydd llai o gyfle i gael lle yn yr ysgol o'ch dewis. Ein bwriad yw cyhoeddi llythyrau penderfyniad ynghylch y ceisiadau hyn erbyn 1 Mawrth 2025, neu'r diwrnod gwaith nesaf.

Dylai rhieni sy’n dymuno i’w plentyn gael ei derbyn i ysgol uwchradd ar adeg sy’n wahanol i amser arferol derbyn disgyblion blwyddyn 7 (trosglwyddo o ysgol gynradd i ysgol uwchradd) gysylltu a thrafod y mater yn y lle cyntaf â Phennaeth yr ysgol a fydd hefyd yn gallu rhoi cyngor ar wneud cais am le. Gellir gofyn hefyd am gyngor gan y Staff Derbyn Disgyblion i Ysgolion yn yr Adran Addysg a Phlant.

Derbyn i'r Chweched Dosbarth

Dylid trafod trefniadau ar gyfer derbyn disgyblion i Chweched Dosbarth Ysgolion Cymunedol â’r ysgol unigol cyn gwneud cais am le.


Dewis Ysgol - Dalgylchoedd

Ffeithiau:

  • Mae pob ysgol yn gwasanaethu dalgylch dynodedig.
  • Os yw'r disgybl yn byw yn nalgylch dynodedig ysgol, mae gwell siawns y bydd y cais am le yn yr ysgol honno yn llwyddiannus. Fodd bynnag, nid oes sicrwydd y bydd yn cael lle.
  • Mae gan ddisgyblion sy'n byw o fewn dalgylch yr ysgol, yn amodol ar y meini prawf ynghylch oed a phellter teithio, well siawns o gael cludiant am ddim o'r cartref i'r ysgol - gweler y polisi cludiant.
  • Lle bydd rhieni'n dewis ysgol nad yw'n ysgol agosaf neu'n ysgol y dalgylch, eu cyfrifoldeb nhw fydd cludo'r plentyn i'r ysgol ac yn ôl.
  • Gall rhieni fynegi eu bod yn dewis ysgol nad yw'n ysgol ddynodedig y dalgylch. Os dilynir y gweithdrefnau cywir ac os nad yw nifer y disgyblion yn fwy na'r nifer y caniateir i'r ysgol ei derbyn, bydd lle yn cael ei roi.
  • Pan fydd disgybl yn symud o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd, bydd ystyriaeth ynghylch cymhwysedd i gael ei dderbyn i'r ysgol honno ac i dderbyn cludiant am ddim o'r cartref i'r ysgol yn seiliedig ar y cyfeiriad cartref ac nid yr ysgol gynradd a fynychwyd.

 

Ysgol Leol/Dalgylch

Mae’r Awdurdod wedi dynodi ardal ddaearyddol benodedig y mae’r ysgol yn ei gwasanaethu sy’n cael ei galw’n ddalgylch yr ysgol. Mae manylion dalgylch ysgol ar gael yn yr ysgol, ar wefan yr Awdurdod Sir neu oddi wrth yr Awdurdod Derbyn perthnasol.

Er nad yw byw yn nalgylch ysgol yn rhoi sicrwydd y derbynnir disgybl i'r ysgol mae'n ffactor pwysig gan y bydd yn golygu y bydd cais yn cael blaenoriaeth dros geisiadau gan unigolion sy'n byw y tu allan i'r dalgylch. Mae'n bwysig hefyd am ei fod yn un o'r meini prawf allweddol wrth asesu a yw disgybl yn gymwys i gael cymorth o ran cludiant o'r cartref i'r ysgol.
Ceir manylion y polisi ynghylch cludiant o'r cartref i'r ysgol yn y ddogfen hon. Cyn gwneud cais am le mewn ysgol mae’r Awdurdod yn eich cynghori’n gryf i gysylltu a thrafod materion gyda’ch ysgol leol ac os yn bosib mynd i’w gweld fel eich bod yn gwybod am y cyfleusterau a’r cyfleoedd allant eu cynnig.

Dewch o hyd i'ch Ysgol leol/dalgylch

 

Dewisiadau Rhieni

Fel y nodwyd, mae’r Awdurdod yn awgrymu mai’r pwynt cyswllt cyntaf wrth ddewis ysgol fyddai’r ysgol dalgylch leol.

Er bod y rhan fwyaf o rieni yn anfon eu plentyn i’r ysgol dalgylch leol, mae gan rieni hawl i ddatgan blaenoriaeth i ysgolion gwahanol. Os ydych yn dymuno gwneud hynny argymhellir eich bod yn cysylltu â’r ysgol rydych yn meddwl amdani cyn gwneud dewis terfynol.

Os ydych yn dewis ysgol nad yw’n ysgol dalgylch leol ichi nac yr ysgol agosach at eich cartref, dylech gofio fod rhai materion ymarferol y mae angen ichi eu hystyried yn llawn cyn gwneud penderfyniad.

Yn gyntaf, os nad yw plentyn yn mynychu ysgol y dalgylch na'r ysgol agosaf at gyfeiriad y cartref a bod y penderfyniad hwn yn seiliedig ar ddewis y rhieni, yna mae'r cyfrifoldeb yn llwyr ar y rhieni / gofalwyr i gludo'r disgybl i'r ysgol ac oddi yno ac i dalu cost y cludiant hwnnw. Mae rhieni’n dweud fod hynny’n gallu bod yn broblem arbennig os oes ganddynt frawd neu chwaer iau nad yw’n cael ei dderbyn i'r un ysgol. Doeth felly yw ystyried a chynllunio ar gyfer y posibilrwydd hwn cyn gwneud cais am le mewn ysgol.

Mae’r ail fater yn ymwneud â’r adeg pan mae disgyblion yn trosglwyddo o’r ysgol gynradd i’r sector uwchradd. Mae cael lle mewn ysgolion uwchradd yn seiliedig ar a ydy eich cyfeiriad cartref o fewn dalgylch yr ysgol uwchradd. Nid yw’n seiliedig ar ba ysgol gynradd yr aethpwyd iddi. Felly, pan mae disgybl wedi bod i ysgol gynradd nad yw’n ysgol dalgylch benodedig leol iddynt mae mwy o debygrwydd na fyddant yn gallu cael eu derbyn i’r un ysgol uwchradd â’u cyfoedion a’u cyd-ddisgyblion.

Ni fydd y materion hyn yn berthnasol i lawer, ond gan eu bod wedi creu anawsterau i rieni yn y gorffennol argymhellir eich bod yn eu hystyried ac yn cynllunio ar eu cyfer cyn gwneud eich dewis terfynol o ran ysgol gynradd.

Bydd yr Awdurdod Derbyn a'r llywodraethwyr ysgol yn cydymffurfio’n gyfreithlon ag unrhyw fynegiant o flaenoriaeth i ysgol benodol. Fel gyda phob cais bydd blaenoriaeth i ysgol benodol yn gorfod cael ei hystyried a’i hasesu yn rhan o’r broses dderbyn i sicrhau nad yw’r Awdurdod yn mynd heibio’r terfyn ar gyfer derbyn disgyblion i’r ysgol honno ar gyfer y grŵp blwyddyn penodol.

Y term a ddefnyddir yn y ddogfen hon wrth gyfeirio at y nifer sy’n cyfyngu faint o ddisgyblion ellir eu derbyn i grŵp blwyddyn penodol mewn ysgol yw’r Nifer Derbyn neu ND. Nodir y nifer derbyn (ND) ar gyfer pob ysgol yn y rhestr o ysgolion sy’n rhan o’r llyfryn hwn.

 

Dewisiadau Rhieni – Disgyblion a Waharddwyd Ddwywaith

Os yw disgybl wedi cael ei wahardd yn barhaol o ddwy ysgol neu ragor yn barod, er y gall rhiant ddatgan blaenoriaeth i ysgol y maen nhw’n dymuno i’w plentyn gael eu haddysgu ynddi, nid oes raid i’r Awdurdod Derbyn gydymffurfio â’r dewis hwnnw am gyfnod o ddwy flynedd o ddyddiad y gwaharddiad diweddaraf.

Nid yw hynny’n berthnasol i fyfyrwyr sydd â datganiadau o Anghenion Addysgol Arbennig (AAA), plant o dan oed ysgol gorfodol, plant a gafodd le ysgol yn ôl, neu a fyddai wedi cael lle yn ôl pe bai wedi bod yn ymarferol gwneud hynny, neu blant sy'n derbyn gofal pan wneir y cais am le gan y rhiant corfforaethol.

 

Diwallu Anghenion Addysgol Ychwanegol/Arbennig

Mae gan rai plant anghenion addysgol ychwanegol neu arbennig a/neu anabledd sy’n golygu fod angen gwneud darpariaeth ychwanegol ar eu cyfer fel y gallant ddysgu’n effeithiol. Mewn amgylchiadau o’r fath trowch at adran Anghenion Addysgol Ychwanegol y llyfryn hwn.

Anghenion Dysgu Ychwanegol

 

Addysg yn y Cartref

Gall rhieni ddewis hefyd addysgu eu plant gartref. Yr enw ar hyn yw Addysg Ddewisol yn y Cartref. Mae’r penderfyniad i addysgu gartref yn fater y dylid meddwl yn ofalus amdano, gan ei fod yn golygu ymrwymiad, amser a chost sylweddol.

Os ydych yn ystyried y dewis hwn awgrymir y dylech gysylltu â’r awdurdod lleol a gofyn am arweiniad gan y Swyddog Addysg Ddewisol yn y Cartref drwy ffonio 01554 742369 neu e-bostiwch: EHEenquiries@sirgar.gov.uk

Addysg yn y Cartref

 

Mathau o Ysgolion

Mae pob ysgol yn Sir Gaerfyrddin yn cael ei dosbarthu’n ysgolion cydaddysgol yn yr ystyr eu bod yn darparu ar gyfer bechgyn a merched, ac oni nodir yn wahanol maent yn ysgolion dyddiol ac nid yn ysgolion preswyl.

Oni nodir yn wahanol, mae ysgolion uwchradd yn cael eu dosbarthu’n ysgolion cyfun.

Yn unol â Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 gosodir terfyn o 30 o ddisgyblion mewn dosbarth sy'n cael ei addysgu gan un athro cymwysedig yn achos dosbarthiadau Derbyn, Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2.

 


Sut mae gwneud cais

Ffeithiau:

Wedi i’r rhiant/gofalwr/rhiant corfforaethol benderfynu i ba ysgol y maent am anfon eu plentyn/plant mae'n rhaid iddynt gyflwyno cais i’r Awdurdod Derbyn priodol, gofynnir i'r rhiant/gofalwyr restru’r dewis o ysgol yn ôl y dewis 1af, yr 2il ddewis a’r 3ydd dewis.

Ar gyfer Ysgolion Cymunedol ac Ysgolion Gwirfoddol a Reolir gellir gwneud hyn:

  • Yn uniongyrchol ar-lein gan ddefnyddio gwefan yr Awdurdod Lleol; neu
  • Canolfannau Gwasanaethau Cwsmeriaid y Cyngor; neu
  • Trwy gysylltu â’r ysgol.

Ni all unrhyw Ysgol Gynradd Gymunedol nac Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir awdurdodi derbyn disgybl, gallant gynorthwyo gyda'r ffurflen gais drwy apwyntiad yn unig.

Ar gyfer Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir

 

Cwblhau'r Ffurflen Gais

Cyfrifoldeb Rhiant/Gwarcheidwad
Rhaid i'r sawl sy'n cwblhau'r ffurflen gais sicrhau bod ganddynt gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn dan sylw a bod pawb sydd â chyfrifoldeb rhiant yn cytuno. Os nad yw'n bosibl dod i gydgytundeb, mae angen gorchymyn llys i gadarnhau y gellir prosesu'r cais. Bydd angen i'r ymgeisydd dicio blwch ar y ffurflen gais ar-lein i gadarnhau cytundeb rhieni. Pan fo anghytundeb neu wrthwynebiad, bydd y cais yn cael ei ohirio hyd nes y caiff y mater ei ddatrys rhwng y rhieni neu hyd nes y ceir gorchymyn llys yn nodi a ellir gwneud cais.

Dewis Rhieni - Dewisiadau Ysgol
Bydd y rhieni yn gallu gwneud cais ar-lein am le mewn uchafswm o dair ysgol ar y ffurflen gais. Argymhellir bod rhieni/gwarcheidwad yn gwneud cais am 3 ysgol i gynyddu'r siawns o sicrhau lle mewn ysgol a ddewisir.

Bydd rhaid i'r rhieni/gwarcheidwad sy'n dewis gwneud cais am 2 neu 3 ysgol eu rhestru yn ôl blaenoriaeth (h.y. 1af, 2il a 3ydd dewis)

Yn y man cyntaf, bydd pob cais yn cael yr un ystyriaeth, ond os bydd lle'n cael ei gynnig yn yr ysgol sy'n ddewis 1af, ni fydd lleoedd yn cael eu cynnig yn yr ysgol sy'n 2il ddewis neu'n 3ydd dewis.

Os caiff y dewis 1af ei wrthod, bydd eich 2il ddewis yn cael ei drin fel petai'n
ddewis 1af. Bydd y broses hon yn parhau hyd nes y cynigir lle neu hyd nes y bydd y 3 dewis wedi'u hystyried.

Dylai rhieni/gwarcheidwad anfon e-bost at derbyniadau@sirgar.gov.uk i drafod
lle mewn ysgol arall os yw pob dewis wedi bod yn aflwyddiannus.

Os bydd nifer o geisiadau yn dod i law, cânt eu prosesu'n awtomatig yn y drefn
y maent wedi dod i law. Os ydych yn cyflwyno cais newydd, y cais a ddaeth i law gyntaf fydd eich dewis 1af, 2il ddewis a 3ydd dewis o hyd, a bydd eich ail gais yn cael ei ychwanegu fel eich 4ydd, 5ed a 6ed dewis.

Newid neu ganslo dewisiadau ysgol
Rhaid i rieni/gwarcheidwad anfon e-bost at derbyniadau@sirgar.gov.uk i newid trefn eu dewisiadau ysgol. Efallai y gofynnir i rieni gyflwyno cais newydd. Bydd newidiadau a wneir ar ôl y dyddiadau cau a gyhoeddwyd yn cael eu hystyried fel ceisiadau hwyr.

Dewis Iaith - Ysgolion Dwyieithog
Os gall ysgol gynnig mwy nag un ffrwd iaith , gall rhieni fynegi dewis ar gyfer ffrwd benodol ar y ffurflen gais. Fodd bynnag, nid yw'r awdurdod derbyn yn cynnig lle mewn ffrwd iaith benodol, dim ond lle yn y grŵp blwyddyn perthnasol yn yr ysgol honno. Dylid trafod unrhyw ddewisiadau iaith gyda'r ysgol ar ôl i le gael ei gynnig.

Cyfeiriad Cartref
Bernir mai cyfeiriad cartref disgybl yw eiddo preswyl, annedd neu adeilad preswyl, heb gynnwys unrhyw dir sydd ynghlwm wrthi/wrtho, sy'n unig breswylfa neu'n brif breswylfa'r plentyn. Mae'r dalgylch yn seiliedig ar leoliad y tŷ y mae'r disgybl yn byw ynddo ac nid ar unrhyw dir o amgylch y tŷ hwnnw a naill ai yn:
• Eiddo i riant/rhieni’r plentyn neu i berson a chanddo gyfrifoldeb rhiant cyfreithiol penodedig am y plentyn; neu
• Wedi'i brydlesu neu ei rentu gan riant/rhieni y plentyn neu gan y person sydd â chyfrifoldeb rhiant yn unol â chytundeb rhent ysgrifenedig, ac wedi'i lofnodi gan y landlord a'r tenant, am gyfnod o chwe mis neu ragor.

 

Prawf o'ch Cyfeiriad
Mae’r Awdurdod yn cadw’r hawl i ofyn am brawf o gyfeiriad ar yr adeg y cynigir lle i’r plentyn. Er mwyn i’r cais gael ei ystyried fel rhan o’r cylch derbyn arferol, bydd angen i chi ddarparu prawf eich bod yn byw yn y cyfeiriad a nodwyd ar y ffurflen gais ar y dyddiad cau yn unol â’r amserlen trefniadau derbyn.

Bydd yr Awdurdod yn ystyried unrhyw ddwy ddogfen o blith y canlynol yn gymorth ar gyfer penderfynu eich bod yn byw mewn cyfeiriad penodol:

• Bil y Dreth Gyngor neu Fudd-dal Tai gwreiddiol neu lythyr hysbysu nad yw’n fwy na 12 mis oed.
• Bil cyfleustodau gwreiddiol (nad yw’n fwy na 3 mis oed).
• Llythyr dyfarnu gwreiddiol ynghylch Budd-dal Plant neu Gredyd Treth Plant neu Gredyd Treth Gwaith (nad yw'r dyddiad arno'n fwy na thri mis yn ôl, a'i fod yn nodi enw/enwau’r plentyn/plant).
• Cytundeb tenantiaeth/prydles wedi'i lofnodi a'i ddyddio, sy'n para am o leiaf chwe mis ond sydd â mis neu ragor ar ôl ar y cytundeb.
• Cyfriflen carden gredyd neu gyfrif banc wreiddiol sy'n dangos y cyfeiriad (heb fod yn fwy na dau fis oed).
• Cadarnhad ysgrifenedig gan Fanc neu Gymdeithas Adeiladu’r ymgeisydd yn cadarnhau manylion y newid cyfeiriad ac ar ba ddyddiad y digwyddodd y newid.
• Trwydded yrru llun adnabod gyfredol ddilys.

Fel rhan o'r broses dderbyn mae angen i chi ddarparu prawf o'ch cyfeiriad mewn cysylltiad â'ch cais. Bydd yr Awdurdod yn ceisio gwirio'r wybodaeth a ddarparwyd ac mae'n cadw'r hawl i fynnu bod ymgeisydd yn darparu unrhyw wybodaeth ychwanegol yr ystyrir ei bod yn angenrheidiol i gadarnhau'r breswyliaeth neu i gymryd camau rhesymol i bennu a yw cais yn dwyllodrus ai peidio.

Os caiff lle ei gynnig mewn ysgol yn seiliedig ar gyfeiriad y canfyddir wedyn ei fod yn wahanol i gyfeiriad arferol a pharhaol y plentyn, yna mae'n bosibl y caiff y lle ei dynnu'n ôl. Os bydd rhiant neu berson sydd â chyfrifoldeb rhiant cyfreithiol dros y plentyn yn rhoi datganiad anwir, gan wybod a chan fwriadu hynny, a fyddai'n effeithio ar lwyddiant eu cais, yna mae'n bosibl y caiff y lle ei dynnu'n ôl. Os na ddarperir prawf preswyliaeth yna ni fydd yr Awdurdod yn gallu prosesu'r cais ac mae'n bosibl y caiff y lle ei roi i ddisgybl arall.

 

 

Symud Tŷ / Newid Cyfeiriad

Os ydych yn bwriadu symud tŷ ac yn cyflwyno cais am le mewn ysgol ar sail y
cyfeiriad newydd, bydd yr Awdurdod yn cymryd camau i wirio'r trefniadau.
Bydd yr Awdurdod hefyd yn derbyn:
• Llythyr cyfreithiwr yn cadarnhau dyddiad cwblhau eich pryniant tŷ (nid yw cyfnewid contract yn ddigonol), rhaid darparu tystiolaeth o'r cwblhau cyn i'r lle ysgol gael ei gynnig.
• Cytundeb tenantiaeth wedi'i lofnodi a'i ddyddio am o leiaf 6 mis, gweler prawf cyfeiriad. Os na allwch ddarparu prawf o'ch cyfeiriad erbyn y dyddiad a roddir ar gyfer cael ceisiadau yna bydd eich cais yn cael ei seilio ar eich cyfeiriad cyfredol. Os ydych yn symud cyfeiriad ar ôl y diwrnod cynnig, bydd eich cais yn cael ei drin fel un hwyr, gan y bydd lleoedd eisoes wedi'u rhoi.

Cyfeiriad Dros Dro

Dim ond mewn amgylchiadau cyfyngedig y bydd cyfeiriad dros dro yn cael ei ystyried megis:
• Ffoaduriaid sydd wedi symud i'r sir yn ddiweddar ac yn byw mewn gwestai neu lety dros dro a ddarparwyd neu y cytunwyd ar hynny gan y Swyddfa Gartref neu drwy sianeli swyddogol.
• Dogfennau sy'n profi bod y teulu wedi cael llety brys.
• Neu brawf bod y tŷ oedd yn "gartref teuluol" blaenorol wedi cael ei ildio.

Tystiolaeth o Gyfeiriad

Efallai y bydd rhieni'n cael eu temtio i wneud cais am le mewn ysgol gan ddefnyddio cyfeiriad nad yw'n gyfeiriad cartref arferol disgybl, fel cyfeiriadau mam-gu/tad-cu neu aelodau eraill o'r teulu, a hynny er mwyn cael mantais ar gyfer lle mewn ysgol. Gall gwneud hynny gael ei ystyried yn achos o dwyll a gall arwain at dynnu'r lle yn ôl. Gallai enghreifftiau o geisiadau twyllodrus gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
• Defnyddio cyfeiriad mam-gu/tad-cu neu gyfeiriad aelod eraill o'r teulu ar gyfer y cais.
• Defnyddio eiddo arall y mae'r rhieni'n berchen arno, ond nad yw'n cael ei ddefnyddio fel y prif gyfeiriad cartref; gellir gofyn am dystiolaeth o'r defnydd a wneir o eiddo arall.
• Gwneud cais o gyfeiriad perthynas ond cadw eich eiddo blaenorol.
• Cytundebau rhent llai na 6 mis o hyd.
• Byw mewn cyfeiriad dros dro tra bo gwaith adeiladu yn cael ei wneud yn y "cyfeiriad cartref”.

Os canfyddir bod rhieni'n defnyddio cyfeiriadau ffug i gael mantais ar gyfer lle mewn ysgol, mae'n bosibl na fydd eu ceisiadau'n cael eu prosesu, neu caiff eu lleoedd eu tynnu'n ôl.

Efallai y gofynnir i rieni gyflwyno cais newydd gyda'r cyfeiriad cywir. Gall methu â darparu tystiolaeth o gyfeiriad y cartref pan ofynnir amdano arwain at beidio â phrosesu'r cais neu gallai effeithio ar flaenoriaeth y cais dan ystyriaeth.

Rhannu Cyfrifoldeb
Pan fydd y cyfrifoldeb am y plentyn yn cael ei rannu, a phan fydd y plentyn yn byw gyda’r ddau riant, neu bersonau a chanddynt gyfrifoldeb rhianta cyfreithiol am y plentyn, am ran o’r wythnos, y brif breswylfa fydd y cyfeiriad y mae’r plentyn yn byw ynddo am y rhan fwyaf o’r wythnos. Lle mae preswyliaeth 50/50, cyfeiriad y rhiant sy'n derbyn Budd-dal Plant fydd yn cael ei ystyried. Mae'n bosibl y gofynnir i'r rhieni ddarparu tystiolaeth ddogfennol a fydd yn ategu'r cyfeiriad a ddefnyddir pan gaiff lle ei gynnig. Pan wneir unrhyw newidiadau i'r sawl sy'n derbyn y budd-dal plant ar ôl gofyn am dystiolaeth, bydd y cais yn cael ei ystyried yn gais hwyr.

Anghenion Dysgu Ychwanegol ac Arbennig (ADY/AAA)
Rhaid i rieni nodi a oes gan ddisgybl unrhyw Anghenion Dysgu Ychwanegol neu Arbennig ar y ffurflen gais pan ofynnir iddynt wneud hynny. Bydd y wybodaeth hon yn helpu ysgolion i gynllunio ymlaen llaw i sicrhau bod darpariaeth ar waith ar gyfer disgyblion pe baent yn cael eu derbyn i'r ysgol. Gofynnir i'r adran ADY/AAA wirio'r ceisiadau hyn.

Plant Sipsiwn a Theithwyr
Mae'n rhaid i'r Awdurdod, yn statudol, sicrhau bod pob plentyn oed ysgol gorfodol yn derbyn addysg sy'n briodol i'w oedran, ei alluoedd ac unrhyw anghenion addysgol arbennig, ac yn hybu safonau uchel wrth ddarparu addysg a lles plant. Mae'r rhwymedigaethau hyn yn berthnasol i bob plentyn boed yn breswylwyr parhaol yn yr ardal ai peidio. Bydd ceisiadau derbyn ar gyfer teuluoedd Sipsiwn a Theithwyr yn cael eu trin gyda’r bwriad o roi’r plant hyn, mor gyflym ag y bo modd, yn yr ysgol agosaf a mwyaf addas sydd ar gael.

 


Rhoi Llefydd - Y Meini Prawf Gor-alw

Y meini prawf gor-alw o ran derbyn disgyblion i ysgolion meithrin, cynradd ac uwchradd cymunedol a gwirfoddol a reolir.

Os derbynnir mwy o geisiadau nag sydd o leoedd mewn ysgol benodol, neilltuir
lleoedd gan ddefnyddio'r meini prawf canlynol a restrir yn nhrefn blaenoriaeth:

1. Plant sy'n derbyn gofal a phlant oedd yn arfer derbyn gofal.
2. Plant sy'n byw yn nalgylch yr ysgol y bydd ganddynt frawd neu chwaer wedi'i gofrestru/chofrestru yno pan fydd y plentyn yn dechrau yn yr ysgol honno.
3. Plant sy'n byw yn nalgylch yr ysgol sydd heb fod ganddynt frawd na chwaer wedi'i gofrestru/chofrestru yno pan fydd y plentyn yn dechrau yn yr ysgol honno.
4. Plant sy'n byw y tu allan i ddalgylch yr ysgol AC sydd â brawd neu chwaer wedi'i gofrestru/chofrestru yno pan fydd y plentyn yn dechrau yn yr ysgol honno.
5. Plant sy'n byw y tu allan i ddalgylch dynodedig yr ysgol ac na fydd ganddynt frawd na chwaer wedi'i gofrestru/chofrestru yno pan fydd y plentyn yn dechrau yn yr ysgol honno.

Dalier sylw: Pan fo Datganiad o Anghenion Addysgol neu Gynlluniau Datblygu
Unigol yn enwi ysgol benodol mae'n rhaid datgan hynny'n glir ar y ffurflen gais. Ymdrinnir â'r ceisiadau hyn ar wahân, cyn troi at y meini prawf gor-alw.

Ar gyfer ceisiadau am le amser llawn mewn ysgol gynradd i blant 4 oed

Ni ellir defnyddio'r ddarpariaeth feithrin neu flynyddoedd cynnar rhan-amser i blant 3 oed a ddyrannwyd yn faen prawf ar gyfer rhoi blaenoriaeth wrth ddyrannu lleoedd amser llawn mewn ysgol gynradd i blant 4 oed.


Ar gyfer ceisiadau am le mewn ysgol uwchradd ym Mlwyddyn 7

Ni ellir defnyddio'r ysgol gynradd y mae disgybl yn ei mynychu yn faen prawf ar gyfer rhoi blaenoriaeth wrth ddyrannu lle mewn ysgol uwchradd.


Nodiadau
Ym mhob un o'r categorïau uchod.

 

Y Meini Prawf o ran Pellter
Defnyddir y pellter o’r cartref i’r ysgol yn faen prawf ar gyfer penderfynu ar
flaenoriaeth, a rhoddir blaenoriaeth a lle yn yr ysgol i’r sawl sy’n byw agosaf at yrysgol dros y sawl sy’n byw ymhellach i ffwrdd. Mesurir y pellter gan ddefnyddio Google Maps.

Mesurir y pellter o gyfeiriad y cartref i'r ysgol ar hyd y llwybr agosaf o fynedfa agosaf yr ysgol i'r pwynt mynediad agosaf i gyfeiriad y cartref ar briffordd neu lwybr troed fel y mesurir gan Google Maps.

Brodyr a Chwiorydd
Bydd plant yn cael eu hystyried yn frodyr neu’n chwiorydd os ydynt yn: brawd neu chwaer lawn (plant sydd â dau riant yn gyffredin), hanner brawd neu hanner chwaer (plant sydd ag un rhiant yn gyffredin), brawd neu chwaer trwy fabwysiad neu faethiad, llysfrawd neu lyschwaer (plant sy'n perthyn oherwydd bod eu rhieni’n briod, yn cyd-fyw neu mewn partneriaeth sifil), ond ym mhob achos mae'n rhaid i'r plant fod yn byw yn yr un uned deuluol yn yr un cyfeiriad am y rhan fwyaf o'r wythnos. Os oes preswyliaeth 50/50, cyfeiriad y rhiant/gofalwr sy'n derbyn budd-dal plant a ddefnyddir i brosesu’r cais a rhaid bod y brawd/chwaer ar y gofrestr ac yn mynychu'r ysgol pan fydd eich plentyn yn dechrau yn yr ysgol. Mae'r Awdurdod yn cadw'r hawl i ofyn am dystiolaeth os bydd angen. Os na ddarperir tystiolaeth pan ofynnir i chi wneud hynny bydd eich cais yn cael ei ystyried fel un heb frawd neu chwaer yn yr ysgol.

Plant Genedigaeth Luosog
O dan unrhyw amgylchiadau pan fydd un lle ar gael a phan fydd y plant cymwys nesaf yn efeilliaid/tripledi bydd yr Awdurdod Lleol yn derbyn y ddau / y ddwy / yr holl blant.

Plant Aelodau Lluoedd Arfog y DU
Bydd plant Aelodau Lluoedd Arfog y Deyrnas Unedig yn cael eu trin fel pe baent o fewn y dalgylch os yw eu ffurflen gais yn cynnwys llythyr swyddogol gan y Weinyddiaeth Amddiffyn yn nodi dyddiad dychwelyd pendant a chadarnhad o’r cyfeiriad newydd o fewn y dalgylch.

Y Nifer Derbyn (ND) – Terfyn ar nifer y disgyblion a dderbynnir i ysgol
Mae gan bob ysgol Nifer Derbyn (ND) sy’n nodi ac yn cyfyngu ar faint o ddisgyblion y gellir eu derbyn ym mhob grŵp blwyddyn yn yr ysgol. Rhoddir y ND ar gyfer pob ysgol yn y rhestr o ysgolion yn y llyfryn hwn.

Pennwyd y ND ar gyfer pob ysgol trwy ddefnyddio’r fformiwla maint a bennwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae’r cyfrifiad yn seiliedig ar ganllawiau cenedlaethol
(Mesur Capasiti Ysgolion yng Nghymru – Cylchlythyr 021/2011) ac mae’n
ymwneud ag arwynebedd ffisegol adeiladau’r ysgol, y math o gyfleusterau sydd yn yr ysgol, ystod oed a nifer y grwpiau blwyddyn yn yr ysgol.

Gan fod y ND yn seiliedig ar allu’r ysgol i ddarparu lle a chyfleusterau addas
ar gyfer disgyblion ni ddylid mynd heibio’r terfyn hwnnw.

Mae’r ND yn berthnasol i’r grŵp oed y derbynnir y disgyblion iddo yn yr ysgol,
ac mae’n gosod terfyn ar nifer y disgyblion y gellir eu derbyn. Yn y flwyddyn
dderbyn arferol rhaid i’r Awdurdod Derbyn dderbyn disgyblion hyd nes y
cyrhaeddir y ND. Os yw nifer y ceisiadau a dderbynnir am leoedd mewn ysgol yn fwy na’r ND bydd yr Awdurdod yn blaenoriaethu’r ceisiadau a dderbyniodd yn unol â’r meini prawf ar gyfer gor-alw a nodir yn y ddogfen hon. Mewn
amgylchiadau o’r fath mae’n bosib na fydd rhieni yn llwyddo i gael lle i’w plentyn yn eu dewis ysgol. Rhaid i lywodraethwyr ysgol a’r Awdurdod Lleol gadw golwg gyson ar y ND bob amser.

Trefniadau Derbyn Eraill

Sir Gâr ddwyieithog - Dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg
Gall rhieni fynegi eu bod yn ffafrio ysgol benodol o ran iaith. Fodd bynnag, mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ymrwymo i ddatblygu ei system addysg ddwyieithog ymhellach yn unol â Chynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2022-2032. Credwn yn gryf fod bod yn ddwyieithog neu'n amlieithog yn fantais i'n plant a'n pobl ifanc. Mae ystyriaethau wedi'u gwneud ar gyfer disgyblion sy'n symud i'r sir heb fawr ddim Cymraeg neu ddim Cymraeg o gwbl. Gall disgyblion o bob oed gael cymorth ar gyfer darpariaeth Gymraeg yn Sir Gaerfyrddin. Gellir cael rhagor o wybodaeth yn Addysg Ddwyieithog (llyw.cymru).

Ysgolion Dau Safle
Pan gyflwynir cais ar gyfer derbyn i ysgol sy'n gweithredu ar fwy nag un safle, bydd yr Awdurdod yn cymeradwyo derbyn i'r ysgol ac nid i safle penodol. Yr ysgol fydd yn penderfynu pa safle fydd y plentyn yn ei fynychu.

Plant Sipsiwn a Theithwyr
Bydd ceisiadau derbyn ar gyfer teuluoedd Sipsiwn a Theithwyr yn cael eu trin gyda’r bwriad o roi’r plant hyn, mor gyflym ag y bo modd, yn yr ysgol agosaf a mwyaf addas sydd ar gael.


Symud/Newid Ysgolion y tu allan i'r trefniadau derbyn arferol. (Symud yn ystod y flwyddyn/canol blwyddyn)

Pan fydd ceisiadau yn cael eu gwneud y tu allan i'r trefniadau derbyn arferol fel y gwelir yn rhan 2, caiff ceisiadau eu prosesu yn unol â'r trefniadau canlynol.

Mae newid ysgol yn gofyn am ystyriaeth ddifrifol a dylid trafod y mater yn llawn gyda phennaeth ysgol bresennol y plentyn yn y lle cyntaf. Mae angen i'r rhiant/gwarcheidwad ystyried a yw symud ysgol er lles pennaf y plentyn. Bydd yr Adran Addysg a Phlant hefyd yn darparu cyngor os oes angen.

Os bydd rhiant/gwarcheidwad yn dymuno symud plentyn o un ysgol i'r llall, rhaid llenwi'r ffurflen gais ar-lein. 

Nid yw bob amser yn bosibl cynnig lle i ddisgyblion mewn grŵp blwyddyn mewn ysgol y tu allan i'r cylch derbyn arferol, gan y gallai'r holl leoedd sydd ar gael fod eisoes wedi'u dyrannu i ddisgyblion yn gynharach (h.y. ceisiadau cynharach i symud ysgol ar gyfer y flwyddyn academaidd/blynyddoedd academaidd blaenorol, neu yn ystod y cylch derbyn arferol).

Nid yw symud i ddalgylch ysgol yn gwarantu lle mewn ysgol. Nid yw cael brawd neu chwaer sy'n cael cynnig lle mewn ysgol neu ei dderbyn i ysgol yn gwarantu lle mewn ysgol i frodyr a chwiorydd eraill.

Os oes nifer o blant o un aelwyd yn gwneud cais am symud i ysgol, efallai na fydd yn bosibl cynnig lle mewn ysgol i'r holl blant yn yr un ysgol os yw rhai grwpiau blwyddyn eisoes dros ei nifer derbyn.

Bydd ceisiadau sy'n dod i law cyn y Flwyddyn Academaidd newydd y mae'r cais ar ei chyfer yn cael eu prosesu yn Nhymor yr Haf cyn i'r Flwyddyn Academaidd ddechrau. Cedwir pob lle ar agor am un tymor yn unig. Dylid asesu ceisiadau sy'n dod i law yn ystod y Flwyddyn Academaidd a rhoi gwybod i rieni/gwarcheidwaid am benderfyniad cyn pen 15 diwrnod ysgol neu 28 diwrnod calendr (pa un bynnag yw'r cynharaf) a yw'r cais wedi bod yn llwyddiannus ai peidio. Caiff pob cais ei brosesu yn unol â Chôd Derbyn i Ysgolion Llywodraeth Cymru.

Bydd angen gwirio ceisiadau ar gyfer plant a nodwyd naill ai fel Plant sy'n Derbyn Gofal a Phlant a Oedd yn Arfer Derbyn Gofal, plant â Datganiad, neu Gynllun Datblygu Unigol cyn eu prosesu.

Byddai lle mewn ysgol fel arfer yn cael ei gadw am un tymor ysgol cyn cael ei dynnu'n ôl a'i ailddyrannu ar yr amod bod y dyddiad dechrau yn yr un flwyddyn academaidd y gwnaed cais amdani.

Caiff ceisiadau eu hystyried yn unol â'r gweithdrefnau a'r polisïau derbyn a nodir yn y ddogfen hon. Os bydd mwy o geisiadau na lleoedd ar gael, yna bydd yr Awdurdod yn blaenoriaethu ceisiadau yn unol â’i feini prawf gor-alw a nodir yn y ddogfen hon.

Os na fydd rhieni'n llwyddo i gael lle i'w plentyn yn eu dewis ysgol, fe’u hysbysir drwy e-bost o’r rheswm/rhesymau dros hyn. Bydd yr e-bost penderfyniad hefyd yn nodi eu hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad hwnnw ac yn esbonio’r broses apelio gan gynnwys y dyddiad cau i apelio. Ceir rhagor o wybodaeth am y broses apelio yn y ddogfen hon.

Rhestrau aros ar gyfer ceisiadau y tu allan i'r trefniadau derbyn arferol

Mae ceisiadau sydd wedi methu cael lle mewn ysgol a ddewisir yn cael eu cadw ar y rhestr aros tan ddiwrnod ysgol olaf y flwyddyn academaidd y gwnaethant gais amdani. Rhaid i rieni anfon e-bost at derbyniadau@sirgar.gov.uk os ydynt am i enw eu plentyn gael ei roi ar y rhestr aros.

Grwpiau Blwyddyn Eraill

Bydd ceisiadau am lefydd i ddisgyblion mewn grwpiau blwyddyn sy'n wahanol i’r grŵp blwyddyn arferol yn seiliedig ar ddyddiad geni disgybl yn cael eu hystyried fesul un, a lle y mae hynny’n berthnasol yn ôl y meini prawf ar gyfer gor-alw a esbonnir yn y llyfryn hwn. Mae proses benodol ar gyfer ystyried y ceisiadau hyn a fydd yn cynnwys asesiad gan yr Awdurdod Lleol o amgylchiadau unigol pob achos. Nid yw hon yn broses awtomatig.


Rhoi gwybod am Dderbyn i Ysgol

Bydd rhieni’n cael eu hysbysu trwy e-bost yn cadarnhau, neu fel arall, fod lle ar gael yn yr ysgol ac yn cynnig iddynt y cyfle i dderbyn y lle yn unol â'r trefniadau derbyn a nodir yn yr Amserlen Trefniadau Derbyn yn y ddogfen hon.

Rhaid i riant dderbyn yr e-bost cynnig i sicrhau lle yn yr ysgol. Os na fydd rhiant yn ymateb erbyn y dyddiad ar yr e-bost, mae'n bosibl y bydd y lle yn cael ei dynnu’n ôl ac yn cael ei gynnig i ddisgybl arall.

Bydd ceisiadau a dderbynwyd y tu allan i'r trefniadau derbyn arferol yn cael eu hysbysu fel arfer o fewn 15 diwrnod ysgol neu 28 diwrnod calendr, pa un bynnag sydd gyntaf ar ôl derbyn y cais.


Rhestr Aros
Lle na fu'n bosibl derbyn disgybl i ysgol oherwydd gor-alw, rhaid i rieni roi gwybod i'r Awdurdod mewn neges e-bost os ydynt yn dymuno rhoi'r plentyn ar y rhestr aros a fydd yn cael ei chadw tan ddiwrnod ysgol olaf y Flwyddyn Academaidd y gwnaethant gais amdani. Os daw lleoedd gwag ar gael cânt eu rhoi'n unol â'r meini prawf gor-alw a amlinellwyd yn hytrach nag ers pryd y bu'r cais ar y rhestr aros.

Dim ond os bydd nifer y lleoedd sydd wedi'u dyrannu/ar y gofrestr yn y grŵp blwyddyn perthnasol yn gostwng islaw'r nifer derbyn ar gyfer yr ysgol y bydd disgyblion ar y rhestr aros yn cael eu hystyried. Os bydd lleoedd gwag ar gael, bydd yr holl geisiadau newydd a hwyr sydd wedi dod i law bryd hynny yn cael eu hystyried ar gyfer y lleoedd gwag ynghyd â'r rhai sydd ar y rhestr aros. Bydd unrhyw leoedd sydd ar gael yn cael eu dyrannu yn unol â'r meini prawf gor-alw. Bydd ceisiadau ar y rhestr aros ar gyfer y trefniadau derbyn arferol yn cael eu hadolygu'n fisol ar ôl y dyddiad hysbysiad o benderfyniad fel y nodir yn yr Amserlen Trefniadau Derbyn yn y ddogfen hon.

Gall rhieni/gwarcheidwaid apelio yn erbyn penderfyniad tra byddant ar y rhestr aros ar gyfer nifer o ysgolion.

Tynnu Cynnig o Le yn Ôl

Tynnir cynnig o le mewn ysgol yn ôl:
• os darganfyddir yn ddiweddarach y cafodd cais twyllodrus neu fwriadol gamarweiniol ei gyflwyno (e.e. hawlio trwy dwyll fod ymgeisydd yn preswylio yn nalgylch yr ysgol); neu
• os nad yw’r lle a gynigir wedi cael ei dderbyn erbyn y dyddiadau a nodir yn yr e-bost/llythyr. Yna gallai'r Awdurdod dynnu’r cynnig yn ôl a rhoi’r lle i blentyn arall.
• os oes lle mewn ysgol arall wedi cael ei gadarnhau gan riant/gwarcheidwad.
• os nad yw disgybl wedi dechrau mewn ysgol ar ddiwedd y tymor ysgol sef y tymor yr oedd i fod i ddechrau yn unol â pholisi'r Awdurdod.


Apeliadau yn ymwneud â derbyn disgyblion i ysgolion cymunedol/ysgolion gwirfoddol a reolir cynradd neu uwchradd

Os na fydd rhieni'n llwyddo i gael lle i'w plentyn yn eu dewis ysgol, fe’u hysbysir drwy e-bost o’r rheswm/rhesymau dros hyn a hefyd am eu hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad a’r broses o wneud hynny.

Ar gyfer Ysgolion Cymunedol ac Ysgolion Gwirfoddol a Reolir bydd yr Awdurdod yn trefnu bod Panel Apêl Annibynnol yn ystyried yr apeliadau. Cynhelir y broses apeliadau yn unol â Chôd Apelau Derbyn i Ysgolion Llywodraeth Cymru.

Nid oes hawl i apelio yn achos gwrthod derbyn i ddarpariaeth Blynyddoedd Cynnar, lleoedd rhan-amser i blant 3 oed.

Bydd apeliadau'n cael eu cynnal yn unigol neu fel grŵp os oes mwy nag un apêl ar gyfer yr un ysgol, ac eithrio pan fydd y corff neu'r cyrff sy'n gyfrifol am wneud trefniadau apelio yn rhoi cyfarwyddyd fel arall. Bydd rhieni'n cael cyfle i gyflwyno eu hachos yn breifat naill ai'n uniongyrchol neu gyda chymorth cynrychiolydd a ddewisir ganddynt. Rhaid cyflwyno'r holl dystiolaeth ategol i'r panel erbyn dyddiad y gwrandawiad apêl neu efallai na fydd y panel yn ystyried hyn. Ni fydd y panel yn gallu ystyried unrhyw wybodaeth neu dystiolaeth ychwanegol a ddarperir yn dilyn y gwrandawiad.

Bydd y Clerc yn hysbysu pob parti o benderfyniad y Panel, a fydd yn rhwymo’r
Awdurdod, y Corff Llywodraethu a'r rhieni.

Rhaid i apêl gan rieni yn erbyn gwrthod lle mewn Ysgol Gymunedol neu Wirfoddol a Reolir gael ei chyflwyno drwy'r e-ffurflen apeliadau gael ei chyflwyno drwy'r e-ffurflen apeliadau https://sirgar-self.achieveservice.com/cy/service/School_Admissions_appeals

Rhaid cyflwyno'r apeliadau erbyn y dyddiadau cau a nodir ar yr e-bost penderfyniad neu fel y nodir yn yr Amserlen Trefniadau Derbyn yn y ddogfen hon.

Os bydd angen tystiolaeth feddygol bydd angen i chi ddarparu copïau o adroddiadau sy'n ymwneud â'r diagnosis gan yr Ymgynghorydd a/neu'r Arbenigwr perthnasol.

Bydd gan Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir eu trefniadau eu hunain ar gyfer cynnal apeliadau annibynnol. Yn ogystal â'r uchod, ni fydd unrhyw beth yn y broses hon yn atal rhiant â phlentyn sydd â datganiad o anghenion addysgol y gwrthodwyd lle i'r plentyn hwnnw yn yr ysgol a enwir yn y datganiad, rhag cael adolygiad o benderfyniad o'r fath gan Dribiwnlys AAA.

Nifer yr Apeliadau ar gyfer mynediad arferol i Ysgolion Sir Gaerfyrddin ar gyfer y flwyddyn academaidd 2023/24


School Name Number of Appeals for 23/24 Successful Appeals 23/24
Primary (N2)    
Bynea 3 3
Carreg Hirfaen 6 4
Cefneithin 3 2
Gorslas 8 3
Hendy 6 4
Llanddarog 1 1
Llangunnor 3 3
Nantgaredig 5 5
Pontyberem 1 1
Richmond Park 1 0
Saron 5 2
Swiss Valley 1 1
Ty-Croes 5 3
Y Dderwen 1 1
Total 49 33
Secondary (Year 7)    
Bro Dinefwr 7 5
Bryngwyn 28 12
Dyffryn Aman 1 1
Strade 8 4
Total 44 22

Derbyn i Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir

Dylai rhieni sy'n dymuno anfon eu plentyn i Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir gysylltu â Phennaeth yr ysgol honno. Nodir y manylion cyswllt ar wahân yn y rhestr ysgolion yn y llyfryn hwn. Corff Llywodraethu'r ysgol sy'n delio â'r trefniadau derbyn ac apeliadau ar gyfer Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir.


ADRAN B - Gwybodaeth am Addysg a Dysgu

1. Tymhorau Ysgol a Dyddiadau Gwyliau ar gyfer 2025/26

Nodwch y gallai manylion y calendr hwn newid o ganlyniad i benderfyniadau polisi’r llywodraeth. Nid yw Cyngor Sir Caerfyrddin yn derbyn cyfrifoldeb dros unrhyw golledion yn sgîl gorfod newid trefniadau gwyliau oherwydd newidiadau o’r fath.

Tymhorau Ysgol a Dyddiadau Gwyliau ar gyfer 2025/26

2. Profiadau Dysgu

Mae ysgolion yng Nghymru yn dylunio cwricwlwm sy'n seiliedig ar y cwricwlwm i Gymru ac sy'n cael ei gyd-ddylunio rhwng athrawon eu disgyblion a'r gymuned.
Bydd eich ysgol yn cefnogi eich plentyn i fod yn ddysgwr galluog uchelgeisiol sy'n barod i ddysgu drwy gydol ei oes. Bydd y profiadau dysgu yn sicrhau bod eich plentyn yn datblygu mewn ffordd fentrus a chreadigol gan sicrhau eu bod yn wybodus am Gymru a'r byd. Yn ogystal, bydd y profiadau dysgu yn sicrhau bod ein plant a'n pobl ifanc yn datblygu fel unigolion hyderus iach, yn barod i fyw bywydau cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.
Mae'r meysydd dysgu a phrofiad yn cynnwys ffocws ar lythrennedd a chyfathrebu ieithoedd, gwyddoniaeth a thechnoleg, mathemateg a rhifedd, y celfyddydau mynegiannol, y dyniaethau ac iechyd a lles.
Mae'r cwricwlwm hefyd yn ymdrin â hawliau dynol, amrywiaeth a pharchu gwahaniaethau, profiadau a sgiliau am gyrfaoedd a'r gweithle, dysgu am gyd-destunau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol ac addysg cydberthynas a rhywioldeb sy'n briodol yn ddatblygiadol.
Mae profiadau dysgu yn ein hysgolion yn Sir Gaerfyrddin yn gynhwysol a phwrpasol ac maent wedi'u cysylltu'n agos â'r gymuned leol, ein Cynefin.
Mae disgyblion hŷn yn cael cyfle i sefyll arholiadau allanol. Ymgynghorir yn llawn â rhieni a disgyblion ar eu dewisiadau a cheir thrafodaethau a gefnogir gyda chyngor gyrfaoedd.

Egwyddorion cyffredinol

Yn Sir Gaerfyrddin ymdrechwn i ddarparu'r profiad addysg gorau posibl i'n dysgwyr. Ymdrechwn i ddatblygu'r plentyn/person ifanc cyfan gan roi'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnynt ar gyfer y cam nesaf yn eu llwybr dysgu neu yrfa.
Mae Sir Gaerfyrddin yn credu yng ngwerth addysgol bod yn gyfarwydd mewn dwy iaith neu fwy ac mae'n gryf o blaid polisi dwyieithog yn ei hysgolion. Nod tymor hir y polisi hwn yw addysgu plant i fod yn rhugl ddwyieithog wrth ddefnyddio'r Gymraeg a'r Saesneg erbyn iddynt adael yr ysgol gynradd. Dylai'r ddarpariaeth ar lefel gynradd ac uwchradd sicrhau bod y plant yn gallu cyfathrebu â hyder yn y ddwy iaith a'u bod yn ymwybodol o dreftadaeth ddiwylliannol Cymru.

Gweledigaeth ar gyfer 2030

Byddwn yn gweithio i gefnogi holl blant a phobl ifanc Sir Gaerfyrddin. Byddwn yn cyflawni hyn drwy bod y gorau y gallwn fod a chael ein parchu'n lleol, tra'n ennill cydnabyddiaeth genedlaethol a rhyngwladol fel bod ein plant a'n pobl ifanc yn hapus, yn ddiogel, yn ffynnu ac yn cyflawni eu potensial personol, cymdeithasol a dysgu.

Ein pwrpas moesol cyfunol

Sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael ei werthfawrogi a'i werthfawrogi'n gyfartal.

Cwynion yn yr ysgol

Mae gan bob ysgol unigol bolisi ar gyfer ymdrin â chwynion. Yn ddelfrydol, bydd unrhyw bryderon sydd gan rieni yn cael eu datrys yn anffurfiol mewn trafodaeth uniongyrchol â'r ysgol. Fodd bynnag, os yw rhieni'n dymuno gwneud y gŵyn yn ffurfiol, mae'r ysgol wedi sefydlu gweithdrefnau y mae'n ofynnol iddynt eu darparu.

Grwpiau Blwyddyn/Oedrannau Disgyblion.

Mae dilyniant disgybl drwy flynyddoedd addysg orfodol yn cael ei rannu i bedwar cyfnod allweddol. Mae'r tabl yn dangos y cyfnodau allweddol ar gyfer yr oedrannau plant a'r rhifau blynyddoedd cyfatebol.

Cyfnod Allweddol Disgrifiad o'r Grwpiau Blwyddyn Oed y mwyafrif ar ddiwedd y flwyddyn
Blynyddoedd Cynnar  M1 | 3 oed Meithrin (Rhan-amser) 4
  M2 | 4 oed Meithrin (Amser llawn) 4
CA1 Derbyn | Babanod 5
  Bl1 | Babanod 6
  Bl2 | Babanod 7
CA2 Bl3 | Iau 8
  Bl4 | Iau 9
  Bl5 | Iau 10
  Bl6 | Iau 11
CA3 Bl7 | Ysgol Uwchradd Bl 1af 12
  Bl8 | Ysgol Uwchradd 2il Flwyddyn 13
  Bl9 | Ysgol Uwchradd 3edd Flwyddyn 14
CA4 Bl10 | Ysgol Uwchradd 4edd Flwyddyn 15
  Bl11 | Ysgol Uwchradd 5ed Flwyddyn 16
CA5 (Chweched
Dosbarth)
Bl12 | Blwyddyn Gyntaf/Chweched Isaf 17
  Bl13 | Ail Flwyddyn/Chweched Uchaf 18

Dysgu'r Gymraeg a'r Saesneg yn Ysgolion Sir Gaerfyrddin

Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru (Ionawr 2022), mae'n rhaid i bob ysgol ac Awdurdod Lleol yng Nghymru hysbysu ym mha iaith y maent yn bwriadu addysgu. O CYBLD Ionawr 2024 bydd y categorïau ysgol newydd yn cael eu cyflwyno yn genedlaethol.

Mae’r ddarpariaeth ieithyddol yn cyplysu’n agos gyda Chynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg y Sir; gan gyfrannu at darged Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050; gwreiddio cynigion i ddysgu Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd a Chyfathrebu y Cwricwlwm newydd i Gymru yn ogystal â chydymffurfio â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

O ganlyniad, mae disgwyliad clir y bydd pob ysgol yn datblygu darpariaeth a fydd yn cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn y cwricwlwm ffurfiol a'r cwricwlwm allgyrsiol, er mwyn cyflawni Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 10 mlynedd y Sir, sef cynllun cydnabyddedig, rhwng 2022 a 2032.

Ysgolion Cynradd

Categori Canlyniadau
Categori 1 - Ysgol Cyfrwng Saesneg Saesneg yw’r brif iaith ar gyfer cyfathrebu mewnol yn yr ysgol yn ogystal â chyfathrebu gyda rhieni a gofalwyr. Cydnabyddir y bydd creu ethos Cymraeg o fewn yr ysgol yn cefnogi ac yn annog agweddau cadarnhaol tuag at ddefnydd o'r Gymraeg. Bydd dysgwr mewn ysgol o'r categori hwn yn gallu darllen, ysgrifennu, siarad a gwrando yn Saesneg yn unol â’i oedran a'i allu, a bydd ganddo rywfaint o ddealltwriaeth o'r Gymraeg. Caiff y Gymraeg ei haddysgu a’i hasesu fel rhan o’r Maes Dysgu a Phrofiad ar gyfer ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu. Bydd o leiaf 15% o weithgareddau ysgol y dysgwyr (yn gwricwlaidd ac yn allgyrsiol) yn Gymraeg.
Categori 2 - Ysgol Dwy iaith

Defnyddir y Gymraeg a'r Saesneg ar gyfer cyfathrebu mewnol yn ogystal â chyfathrebu gyda rhieni a gofalwyr. Mae dealltwriaeth glir y bydd cynnal ethos Cymraeg o fewn yr ysgol yn cefnogi agweddau cadarnhaol tuag at ddefnydd o'r Gymraeg. Bydd dysgwr mewn ysgol o'r categori hwn yn gallu siarad, darllen, ysgrifennu a gwrando yn Saesneg ac yn Gymraeg yn unol â’i oedran a'i allu a ffrwd addysg. Bydd sgiliau iaith Gymraeg yn cael eu cryfhau’n bellach drwy gynyddu cyfleoedd dysgu (cwricwlaidd ac allgyrsiol) drwy gyfrwng y Gymraeg. Lle defnyddir y Gymraeg fel cyfrwng dysgu, defnyddir y Saesneg yn achlysurol i atgyfnerthu dealltwriaeth dysgwyr. Gyda'r cymorth cywir, gallai dysgwyr symud ymlaen i ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg Categori 3. Bydd o leiaf 50% o weithgareddau ysgol y dysgwyr (yn gwricwlaidd ac yn allgyrsiol) yn Gymraeg. Gellid cyflawni hyn mewn gwahanol ffyrdd yn dibynnu ar gyd-destun yr ysgol. Gallai fod drwy ddefnyddio trochi cyfrwng Cymraeg llawn hyd at 7 oed gyda dewis yn cael ei gynnig yn y grwpiau blwyddyn eraill, neu, bod 50% o weithgareddau’r ysgol yn Gymraeg drwyddi draw.

Categori 3 - Ysgol Cyfrwng Cymraeg

Cymraeg yw’r brif iaith ar gyfer cyfathrebu mewnol yn yr ysgol. Mae’n cyfathrebu â rhieni a gofalwyr naill ai yn Gymraeg, yn Saesneg neu'n ddwyieithog yn ôl yr angen. Mae hon yn ysgol sydd ag ethos Cymraeg cadarn, gan gefnogi a galluogi’r dysgwyr i ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob cyd-destun cymdeithasol yn yr ysgol a'r tu allan iddi. Mewn lleoliad trochi mae pob dysgwr yn cael ei addysgu'n llawn yn y Gymraeg, gyda’r Saesneg yn cael ei defnyddio ar brydiau i sicrhau dealltwriaeth yn ystod y cyfnod trochi cynnar. O 7 oed ymlaen bydd o leiaf 80% o weithgareddau ysgol y dysgwr (yn gwricwlaidd ac yn allgyrsiol) yn Gymraeg.

Ysgolion Uwchradd

Categori Canlyniadau
Categori 1 - Ysgol Cyfrwng Saesneg

Saesneg yw’r brif iaith ar gyfer cyfathrebu mewnol yn yr ysgol yn ogystal â chyfathrebu gyda rhieni a gofalwyr. Cydnabyddir y bydd creu ethos Cymraeg o fewn yr ysgol yn cefnogi ac yn annog agweddau cadarnhaol tuag at ddefnydd o'r Gymraeg. Bydd dysgwr mewn ysgol o'r categori hwn yn cael ei addysgu'n bennaf drwy gyfrwng y Saesneg, a bydd yn gallu siarad, darllen, ysgrifennu a gwrando yn Saesneg yn unol â’i oedran a'i allu. Caiff y Gymraeg ei haddysgu a’i hasesu fel rhan o’r Maes Dysgu a Phrofiad ar gyfer ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu. Bydd o leiaf 15% o weithgareddau ysgol y dysgwyr (yn gwricwlaidd ac yn allgyrsiol) yn Gymraeg. Bydd dysgwyr yn gallu siarad rhywfaint o'r Gymraeg mewn sefyllfaoedd cyfarwydd ac mewn rhai cyd-destunau pwnc gan ddefnyddio termau a geirfa sy'n benodol i bwnc yn dibynnu ar feysydd y cwricwlwm a ddarperir yn y Gymraeg.

Categori 2 - Ysgol Dwy iaith Defnyddir y Gymraeg a'r Saesneg ar gyfer cyfathrebu mewnol yn ogystal â chyfathrebu gyda rhieni a gofalwyr. Mae dealltwriaeth glir y bydd cynnal ethos Cymraeg o fewn yr ysgol yn cefnogi agweddau cadarnhaol tuag at ddefnydd o'r Gymraeg. Bydd dysgwr mewn ysgol o'r categori hwn yn gallu siarad, darllen, ysgrifennu a gwrando yn Saesneg ac yn Gymraeg yn unol â’i oedran a'i allu. Bydd sgiliau iaith Gymraeg yn cael eu cryfhau’n bellach drwy gynyddu cyfleoedd dysgu (cwricwlaidd ac allgyrsiol) drwy gyfrwng y Gymraeg. Gan ddibynnu ar faint o amser a neilltuir i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg a defnyddio'r Gymraeg y tu allan i'r ystafell ddosbarth, byddai dysgwyr yn gallu defnyddio eu sgiliau Cymraeg mewn ystod o wahanol Feysydd Dysgu a Phrofiad. Bydd o leiaf 40% o ddysgwyr yn ymgymryd ag o leiaf 40% o weithgareddau ysgol (yn gwricwlaidd ac yn allgyrsiol) yn Gymraeg.
Categori 3 – Ysgol Cyfrwng Cymraeg

Yn cynnig ystod eang o'u Meysydd Dysgu a Phrofiad drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd o leiaf 60% o ddysgwyr sy'n ymgymryd ag o leiaf 70% o'u gweithgareddau ysgol (cwricwlaidd ac allgyrsiol) yn Gymraeg. Bydd disgwyl i bob ysgol Categori 3 barhau i adlewyrchu cyd-destun ieithyddol yr ardal wrth weithio tuag at gynyddu eu darpariaeth cyfrwng Cymraeg dros amser.

Ysgol Categori 3P – Ysgol Cyfrwng Cymraeg Penodedig Yn cyflwyno pob Maes Dysgu a Phrofiad (Maes) drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd 100% o ddysgwyr yn ymgymryd ag o leiaf 90% o'u gweithgareddau ysgol (cwricwlaidd ac allgyrsiol) yn Gymraeg.
Is-gategorïau Trosiannol 2T a 3T

Categorïau pontio yw’r rhain rhwng dau brif gategori iaith. Mae’r trefniadau pontio hyn yn galluogi ysgolion i gynllunio sut y byddant yn cynyddu eu darpariaeth cyfrwng Cymraeg dros amser. Cynyddu’r ddarpariaeth o’r Gymraeg, a hynny er mwyn symud i’r categori nesaf, yw nod yr is-gategorïau trosiannol. Felly, mae 2T yn pontio categori 1 a 2, gyda’r nod o ddod yn gategori 2 dros amser ac mae 3T yn pontio ysgol categori 2 a 3 gyda nod o ddod yn Ysgol categori 3 dros amser.


Gwybodaeth am Addysg a Dysgu

4. Arholiadau Cyhoeddus

Bydd yr ALl yn cydymffurfio â gofynion y gyfraith. Mae disgyblion, os yw’r pennaeth yn ystyried eu bod yn addas, yn cael eu cofrestru ar gyfer arholiadau Cyd-bwyllgor Addysg Cymru (CBAC) a grwpiau arholi eraill.
Mae amserlenni arholiadau yn cael eu trefnu gan CBAC a grwpiau arholi eraill a hysbysir penaethiaid ynghylch yr arholiadau hyn a’r canlyniadau yn uniongyrchol gan y grwpiau hynny.

 

5. Gwahardd Disgyblion

Y Pennaeth (neu athro/athrawes c/gyfrifol arall yn gweithredu yn enw’r Pennaeth) yw’r unig un â’r awdurdod i wahardd disgybl o’r ysgol am resymau disgyblu. Mae’n ddyletswydd ar y pennaeth i roi gwybod i'r rhieni a’r plant (neu i’r disgybl os yw'n 11 oed neu'n hŷn) a yw'r gwaharddiad yn un parhaol neu'n waharddiad am gyfnod penodedig, a’r rhesymau dros hynny. Gwahoddir rhieni i gyflwyno sylwadau ynghylch y gwaharddiad i banel gwahardd disgyblion corff llywodraethu'r ysgol. Gellir cael copi o’r ddogfen gyfarwyddyd ar wahardd disgyblion o’r Adran Addysg a Phlant. Gellir cael cyngor pellach gan Swyddog EOTAS drwy ffonio: 01267 246456.

 

6. Taliadau am Weithgareddau mewn Ysgolion

Yr egwyddor sylfaenol yw y dylai addysg a ddarperir gan ysgol a gynhelir fod yn rhad ac am ddim pan fo’n digwydd yn llwyr neu’n bennaf yn ystod oriau ysgol. Mewn rhai amgylchiadau gall ysgolion godi taliadau neu ofyn am gyfraniadau gwirfoddol a thynnir sylw rhieni at hyn cyn gwneud unrhyw ymrwymiad i weithgaredd neilltuol.

 

7. Dyddiad Gadael Ysgol

Gall disgyblion adael yr ysgol ar y dydd Gwener olaf ym Mehefin yn ystod Blwyddyn 11 yn yr ysgol uwchradd os ydynt wedi cyrraedd 16 mlwydd oed.

 

8. Cyrff Llywodraethu Ysgolion

Mae gan bob ysgol neu ffederasiwn ysgolion gorff llywodraethu sy'n cynnwys aelodau o'r gymuned leol, rhieni, athrawon, staff a chynrychiolwyr o'r Awdurdod Lleol.
Hefyd mae gan Gyrff Llywodraethu Ysgolion Eglwysig (Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir ac Ysgolion Gwirfoddol a Reolir) gynrychiolaeth o'r awdurdod eglwysig.
Pan ddaw lleoedd gwag ar gyfer rhiant-lywodraethwyr, dosberthir gwybodaeth drwy'r sianeli cyfathrebu arferol, ac er mwyn bod yn gymwys i fod yn rhiant-lywodraethwr, mae'n rhaid i unigolyn fod â phlentyn ar gofrestr yr ysgol y mae'r Corff Llywodraethu'n gyfrifol amdani. Mae rhiant-lywodraethwr yn y swydd am gyfnod penodol o bedair blynedd (dwy flynedd ar gyfer Ysgol Feithrin Rhydaman) a gall rhiant lywodraethwr, os yw'n dewis, wasanaethu tymor llawn y swydd, hyd yn oed os nad yw ei blentyn yn ddisgybl yn yr ysgol honno mwyach. Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i Gyrff Llywodraethu gwrdd o leiaf unwaith y tymor.
Gellir cael rhagor o wybodaeth ynghylch cyrff llywodraethu gan yr Uned Llywodraethu Ysgolion yn yr Adran Addysg a Phlant:
01267 246448 / governance@sirgar.gov.uk.


ADRAN C - Gwasanaethau i Ddisgyblion

Diwallu Anghenion Addysgol Ychwanegol/Arbennig

Mae'r system ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion addysgol arbennig ac anabledd yng Nghymru wedi newid. Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno system newydd fwy hyblyg ac ymatebol ar gyfer diwallu anghenion plant ag anghenion addysgol arbennig (AAA) neu anableddau ac mae'n ymdrechu i gyflwyno system addysg gwbl gynhwysol ar gyfer dysgwyr Cymru.

Gan ddefnyddio'r system newydd bydd ysgolion yn sicrhau:

  • bod anghenion yn cael eu nodi'n gynnar, eu diwallu'n gyflym a bod pob dysgwr yn cael ei gefnogi i gyrraedd ei botensial.
  • bod gweithwyr proffesiynol yn fedrus ac yn hyderus o ran nodi anghenion a datblygu strategaethau i helpu dysgwyr i oresgyn eu rhwystrau i ddysgu.
  • bod y dysgwyr yn derbyn dysgu wedi'i bersonoli a bod y dysgwr a'i rieni/gofalwyr, yn bartneriaid cyfartal yn ei ddysgu (Dull sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn).

 

Anghenion Dysgu Ychwanegol

 

Cyngor Sir Caerfyrddin – Polisi Cludiant Ysgol

Efallai y bydd eich plant yn gallu cael cludiant am ddim i'r ysgol, yn dibynnu ar ba mor bell y maent yn byw o’r ysgol ac unrhyw anghenion ychwanegol sydd ganddynt.

Cludiant Ysgol

 

Prydau Ysgol a Hanfodion Ysgol (PDG - Mynediad)

Mae Gwasanaeth Prydau Ysgol Sir Gaerfyrddin yn cynnig dewis o brydau maethlon cytbwys a gwerth yr arian i bob ysgol yn y sir. Mae prydau ysgol yn bwysig o ran dysgu sgiliau cymdeithasol i blant a chyflwyno dewisiadau bwyd gwahanol ac amrywiol.

Cynigir brecwast am ddim i ddisgyblion mewn ysgolion cynradd a chânt ddewis o bryd dau gwrs bob dydd, ac mae gan ddisgyblion ysgolion uwchradd ffreuturau sy’n cynnig dewis o brydau, byrbrydau, ffrwythau a phwdinau i ddisgyblion, sydd ar gael amser cinio ac yn yr egwyl canol bore.

Os oes gan eich plentyn anghenion dietegol arbennig dylech roi gwybod i’r ysgol a’r staff arlwyo ac fe wnaiff y gwasanaeth ei orau i ddarparu ar gyfer y gofynion hynny.

Mae’r gwasanaeth hefyd yn darparu cyfleusterau ar gyfer cynnig dŵr yfed i ddisgyblion adeg prydau bwyd.

Prydau Ysgol

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno Grant Datblygu Disgyblion - Mynediad. Mae'r Grant Datblygu Disgyblion yn rhoi cymorth ariannol i deuluoedd ar incwm isel i brynu:

  • Gwisg ysgol gan gynnwys cotiau ac esgidiau;
  • Cit chwaraeon ysgol gan gynnwys esgidiau;
  • Gwisg ar gyfer gweithgareddau cyfoethogi, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, sgowtiaid; geidiaid; cadetiaid; crefft ymladd; chwaraeon; celfyddydau perfformio neu ddawns;
  • Offer e.e. bagiau ysgol a deunyddiau swyddfa;
  • Offer arbenigol lle mae gweithgareddau cwricwlwm newydd yn dechrau megis dylunio a thechnoleg; a
  • Offer ar gyfer teithiau y tu allan i oriau ysgol fel dysgu yn yr awyr agored e.e. dillad glaw.

Sylwch y gallai'r rhestr uchod newid.

Hanfodion Ysgol (PDG - Mynediad)

 

Lwfans Cynhaliaeth Addysg (EMA)

Mae'r lwfansau hyn ar gael i fyfyrwyr sy'n hŷn na'r oedran ysgol gorfodol sy'n dewis aros ymlaen yn yr ysgol. Mae gwybodaeth lawn am y lwfansau a'r grantiau hyn, a sut i gyflwyno cais amdanynt ar gael yn yr ysgol.

Lwfans Cynhaliaeth Addysg (EMA)

 

Tîm Diogelu a Phresenoldeb Ysgolion

Mae'r Tîm Diogelu a Phresenoldeb Ysgolion yn gweithio ar ran yr awdurdod lleol i gefnogi presenoldeb rheolaidd yn yr ysgol ac ymgysylltu mewn addysg. Mae'r tîm hefyd yn gweithio i sicrhau diogelu mewn lleoliadau ysgol ac yn goruchwylio Addysg Ddewisol yn y Cartref. Mae staff yn hyrwyddo ymgysylltu â theuluoedd i alluogi teuluoedd i oresgyn rhwystrau i bresenoldeb rheolaidd yn yr ysgol ac ymgysylltu mewn addysg. Y Tîm Diogelu a Phresenoldeb Ysgolion sydd â chyfrifoldeb dirprwyedig dros oruchwylio perfformiad plant; cyflogaeth plant; a thrwyddedau i hebryngwyr ar draws yr awdurdod.

Mae'r Tîm Diogelu a Phresenoldeb Ysgolion hefyd yn gweithredu ar ran yr awdurdod lleol wrth orfodi dyletswydd rhieni i ddarparu addysg briodol o dan Ddeddf Addysg (1996) (2002).

Mae'r gwasanaeth yn gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion, gwasanaethau plant, teuluoedd a phartneriaid ehangach. I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch 01554 742369.

 

Ymddiriedolaethau Elusennol

Mae’r Awdurdod yn gweinyddu nifer o gronfeydd ymddiriedolaeth elusennol sy’n gallu cynnig cymorth o ran treuliau'r rheiny sy’n mynychu cyrsiau addysg bellach neu addysg uwch. Yn bennaf, mae pob un o’r cronfeydd ymddiriedolaeth hyn wedi’u sefydlu er budd plant sydd wedi mynychu ysgol neu ysgolion penodol yn y Sir - er dylid nodi bod rhai ohonynt yn cynnig cymorth ariannol i gefnogi myfyrwyr o unrhyw ran o’r Sir. Dylid gofyn am fanylion pellach am gymorth ariannol o gronfeydd ymddiriedolaeth oddi wrth bennaeth yr ysgol neu fynd i'n gwefan.

Ymddiriedolaethau Elusennol

 

Y Gwasanaeth Gyrfaoedd

Nod Gyrfa Cymru yw helpu pobl ifainc wneud y penderfyniadau anodd hynny am eu dyfodol. Mae gan y gwasanaeth y wybodaeth arbenigol ddiweddaraf am addysg, hyfforddiant a chyflogaeth, ac fel arfer, bydd Ymgynghorwyr Gyrfaoedd yn gweld plant yn yr ysgol o Flwyddyn 9 yn yr ysgol uwchradd ymlaen.

Gyrfa Cymru

 

Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir Gaerfyrddin

Mae'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yn darparu gwybodaeth ddwyieithog, ddiduedd a di-dâl ynghylch amrywiaeth eang o ddewisiadau gofal plant, gweithgareddau i blant a materion yn ymwneud â chymorth i deuluoedd. Mae hyn yn cynnwys talu am ofal plant a gweithio ym maes gofal plant, gwybodaeth am feithrinfeydd, gwarchodwyr plant, clybiau ar ôl ysgol, cylchoedd chwarae a grwpiau rhieni a phlant bach. Mae'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ar gael i rieni, gofalwyr, cyflogwyr a gweithwyr proffesiynol yn Sir Gaerfyrddin.

Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir Gaerfyrddin

 

Y Cynnig Gofal Plant

I gael rhagor o wybodaeth am Gynnig Gofal Plant Cymru, cysylltwch â Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir Gaerfyrddin drwy ffonio 01267 246555 neu drwy fynd i’r wefan.

Y Cynnig Gofal Plant i Gymru

 

Cynllun Ysgolion Iach

Mae'r Cynllun Ysgolion Iach wedi bod yn gweithredu'n llwyddiannus ers Medi 2001 a bellach mae'r holl ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd a sefydliadau dysgu ychwanegol yn Sir Gaerfyrddin yn rhan o'r fenter.

Mae'r 'Ysgol Iach' yn un sy'n cymryd cyfrifoldeb am gynnal a hyrwyddo iechyd pawb sy'n 'dysgu, gweithio, chwarae a byw' ynddi drwy ymgorffori'r saith thema iechyd ym mhob agwedd ar brofiadau dysgu disgyblion.

Y Saith Pwnc yw:

  • Bwyd a Ffitrwydd
  • Iechyd Meddyliol ac Emosiynol a Llesiant
  • Datblygiad Personol a Pherthnasoedd
  • Defnyddio a chamddefnyddio sylweddau
  • Yr Amgylchedd
  • Diogelwch
  • Hylendid

Mae'r fenter yn cefnogi Cwricwlwm newydd Cymru o ran plant a phobl ifanc iach ac mae'n cefnogi Fframwaith Addysg Bersonol a Chymdeithasol yn sylweddol.

Mae'n rhaid i ysgolion symud drwy bum cam o'r cynllun o fewn pedwar maes, sef Arweinyddiaeth a Chyfathrebu, Y Cwricwlwm, Ethos a'r Amgylchedd a Chynnwys Teuluoedd a'r Gymuned. Ar ôl cwblhau'r camau, dyfernir plac i'r ysgolion. Y Wobr Ansawdd Genedlaethol yw'r wobr uchaf y gellir ei chyflawni yn y cynllun ac ar hyn o bryd mae 7 ysgol yn gweithio tuag at statws y Wobr Ansawdd Genedlaethol yn SirGaerfyrddin. Y Wobr Ansawdd Genedlaethol yw'r wobr uchaf y gellir ei chyflawniyn y cynllun ac mae 3 ysgol eisoes wedi ennill y wobr fawreddog hon.

I gael rhagor o wybodaeth am y Cynllun Ysgolion Iach, cysylltwch â Catrin Rees, Cydgysylltydd Ysgolion Iach CLRees@sirgar.gov.uk neu Shân Thomas, Swyddog Ysgolion Iach ShEThomas@sirgar.gov.uk drwy ffonio 01267 246622

 

Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang

Mae Datblygiad Cynaliadwy ac Addysg Dinasyddiaeth Fyd-eang wedi'i ymgorffori o fewn pedwar diben craidd y Cwricwlwm i Gymru. Mae holl ysgolion Sir Gaerfyrddin wedi ymrwymo i gefnogi Cyngor Sir Gaerfyrddin i fod yn garbon sero-net erbyn 2030.

Mae'r holl ddysgwr yn cael eu cefnogi a'u hannog i ddatblygu'r wybodaeth, y sgiliau a'r gwerthoedd sydd eu hangen arnynt i ymgysylltu â'r byd gan gynnwys y gred y gall pob un ohonom wneud gwahaniaeth. Trwy gamau pwrpasol mae dysgwyr yn cymryd cyfrifoldeb dros yr amgylchedd naturiol ac yn gwneud cysylltiadau ar gyfer newid cadarnhaol. Mae hyn yn creu diwylliant o ofal a chyfrifoldeb ar gyfer ein cenedlaethau i ddod.

Mae Sir Gaerfyrddin yn Awdurdod Lleol Masnach Deg ac mae'n parhau i gefnogi ei ysgolion gyda'r Rhaglen Ysgolion Masnach Deg.

Mae cysylltiadau byd-eang gydag ysgolion ar lwyfan rhyngwladol yn parhau i gael eu cefnogi drwy Raglen Cyfnewid Rhyngwladol newydd Cymru sef 'Taith’. Mae ysgolion Sir Gaerfyrddin yn parhau i adeiladu ar y model llwyddiannus hwn o gymryd rhan ac mae gan yr ysgolion ddealltwriaeth glir o werth y rhaglenni cyfnewid trawsnewidiol hyn i ysgolion. Mae partneriaethau llwyddiannus yn parhau i ffynnu rhwng ysgolion Sir Gaerfyrddin ac ysgolion yn Lesotho, drwy'r rhaglen Cysylltu Dosbarthiadau a Dolen Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth am yr uchod, cysylltwch â,

Louise Morgan, Ymgynghorydd Cymorth Addysg Cysylltiol HeLMorgan@sirgar.gov.uk

Maniffesto Gweithredu dros yr Hinsawdd


ADRAN D - Crynodeb o Ddisgyblion ac Ysgolion Sir Gaerfyrddin

School Type Number
Ysgolion Meithrin 1
Ysgolion Cynradd 94
Ysgolion Arbennig 1
Ysgolion Uwchradd 12
CYFANSWM (Ionawr 2024) 108

 

Cyfanswm y Disgyblion (Ionawr 2024)

Ysgolion Cynradd 15,458
Ysgolion Uwchradd 11,505

Gellir cael rhagor o wybodaeth am ysgolion unigol a gweld eu gwefannau ar ein tudalen Dod o hyd i ysgol.


ADRAN E - Ysgolion Sir Gaerfyrddin: Ysgol Meithrin

 

ALLWEDD

*Disgyblion Nifer o ddisgyblion ar y gofrestr yn 2024(cynnwys Meithrin)
**ND Nifer Derbyn
Ceisiadau Cyfanswm y ceisiadau a dderbyniwyd ar gyfer yr oedran dechrau arferol (M2/M1/Bl7) gan gynnwys 1af, 2il, 3ydd ac ati. Cyfeirnod ar gyfer 2023/24
3 Cyfrwng Cymraeg
2 Dwy Ffrwd
T2/T3  Ysgol Drawsnewid
1 Cyfrwng Saesneg
   

 


Ysgolion Sir Gaerfyrddin: Ysgol Gynradd Gymunedol

 

ALWEDD

*Disgyblion Nifer o ddisgyblion ar y gofrestr yn 2022(cynnwys Meithrin)
**ND Nifer Derbyn
Ceisiadau Cyfanswm y ceisiadau a dderbyniwyd ar gyfer yr oedran dechrau arferol (M2/M1/Bl7) gan gynnwys 1af, 2il, 3ydd ac ati. Cyfeirnod ar gyfer 2021/22
WM Cyfrwng Cymraeg
DS Dwy Ffrwd
TR  Ysgol Drawsnewid
EM Cyfrwng Saesneg
   

 


Ysgolion Sir Gaerfyrddin: Ysgolion Cynradd Gwirfoddol Rheoledig

 

ALWEDD

*Disgyblion Nifer o ddisgyblion ar y gofrestr yn 2022(cynnwys Meithrin)
**ND Nifer Derbyn
Ceisiadau Cyfanswm y ceisiadau a dderbyniwyd ar gyfer yr oedran dechrau arferol (M2/M1/Bl7) gan gynnwys 1af, 2il, 3ydd ac ati. Cyfeirnod ar gyfer 2021/22
WM Cyfrwng Cymraeg
DS Dwy Ffrwd
TR  Ysgol Drawsnewid
EM Cyfrwng Saesneg
EW Cyfrwng Saesneg â defnydd sylweddol o’r Gymraeg

 

 


Ysgolion Sir Gaerfyrddin: Ysgolion Uwchradd

 

ALWEDD

*Disgyblion Nifer o ddisgyblion ar y gofrestr yn 2024(cynnwys Meithrin)
**ND Nifer Derbyn
Ceisiadau Cyfanswm y ceisiadau a dderbyniwyd ar gyfer yr oedran dechrau arferol (M2/M1/Bl7) gan gynnwys 1af, 2il, 3ydd ac ati. Cyfeirnod ar gyfer 2023/24
Categori 1 Cyfrwng Saesneg
Categori 2 Dwy Iaith
Categori 3 Cyfrwng Cymraeg
Categori 3P Cyfrwng Cymraeg Penondedig
Is-gategoriau Transiannol 2T a 3T  Categoriau pontio rhwng dau Catagori. e.e. Categori 1 yn ceisio bod yn categori 2 yw 2T.

 


Ysgolion Sir Gaerfyrddin: Ysgol Uwchradd Gymorthedig

 

ALWEDD

*Disgyblion Nifer o ddisgyblion ar y gofrestr yn 2022(cynnwys Meithrin)
**ND Nifer Derbyn
Ceisiadau Cyfanswm y ceisiadau a dderbyniwyd ar gyfer yr oedran dechrau arferol (M2/M1/Bl7) gan gynnwys 1af, 2il, 3ydd ac ati. Cyfeirnod ar gyfer 2021/22
WM(1) Cyfrwng Cymraeg
Dwyieithog (2A) Addysgir o leiaf 80% o’r pynciau ac eithrio’r Gymraeg a’r Saesneg drwy gyfrwng y Gymraeg yn unig i bob disgybl. Mae un neu ddau o bynciau’n cael eu haddysgu i rai disgyblion yn Saesneg neu yn y naill iaith a'r llall.
Dwyieithog (2B) Addysgir o leiaf 80% o bynciau (ac eithrio’r Gymraeg a'r Saesneg) drwy gyfrwng y Gymraeg ond fe’u haddysgir drwy gyfrwng y Saesneg hefyd
EM Cyfrwng Saesneg
EW Cyfrwng Saesneg â defnydd sylweddol o’r Gymraeg

 


Ysgolion Sir Gaerfyrddin: Ysgolion Arbennig