Derbyn i Ysgolion 2025-2026- Gwybodaeth i Rieni
Yn yr adran hon
- Cyflwyniad
- ADRAN A - Derbyn i Ysgolion Sir Gaerfyrddin
- Trefniadau derbyn arferol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2025-26
- Pryd i wneud cais
- Faint Fydd Oed Plant yn Dechrau'r Ysgol?
- Derbyn plant i ysgolion uwchradd gan gynnwys y chweched dosbarth
- Dewis Ysgol - Dalgylchoedd
- Sut mae gwneud cais
- Rhoi Llefydd - Y Meini Prawf Gor-alw
- Symud/Newid Ysgolion y tu allan i'r trefniadau derbyn arferol. (Symud yn ystod y flwyddyn/canol blwyddyn)
- Rhoi gwybod am Dderbyn i Ysgol
- Apeliadau yn ymwneud â derbyn disgyblion i ysgolion cymunedol/ysgolion gwirfoddol a reolir cynradd neu uwchradd
- Derbyn i Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir
- ADRAN B - Gwybodaeth am Addysg a Dysgu
- Dysgu'r Gymraeg a'r Saesneg yn Ysgolion Sir Gaerfyrddin
- Gwybodaeth am Addysg a Dysgu
- ADRAN C - Gwasanaethau i Ddisgyblion
- ADRAN D - Crynodeb o Ddisgyblion ac Ysgolion Sir Gaerfyrddin
- ADRAN E - Ysgolion Sir Gaerfyrddin: Ysgol Meithrin
- Ysgolion Sir Gaerfyrddin: Ysgol Gynradd Gymunedol
- Ysgolion Sir Gaerfyrddin: Ysgolion Cynradd Gwirfoddol Rheoledig
- Ysgolion Sir Gaerfyrddin: Ysgolion Uwchradd
- Ysgolion Sir Gaerfyrddin: Ysgol Uwchradd Gymorthedig
- Ysgolion Sir Gaerfyrddin: Ysgolion Arbennig
Dewis Ysgol - Dalgylchoedd
Ffeithiau:
- Mae pob ysgol yn gwasanaethu dalgylch dynodedig.
- Os yw'r disgybl yn byw yn nalgylch dynodedig ysgol, mae gwell siawns y bydd y cais am le yn yr ysgol honno yn llwyddiannus. Fodd bynnag, nid oes sicrwydd y bydd yn cael lle.
- Mae gan ddisgyblion sy'n byw o fewn dalgylch yr ysgol, yn amodol ar y meini prawf ynghylch oed a phellter teithio, well siawns o gael cludiant am ddim o'r cartref i'r ysgol - gweler y polisi cludiant.
- Lle bydd rhieni'n dewis ysgol nad yw'n ysgol agosaf neu'n ysgol y dalgylch, eu cyfrifoldeb nhw fydd cludo'r plentyn i'r ysgol ac yn ôl.
- Gall rhieni fynegi eu bod yn dewis ysgol nad yw'n ysgol ddynodedig y dalgylch. Os dilynir y gweithdrefnau cywir ac os nad yw nifer y disgyblion yn fwy na'r nifer y caniateir i'r ysgol ei derbyn, bydd lle yn cael ei roi.
- Pan fydd disgybl yn symud o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd, bydd ystyriaeth ynghylch cymhwysedd i gael ei dderbyn i'r ysgol honno ac i dderbyn cludiant am ddim o'r cartref i'r ysgol yn seiliedig ar y cyfeiriad cartref ac nid yr ysgol gynradd a fynychwyd.
Ysgol Leol/Dalgylch
Mae’r Awdurdod wedi dynodi ardal ddaearyddol benodedig y mae’r ysgol yn ei gwasanaethu sy’n cael ei galw’n ddalgylch yr ysgol. Mae manylion dalgylch ysgol ar gael yn yr ysgol, ar wefan yr Awdurdod Sir neu oddi wrth yr Awdurdod Derbyn perthnasol.
Er nad yw byw yn nalgylch ysgol yn rhoi sicrwydd y derbynnir disgybl i'r ysgol mae'n ffactor pwysig gan y bydd yn golygu y bydd cais yn cael blaenoriaeth dros geisiadau gan unigolion sy'n byw y tu allan i'r dalgylch. Mae'n bwysig hefyd am ei fod yn un o'r meini prawf allweddol wrth asesu a yw disgybl yn gymwys i gael cymorth o ran cludiant o'r cartref i'r ysgol.
Ceir manylion y polisi ynghylch cludiant o'r cartref i'r ysgol yn y ddogfen hon. Cyn gwneud cais am le mewn ysgol mae’r Awdurdod yn eich cynghori’n gryf i gysylltu a thrafod materion gyda’ch ysgol leol ac os yn bosib mynd i’w gweld fel eich bod yn gwybod am y cyfleusterau a’r cyfleoedd allant eu cynnig.
Dewisiadau Rhieni
Fel y nodwyd, mae’r Awdurdod yn awgrymu mai’r pwynt cyswllt cyntaf wrth ddewis ysgol fyddai’r ysgol dalgylch leol.
Er bod y rhan fwyaf o rieni yn anfon eu plentyn i’r ysgol dalgylch leol, mae gan rieni hawl i ddatgan blaenoriaeth i ysgolion gwahanol. Os ydych yn dymuno gwneud hynny argymhellir eich bod yn cysylltu â’r ysgol rydych yn meddwl amdani cyn gwneud dewis terfynol.
Os ydych yn dewis ysgol nad yw’n ysgol dalgylch leol ichi nac yr ysgol agosach at eich cartref, dylech gofio fod rhai materion ymarferol y mae angen ichi eu hystyried yn llawn cyn gwneud penderfyniad.
Mae’r ail fater yn ymwneud â’r adeg pan mae disgyblion yn trosglwyddo o’r ysgol gynradd i’r sector uwchradd. Mae cael lle mewn ysgolion uwchradd yn seiliedig ar a ydy eich cyfeiriad cartref o fewn dalgylch yr ysgol uwchradd. Nid yw’n seiliedig ar ba ysgol gynradd yr aethpwyd iddi. Felly, pan mae disgybl wedi bod i ysgol gynradd nad yw’n ysgol dalgylch benodedig leol iddynt mae mwy o debygrwydd na fyddant yn gallu cael eu derbyn i’r un ysgol uwchradd â’u cyfoedion a’u cyd-ddisgyblion.
Ni fydd y materion hyn yn berthnasol i lawer, ond gan eu bod wedi creu anawsterau i rieni yn y gorffennol argymhellir eich bod yn eu hystyried ac yn cynllunio ar eu cyfer cyn gwneud eich dewis terfynol o ran ysgol gynradd.
Bydd yr Awdurdod Derbyn a'r llywodraethwyr ysgol yn cydymffurfio’n gyfreithlon ag unrhyw fynegiant o flaenoriaeth i ysgol benodol. Fel gyda phob cais bydd blaenoriaeth i ysgol benodol yn gorfod cael ei hystyried a’i hasesu yn rhan o’r broses dderbyn i sicrhau nad yw’r Awdurdod yn mynd heibio’r terfyn ar gyfer derbyn disgyblion i’r ysgol honno ar gyfer y grŵp blwyddyn penodol.
Y term a ddefnyddir yn y ddogfen hon wrth gyfeirio at y nifer sy’n cyfyngu faint o ddisgyblion ellir eu derbyn i grŵp blwyddyn penodol mewn ysgol yw’r Nifer Derbyn neu ND. Nodir y nifer derbyn (ND) ar gyfer pob ysgol yn y rhestr o ysgolion sy’n rhan o’r llyfryn hwn.
Dewisiadau Rhieni – Disgyblion a Waharddwyd Ddwywaith
Os yw disgybl wedi cael ei wahardd yn barhaol o ddwy ysgol neu ragor yn barod, er y gall rhiant ddatgan blaenoriaeth i ysgol y maen nhw’n dymuno i’w plentyn gael eu haddysgu ynddi, nid oes raid i’r Awdurdod Derbyn gydymffurfio â’r dewis hwnnw am gyfnod o ddwy flynedd o ddyddiad y gwaharddiad diweddaraf.
Nid yw hynny’n berthnasol i fyfyrwyr sydd â datganiadau o Anghenion Addysgol Arbennig (AAA), plant o dan oed ysgol gorfodol, plant a gafodd le ysgol yn ôl, neu a fyddai wedi cael lle yn ôl pe bai wedi bod yn ymarferol gwneud hynny, neu blant sy'n derbyn gofal pan wneir y cais am le gan y rhiant corfforaethol.
Diwallu Anghenion Addysgol Ychwanegol/Arbennig
Mae gan rai plant anghenion addysgol ychwanegol neu arbennig a/neu anabledd sy’n golygu fod angen gwneud darpariaeth ychwanegol ar eu cyfer fel y gallant ddysgu’n effeithiol. Mewn amgylchiadau o’r fath trowch at adran Anghenion Addysgol Ychwanegol y llyfryn hwn.
Addysg yn y Cartref
Gall rhieni ddewis hefyd addysgu eu plant gartref. Yr enw ar hyn yw Addysg Ddewisol yn y Cartref. Mae’r penderfyniad i addysgu gartref yn fater y dylid meddwl yn ofalus amdano, gan ei fod yn golygu ymrwymiad, amser a chost sylweddol.
Os ydych yn ystyried y dewis hwn awgrymir y dylech gysylltu â’r awdurdod lleol a gofyn am arweiniad gan y Swyddog Addysg Ddewisol yn y Cartref drwy ffonio 01554 742369 neu e-bostiwch: EHEenquiries@sirgar.gov.uk
Mathau o Ysgolion
Mae pob ysgol yn Sir Gaerfyrddin yn cael ei dosbarthu’n ysgolion cydaddysgol yn yr ystyr eu bod yn darparu ar gyfer bechgyn a merched, ac oni nodir yn wahanol maent yn ysgolion dyddiol ac nid yn ysgolion preswyl.
Oni nodir yn wahanol, mae ysgolion uwchradd yn cael eu dosbarthu’n ysgolion cyfun.
Yn unol â Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 gosodir terfyn o 30 o ddisgyblion mewn dosbarth sy'n cael ei addysgu gan un athro cymwysedig yn achos dosbarthiadau Derbyn, Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2.