Derbyn i Ysgolion 2025-2026- Gwybodaeth i Rieni
Yn yr adran hon
- Cyflwyniad
- ADRAN A - Derbyn i Ysgolion Sir Gaerfyrddin
- Trefniadau derbyn arferol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2025-26
- Pryd i wneud cais
- Faint Fydd Oed Plant yn Dechrau'r Ysgol?
- Derbyn plant i ysgolion uwchradd gan gynnwys y chweched dosbarth
- Dewis Ysgol - Dalgylchoedd
- Sut mae gwneud cais
- Rhoi Llefydd - Y Meini Prawf Gor-alw
- Symud/Newid Ysgolion y tu allan i'r trefniadau derbyn arferol. (Symud yn ystod y flwyddyn/canol blwyddyn)
- Rhoi gwybod am Dderbyn i Ysgol
- Apeliadau yn ymwneud â derbyn disgyblion i ysgolion cymunedol/ysgolion gwirfoddol a reolir cynradd neu uwchradd
- Derbyn i Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir
- ADRAN B - Gwybodaeth am Addysg a Dysgu
- Dysgu'r Gymraeg a'r Saesneg yn Ysgolion Sir Gaerfyrddin
- Gwybodaeth am Addysg a Dysgu
- ADRAN C - Gwasanaethau i Ddisgyblion
- ADRAN D - Crynodeb o Ddisgyblion ac Ysgolion Sir Gaerfyrddin
- ADRAN E - Ysgolion Sir Gaerfyrddin: Ysgol Meithrin
- Ysgolion Sir Gaerfyrddin: Ysgol Gynradd Gymunedol
- Ysgolion Sir Gaerfyrddin: Ysgolion Uwchradd
- Ysgolion Sir Gaerfyrddin: Ysgolion Arbennig
Faint Fydd Oed Plant yn Dechrau'r Ysgol?
Y Blynyddoedd Cynnar ‐ Darpariaeth i blant 3 oed
Beth yw'r Blynyddoedd Cynnar?
Mae Addysg y Blynyddoedd Cynnar yn ddarpariaeth anstatudol sydd ar gael i blant 3 oed a bydd yn rhaid gwneud cais am le mewn ysgol h.y. ar gyfer categorïau (i) â (ii) isod, i'r Awdurdod Derbyn erbyn y dyddiad cau - Gweler yr Amserlen ar gyfer Cyflwyno Cais.
Ble mae addysg ran amser i'w chael?
Mae hawl gan bob plentyn 3 blwydd oed gael lleoliad am ddim am 10 awr yr wythnos mewn sefydliad cofrestredig trwy’r Grŵp Hawliau Bore Oes o'r tymor yn dilyn ei drydydd pen-blwydd. Mae'r Awdurdod yn caniatáu i ddarparwyr nas cynhelir ddefnyddio adeiladau ysgolion lle bynnag y bo hynny'n ymarferol.
Mae sawl math o ddarpariaeth:
(i)Ysgol Feithrin - Ysgol Feithrin Rhydaman yw'r unig ysgol feithrin yn y Sir.
(ii)Dosbarthiadau Meithrin/Blynyddoedd Cynnar mewn Ysgolion Babanod neu Gynradd (Ysgolion 3-11 yn unig).
(iii)Darpariaeth gan y sector nas cynhelir sy’n bartneriaid yn y Grŵp Hawl Bore-Oes, megis Blynyddoedd Cynnar Cymru, mudiadau fel Cymdeithas Darparwyr Cyn-ysgol Cymru (WPPA), Mudiad Meithrin a darparwyr preifat. Gallwch ddod i wybod mwy o dan yr adran Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir Gaerfyrddin yn y llyfryn hwn.
Pryd y gall plentyn ddechrau addysg ran-amser?
Fel rheol, derbynnir plant i ddarpariaeth blynyddoedd cynnar mewn ysgolion lle mae'r ddarpariaeth honno ar gael yn rhan-amser ar ddechrau'r tymor yn dilyn eu trydydd pen-blwydd.
3ydd Pen-blwydd y Plentyn | Y Tymor Derbyn |
---|---|
1 Medi - 31 Rhagfyr |
Tymor y Gwanwyn |
1 Ionawr - 31 Mawrth |
Tymor yr Haf |
1 Ebrill - 31 Awst |
Tymor yr Hydref |
Ni fydd gan blentyn y cynigir lle rhan-amser iddo/iddi mewn ysgol, hawl awtomatig i barhau i dderbyn addysg amser llawn. Mae'n rhaid cyflwyno cais ffurfiol i'r Awdurdod Derbyn cywir - gweler yr amserlen derbyn.
Os bydd mwy o geisiadau na llefydd ar gael, yna bydd y Cyngor yn blaenoriaethu ceisiadau yn unol â’i meini prawf gor-alw a nodir yn y ddogfen hon.
Addysg Amser Llawn ‐ Plant 4 a 5 oed
Lle nad oes darpariaeth blynyddoedd cynnar mewn lleoliad a gynhelir, wedi i gais gael ei gymeradwyo, mae plant yn cael eu derbyn yn llawn amser ar yr adegau canlynol:
4ydd Pen-blwydd y Plentyn | Y Tymor Derbyn |
---|---|
1 Medi - 31 Rhagfyr |
Tymor y Gwanwyn |
1 Ionawr - 31 Mawrth |
Tymor yr Haf |
1 Ebrill - 31 Awst |
Tymor yr Hydref |
Yn ôl y gyfraith rhaid i rieni drefnu bod eu plant yn cael addysg llawn amser ar ddechrau’r tymhorau canlynol:
5ed Pen-blwydd y Plentyn | Mae'n rhaid, yn ôl y gyfraith, i'r plentyn ddechrau ysgol |
---|---|
1 Medi - 31 Rhagfyr |
Tymor y Gwanwyn |
1 Ionawr - 31 Mawrth |
Tymor yr Haf |
1 Ebrill - 31 Awst |
Tymor yr Hydref |