Derbyn i Ysgolion 2025-2026- Gwybodaeth i Rieni

ADRAN C - Gwasanaethau i Ddisgyblion

Diwallu Anghenion Addysgol Ychwanegol/Arbennig

Mae'r system ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion addysgol arbennig ac anabledd yng Nghymru wedi newid. Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno system newydd fwy hyblyg ac ymatebol ar gyfer diwallu anghenion plant ag anghenion addysgol arbennig (AAA) neu anableddau ac mae'n ymdrechu i gyflwyno system addysg gwbl gynhwysol ar gyfer dysgwyr Cymru.

Gan ddefnyddio'r system newydd bydd ysgolion yn sicrhau:

  • bod anghenion yn cael eu nodi'n gynnar, eu diwallu'n gyflym a bod pob dysgwr yn cael ei gefnogi i gyrraedd ei botensial.
  • bod gweithwyr proffesiynol yn fedrus ac yn hyderus o ran nodi anghenion a datblygu strategaethau i helpu dysgwyr i oresgyn eu rhwystrau i ddysgu.
  • bod y dysgwyr yn derbyn dysgu wedi'i bersonoli a bod y dysgwr a'i rieni/gofalwyr, yn bartneriaid cyfartal yn ei ddysgu (Dull sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn).

 

Anghenion Dysgu Ychwanegol

 

Cyngor Sir Caerfyrddin – Polisi Cludiant Ysgol

Efallai y bydd eich plant yn gallu cael cludiant am ddim i'r ysgol, yn dibynnu ar ba mor bell y maent yn byw o’r ysgol ac unrhyw anghenion ychwanegol sydd ganddynt.

Cludiant Ysgol

 

Prydau Ysgol a Hanfodion Ysgol (PDG - Mynediad)

Mae Gwasanaeth Prydau Ysgol Sir Gaerfyrddin yn cynnig dewis o brydau maethlon cytbwys a gwerth yr arian i bob ysgol yn y sir. Mae prydau ysgol yn bwysig o ran dysgu sgiliau cymdeithasol i blant a chyflwyno dewisiadau bwyd gwahanol ac amrywiol.

Cynigir brecwast am ddim i ddisgyblion mewn ysgolion cynradd a chânt ddewis o bryd dau gwrs bob dydd, ac mae gan ddisgyblion ysgolion uwchradd ffreuturau sy’n cynnig dewis o brydau, byrbrydau, ffrwythau a phwdinau i ddisgyblion, sydd ar gael amser cinio ac yn yr egwyl canol bore.

Os oes gan eich plentyn anghenion dietegol arbennig dylech roi gwybod i’r ysgol a’r staff arlwyo ac fe wnaiff y gwasanaeth ei orau i ddarparu ar gyfer y gofynion hynny.

Mae’r gwasanaeth hefyd yn darparu cyfleusterau ar gyfer cynnig dŵr yfed i ddisgyblion adeg prydau bwyd.

Prydau Ysgol

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno Grant Datblygu Disgyblion - Mynediad. Mae'r Grant Datblygu Disgyblion yn rhoi cymorth ariannol i deuluoedd ar incwm isel i brynu:

  • Gwisg ysgol gan gynnwys cotiau ac esgidiau;
  • Cit chwaraeon ysgol gan gynnwys esgidiau;
  • Gwisg ar gyfer gweithgareddau cyfoethogi, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, sgowtiaid; geidiaid; cadetiaid; crefft ymladd; chwaraeon; celfyddydau perfformio neu ddawns;
  • Offer e.e. bagiau ysgol a deunyddiau swyddfa;
  • Offer arbenigol lle mae gweithgareddau cwricwlwm newydd yn dechrau megis dylunio a thechnoleg; a
  • Offer ar gyfer teithiau y tu allan i oriau ysgol fel dysgu yn yr awyr agored e.e. dillad glaw.

Sylwch y gallai'r rhestr uchod newid.

Hanfodion Ysgol (PDG - Mynediad)

 

Lwfans Cynhaliaeth Addysg (EMA)

Mae'r lwfansau hyn ar gael i fyfyrwyr sy'n hŷn na'r oedran ysgol gorfodol sy'n dewis aros ymlaen yn yr ysgol. Mae gwybodaeth lawn am y lwfansau a'r grantiau hyn, a sut i gyflwyno cais amdanynt ar gael yn yr ysgol.

Lwfans Cynhaliaeth Addysg (EMA)

 

Tîm Diogelu a Phresenoldeb Ysgolion

Mae'r Tîm Diogelu a Phresenoldeb Ysgolion yn gweithio ar ran yr awdurdod lleol i gefnogi presenoldeb rheolaidd yn yr ysgol ac ymgysylltu mewn addysg. Mae'r tîm hefyd yn gweithio i sicrhau diogelu mewn lleoliadau ysgol ac yn goruchwylio Addysg Ddewisol yn y Cartref. Mae staff yn hyrwyddo ymgysylltu â theuluoedd i alluogi teuluoedd i oresgyn rhwystrau i bresenoldeb rheolaidd yn yr ysgol ac ymgysylltu mewn addysg. Y Tîm Diogelu a Phresenoldeb Ysgolion sydd â chyfrifoldeb dirprwyedig dros oruchwylio perfformiad plant; cyflogaeth plant; a thrwyddedau i hebryngwyr ar draws yr awdurdod.

Mae'r Tîm Diogelu a Phresenoldeb Ysgolion hefyd yn gweithredu ar ran yr awdurdod lleol wrth orfodi dyletswydd rhieni i ddarparu addysg briodol o dan Ddeddf Addysg (1996) (2002).

Mae'r gwasanaeth yn gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion, gwasanaethau plant, teuluoedd a phartneriaid ehangach. I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch 01554 742369.

 

Ymddiriedolaethau Elusennol

Mae’r Awdurdod yn gweinyddu nifer o gronfeydd ymddiriedolaeth elusennol sy’n gallu cynnig cymorth o ran treuliau'r rheiny sy’n mynychu cyrsiau addysg bellach neu addysg uwch. Yn bennaf, mae pob un o’r cronfeydd ymddiriedolaeth hyn wedi’u sefydlu er budd plant sydd wedi mynychu ysgol neu ysgolion penodol yn y Sir - er dylid nodi bod rhai ohonynt yn cynnig cymorth ariannol i gefnogi myfyrwyr o unrhyw ran o’r Sir. Dylid gofyn am fanylion pellach am gymorth ariannol o gronfeydd ymddiriedolaeth oddi wrth bennaeth yr ysgol neu fynd i'n gwefan.

Ymddiriedolaethau Elusennol

 

Y Gwasanaeth Gyrfaoedd

Nod Gyrfa Cymru yw helpu pobl ifainc wneud y penderfyniadau anodd hynny am eu dyfodol. Mae gan y gwasanaeth y wybodaeth arbenigol ddiweddaraf am addysg, hyfforddiant a chyflogaeth, ac fel arfer, bydd Ymgynghorwyr Gyrfaoedd yn gweld plant yn yr ysgol o Flwyddyn 9 yn yr ysgol uwchradd ymlaen.

Gyrfa Cymru

 

Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir Gaerfyrddin

Mae'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yn darparu gwybodaeth ddwyieithog, ddiduedd a di-dâl ynghylch amrywiaeth eang o ddewisiadau gofal plant, gweithgareddau i blant a materion yn ymwneud â chymorth i deuluoedd. Mae hyn yn cynnwys talu am ofal plant a gweithio ym maes gofal plant, gwybodaeth am feithrinfeydd, gwarchodwyr plant, clybiau ar ôl ysgol, cylchoedd chwarae a grwpiau rhieni a phlant bach. Mae'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ar gael i rieni, gofalwyr, cyflogwyr a gweithwyr proffesiynol yn Sir Gaerfyrddin.

Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir Gaerfyrddin

 

Y Cynnig Gofal Plant

I gael rhagor o wybodaeth am Gynnig Gofal Plant Cymru, cysylltwch â Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir Gaerfyrddin drwy ffonio 01267 246555 neu drwy fynd i’r wefan.

Y Cynnig Gofal Plant i Gymru

 

Cynllun Ysgolion Iach

Mae'r Cynllun Ysgolion Iach wedi bod yn gweithredu'n llwyddiannus ers Medi 2001 a bellach mae'r holl ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd a sefydliadau dysgu ychwanegol yn Sir Gaerfyrddin yn rhan o'r fenter.

Mae'r 'Ysgol Iach' yn un sy'n cymryd cyfrifoldeb am gynnal a hyrwyddo iechyd pawb sy'n 'dysgu, gweithio, chwarae a byw' ynddi drwy ymgorffori'r saith thema iechyd ym mhob agwedd ar brofiadau dysgu disgyblion.

Y Saith Pwnc yw:

  • Bwyd a Ffitrwydd
  • Iechyd Meddyliol ac Emosiynol a Llesiant
  • Datblygiad Personol a Pherthnasoedd
  • Defnyddio a chamddefnyddio sylweddau
  • Yr Amgylchedd
  • Diogelwch
  • Hylendid

Mae'r fenter yn cefnogi Cwricwlwm newydd Cymru o ran plant a phobl ifanc iach ac mae'n cefnogi Fframwaith Addysg Bersonol a Chymdeithasol yn sylweddol.

Mae'n rhaid i ysgolion symud drwy bum cam o'r cynllun o fewn pedwar maes, sef Arweinyddiaeth a Chyfathrebu, Y Cwricwlwm, Ethos a'r Amgylchedd a Chynnwys Teuluoedd a'r Gymuned. Ar ôl cwblhau'r camau, dyfernir plac i'r ysgolion. Y Wobr Ansawdd Genedlaethol yw'r wobr uchaf y gellir ei chyflawni yn y cynllun ac ar hyn o bryd mae 7 ysgol yn gweithio tuag at statws y Wobr Ansawdd Genedlaethol yn SirGaerfyrddin. Y Wobr Ansawdd Genedlaethol yw'r wobr uchaf y gellir ei chyflawniyn y cynllun ac mae 3 ysgol eisoes wedi ennill y wobr fawreddog hon.

I gael rhagor o wybodaeth am y Cynllun Ysgolion Iach, cysylltwch â Catrin Rees, Cydgysylltydd Ysgolion Iach CLRees@sirgar.gov.uk neu Shân Thomas, Swyddog Ysgolion Iach ShEThomas@sirgar.gov.uk drwy ffonio 01267 246622

 

Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang

Mae Datblygiad Cynaliadwy ac Addysg Dinasyddiaeth Fyd-eang wedi'i ymgorffori o fewn pedwar diben craidd y Cwricwlwm i Gymru. Mae holl ysgolion Sir Gaerfyrddin wedi ymrwymo i gefnogi Cyngor Sir Gaerfyrddin i fod yn garbon sero-net erbyn 2030.

Mae'r holl ddysgwr yn cael eu cefnogi a'u hannog i ddatblygu'r wybodaeth, y sgiliau a'r gwerthoedd sydd eu hangen arnynt i ymgysylltu â'r byd gan gynnwys y gred y gall pob un ohonom wneud gwahaniaeth. Trwy gamau pwrpasol mae dysgwyr yn cymryd cyfrifoldeb dros yr amgylchedd naturiol ac yn gwneud cysylltiadau ar gyfer newid cadarnhaol. Mae hyn yn creu diwylliant o ofal a chyfrifoldeb ar gyfer ein cenedlaethau i ddod.

Mae Sir Gaerfyrddin yn Awdurdod Lleol Masnach Deg ac mae'n parhau i gefnogi ei ysgolion gyda'r Rhaglen Ysgolion Masnach Deg.

Mae cysylltiadau byd-eang gydag ysgolion ar lwyfan rhyngwladol yn parhau i gael eu cefnogi drwy Raglen Cyfnewid Rhyngwladol newydd Cymru sef 'Taith’. Mae ysgolion Sir Gaerfyrddin yn parhau i adeiladu ar y model llwyddiannus hwn o gymryd rhan ac mae gan yr ysgolion ddealltwriaeth glir o werth y rhaglenni cyfnewid trawsnewidiol hyn i ysgolion. Mae partneriaethau llwyddiannus yn parhau i ffynnu rhwng ysgolion Sir Gaerfyrddin ac ysgolion yn Lesotho, drwy'r rhaglen Cysylltu Dosbarthiadau a Dolen Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth am yr uchod, cysylltwch â,

Louise Morgan, Ymgynghorydd Cymorth Addysg Cysylltiol HeLMorgan@sirgar.gov.uk

Maniffesto Gweithredu dros yr Hinsawdd