Derbyn i Ysgolion 2025-2026- Gwybodaeth i Rieni

ADRAN A - Derbyn i Ysgolion Sir Gaerfyrddin

Ffeithiau Allweddol

  • Ffeithiau Allweddol
    • Nid oes hawl awtomatig i le mewn ysgol.
    • Rhaid i chi gyflwyno cais i awdurdod derbyn er mwyn i'ch plentyn gael lle mewn ysgol.
    • Mae terfyn ar nifer y disgyblion y gellir eu derbyn i ysgol mewn unrhyw grŵp blwyddyn. Ar ôl cyrraedd y terfyn hwnnw, ni chaniateir derbyn rhagor o ddisgyblion.
    • Os oes gan eich plentyn anghenion dysgu ychwanegol fe'ch cynghorir i gysylltu â phennaeth yr ysgol neu swyddogion cynnydd disgyblion yr adran cyn cyflwyno cais.
    • Gwnewch gais erbyn y dyddiadau cau - gweler yr Amserlen Derbyn i Ysgolion.
    • Os byddwch yn cyflwyno cais ar ôl y dyddiadau hyn caiff ei drin fel cais hwyr a bydd yn cael ei ystyried ar ôl y rhai a dderbyniwyd cyn y dyddiad cau. Bydd hyn yn lleihau'r siawns o gael lle i’ch plentyn mewn ysgol o’ch dewis.
    • Os cynigir lle i'ch plentyn, mae'n rhaid i chi dderbyn y lle erbyn y dyddiad a bennwyd neu bydd y cynnig yn cael ei dynnu'n ôl a chynigir y lle i ddisgybl arall.

Awdurdodau Derbyn

Yn achos ysgolion cymunedol ac ysgolion gwirfoddol a reolir yn Sir Gaerfyrddin, Awdurdod Lleol (ALl) Sir Gaerfyrddin yw'r Awdurdod Derbyn. Mae manylion cyswllt Cyngor Sir Caerfyrddin fel a ganlyn:

Yr Adran Addysg a Phlant

Neuadd y Sir

Caerfyrddin

SA31 1JP

Ffôn: 01267 246449

E-bost: derbyniadau@sirgar.gov.uk

 

 

  • 1

    Ar gyfer ymholiadau ynghylch Ysgolion Eglwysig Gwirfoddol a Gynorthwyir cysylltwch â'r canlynol:

     

    Ysgolion yr Eglwys yng Nghymru

    Y Parchedig Ganon John Cecil, Cyfarwyddwr Addysg yr Esgobaeth, Y Ficerdy, Steynton, Aberdaugleddau, Sir Benfro, SA73 1AW

    Ffôn: 01646 692974 neu 07582613940

    E-bost: revjohncecil@btinternet.com

     

    Ysgolion Catholig

    Mr Paul White, Cyfarwyddwr Addysg yr Esgobaeth, Swyddfa Addysg yr Esgobaeth, y Swyddfeydd, 27 Stryd y Cwfaint, Greenhill, Abertawe, SA1 2BX

    Ffôn: 01792 652757 Ffacs: 01792 458641

    E-bost: education@menevia.org.uk

  • 2

    Y canlynol yw enwau, cyfeiriadau a rhifau ffôn yr awdurdodau addysg lleol cyfagos:

    CEREDIGION
    Cyfarwyddwr Strategol Dysgu a Phartneriaethau,
    Cyngor Sir Ceredigion,
    Canolfan Rheidol,
    Rhodfa Padarn,
    Llanbadarn Fawr,
    Aberystwyth SY23 3UE.
    Ffôn: 01970 633656

    ABERTAWE
    Y Cyfarwyddwr Pobl,
    Dinas a Sir Abertawe,
    Neuadd y Ddinas,
    Abertawe SA1 4PE.
    Ffôn: 01792 637521

    SIR BENFRO
    Y Cyfarwyddwr Plant ac Ysgolion Cyngor Sir Penfro,
    Neuadd y Sir,
    Hwlffordd SA61 1TP.
    Ffôn: 01437 764551

    POWYS
    Pennaeth y Gwasanaeth Ysgolion,
    Cyngor Sir Powys,
    Neuadd y Sir,
    Powys,
    Spa Road East,
    Llandrindod LD1 5LG.
    Ffôn: 01597 826422

    CASTELL-NEDD PORT TALBOT
    Y Cyfarwyddwr Addysg,
    Hamdden a Dysgu Gydol Oes,
    Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot,
    Y Ganolfan Ddinesig,
    Port Talbot SA13 1PJ.
    Ffôn: 01639 686868