Derbyn i Ysgolion 2023-2024- Gwybodaeth i Rieni
Yn yr adran hon
- Cyflwyniad
- ADRAN A - Derbyn i Ysgolion Sir Gaerfyrddin
- Trefniadau derbyn arferol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2023-24
- Pryd i wneud cais
- Faint Fydd Oed Plant yn Dechrau'r Ysgol?
- Derbyn plant i ysgolion uwchradd gan gynnwys y chweched dosbarth
- Dewis Ysgol - Dalgylchoedd
- Sut mae gwneud cais
- Rhoi Llefydd - Y Meini Prawf Gor-alw
- Symud/Newid Ysgolion y tu allan i'r trefniadau derbyn arferol. (Symud yn ystod y flwyddyn/canol blwyddyn)
- Rhoi gwybod am Dderbyn i Ysgol
- Apeliadau yn ymwneud â derbyn disgyblion i ysgolion cymunedol/ysgolion gwirfoddol a reolir cynradd neu uwchradd
- Derbyn i Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir
- ADRAN B - Gwybodaeth am Addysg a Dysgu
- Dysgu'r Gymraeg a'r Saesneg yn Ysgolion Sir Gaerfyrddin
- Gwybodaeth am Addysg a Dysgu
- ADRAN C - Gwasanaethau i Ddisgyblion
- ADRAN D - Crynodeb o Ddisgyblion ac Ysgolion Sir Gaerfyrddin
- ADRAN E - Ysgolion Sir Gaerfyrddin: Ysgol Meithrin
- Ysgolion Sir Gaerfyrddin: Ysgol Gynradd Gymunedol
- Ysgolion Sir Gaerfyrddin: Ysgolion Cynradd Gwirfoddol Rheoledig
- Ysgolion Sir Gaerfyrddin: Ysgolion Uwchradd
- Ysgolion Sir Gaerfyrddin: Ysgol Uwchradd Gymorthedig
- Ysgolion Sir Gaerfyrddin: Ysgolion Arbennig
Dysgu'r Gymraeg a'r Saesneg yn Ysgolion Sir Gaerfyrddin
Mae Categoreiddio Ieithyddol Ysgolion o ran Ysgolion Sir Gâr yn newid.
Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru (Hydref 2022) rhaid i bob ysgol ac Awdurdod Lleol yng Nghymru gyhoeddi gwybodaeth am yr iaith y maent yn bwriadu addysgu ynddi.
Mae darpariaeth ieithyddol yn cyd-fynd yn agos â'r canlynol:
- mae Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg statudol y Sir, yn cyfrannu at y nod o feithrin miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050;
- mae'n cynnwys cynigion i ddysgu Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd a Chyfathrebu y cwricwlwm newydd i Gymru yn ogystal â hyrwyddo Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
O ganlyniad, mae disgwyliad clir y bydd pob ysgol yn datblygu darpariaeth a fydd yn cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn y cwricwlwm ffurfiol a'r cwricwlwm allgyrsiol, er mwyn cyflawni Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 10 mlynedd y Sir, sef cynllun cydnabyddedig, rhwng 2022 a 2032.
Drwy ymgynghori gydag ysgolion a chyrff llywodraethu ysgolion, bydd system newydd o gategoreiddio ieithyddol yn cael ei rhoi ar waith ym mis Ionawr 2023. Ceir rhagor o wybodaeth am gategorïau Ysgolion yn ôl darpariaeth cyfrwng Cymraeg ar wefan Llywodraeth Cymru.
Mae'r tablau canlynol yn diffinio'r categorïau iaith a nodwyd i’r ysgolion ac mae'r rhestr ysgolion a geir yng nghanol y llyfryn hwn, yn nodi pob ysgol yn unigol.
Ysgolion Cynradd
Categori | Cwricwlwm | Iaith yr Ysgol | Canlyniadau |
---|---|---|---|
Cyfrwng Cymraeg WM |
Cyfnod Sylfaen – Cyfrwng Cymraeg. CA2 – mae o leiaf 70% o’r addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. |
Cymraeg yw iaith cyfathrebu gyda disgyblion ac iaith bywyd yr ysgol o ddydd i ddydd. Mae'r ysgol yn cyfathrebu â'r rhieni yn y ddwy iaith. | Bydd disgyblion, beth bynnag yw iaith y cartref, yn gallu trosglwyddo i ddarpariaeth uwchradd cyfrwng Cymraeg ac erbyn diwedd CA2, byddant wedi cyrraedd yr un safon yn Saesneg â disgyblion mewn ysgolion sydd, yn bennaf, yn rhai cyfrwng Saesneg. |
Dwy Ffrwd DS |
Mae dau fath o ddarpariaeth, sef cyfrwng Cymraeg yn bennaf a chyfrwng Saesneg yn bennaf, yn bodoli ochr yn ochr yn yr ysgolion hyn. | Defnyddir y Gymraeg a’r Saesneg ym mywyd yr ysgol o ddydd i ddydd. Natur y ddarpariaeth gwricwlaidd sy’n pennu iaith y cyfathrebu. Mae'r ysgol yn cyfathrebu â'r rhieni yn y ddwy iaith. |
Ar gyfer disgyblion yn y ffrwd Gymraeg - disgwylir, fel rheol, yr un canlyniadau ag ar gyfer y categori Cyfrwng Cymraeg. Ar gyfer disgyblion yn y ffrwd Saesneg –disgwylir, fel rheol, yr un canlyniadau ag ar gyfer y categori Cyfrwng Saesneg |
Ysgol Drawsnewid (TR) |
Cyfnod Sylfaen - meysydd dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn bennaf. CA2 - defnyddir y ddwy iaith, ond rhoddir mwy o bwyslais ar y Gymraeg- 50% - 70% |
Cymraeg yw iaith bywyd yr ysgol o ddydd i ddydd. Rhoddir blaenoriaeth uchel i greu ethos Cymraeg. Mae'r ysgol yn cyfathrebu â'r rhieni yn y ddwy iaith. |
Bydd rhai disgyblion, yn enwedig y rheiny o gartrefi Cymraeg yn gallu trosglwyddo i ddarpariaeth uwchradd cyfrwng Cymraeg. Bydd pob disgybl wedi cyrraedd yr un safon yn y Saesneg â’r safon a gyrhaeddir gan ddisgyblion mewn ysgolion sydd, yn bennaf, yn rhai cyfrwng Saesneg. |
Cyfrwng Saesneg â defnydd sylweddol o’r Gymraeg (EW) |
Cyfnod Sylfaen - Mae'r disgyblion yn profi'r meysydd dysgu yn y ddwy iaith ond rhoddir mwy o bwyslais ar Saesneg. CA2 - defnyddir y ddwy iaith, ond rhoddir mwy o bwyslais ar y Saesneg. Mae’r Gymraeg yn gyfrwng addysgu a dysgu ar gyfer 20% - 50% o’r cwricwlwm cynradd yn gyffredinol. |
Cyd-destun ieithyddol yr ysgol sy’n pennu iaith neu ieithoedd yr ysgol o ddydd i ddydd. Defnyddir y ddwy iaith i gyfathrebu â'r disgyblion a gweinyddu'r ysgol. Rhoddir blaenoriaeth uchel i greu ethos Cymraeg. Mae'r ysgol yn cyfathrebu â'r rhieni yn y ddwy iaith. |
Disgwylir y bydd y disgyblion, fel rheol, yn camu ymlaen i ddarpariaeth uwchradd drwy gyfrwng y Saesneg, ond bydd ganddynt well sgiliau o safbwynt y Gymraeg fel ail iaith. Bydd rhai o’r disgyblion yn gallu dilyn nifer bach o bynciau drwy gyfrwng y Gymraeg |
Ysgol Cyfrwng Saesneg (EM) |
Cyfnod Sylfaen - Mae'r holl ddisgyblion yn profi'r meysydd dysgu drwy gyfrwng y Saesneg. CA2 - addysgir y Gymraeg fel ail iaith. Mae llai na 20% o’r addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. |
Saesneg yw iaith yr ysgol o ddydd i ddydd, ond defnyddir rhywfaint o Gymraeg hefyd i gyfathrebu â’r disgyblion, i wella eu gallu i ddefnyddio Cymraeg bob dydd. Mae'r ysgol yn cyfathrebu â'r rhieni yn Saesneg neu yn y ddwy iaith. | Fel rheol, disgwylir y bydd y disgyblion yn camu ymlaen i ddarpariaeth uwchradd drwy gyfrwng y Saesneg ac yn parhau i ddysgu drwy gyfrwng y Saesneg yn bennaf, gan ddysgu Cymraeg fel ail iaith. |
Ystyriaethau Eraill - Ysgolion Gynradd
Mae dysgu’r Gymraeg a’r Saesneg, naill ai fel iaith gyntaf neu ail iaith, yn rhan hanfodol o raglen waith pob dosbarth yn holl ysgolion cynradd Sir Gaerfyrddin yn unol â’r polisïau uchod, ond mae angen darpariaeth arbennig ar gyfer y canlynol:-
- y disgyblion hynny sy’n hwyrddyfodiaid i ysgolion cynradd y Sir;
- y disgyblion hynny a asesir yn swyddogol fel rhai ag anawsterau dysgu ac y byddai cyflwyno ail iaith yn llesteirio eu datblygiad addysgol ac y byddai addysg drwy gyfrwng y famiaith yn hanfodol iddynt [rhaid bod yn ymwybodol, fodd bynnag o ofynion statudol y Cwricwlwm Cenedlaethol];
- disgyblion o wledydd tramor nad yw’r Gymraeg na’r Saesneg yn ail iaith iddynt a lle gallai cyflwyno trydedd iaith atal eu datblygiad addysgol a lle byddai'r gallu i siarad Saesneg yn fanteisiol iddynt.
Nodir categori iaith pob ysgol yn y rhestr o ysgolion yn y llyfryn hwn.
Ysgolion Uwchradd
Dysgir y Gymraeg fel pwnc i bob disgybl tan ddiwedd Blwyddyn 11 yn unol â gofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol. Mae amrywiaeth o ddarpariaethau i ddysgu pynciau eraill trwy gyfrwng y Gymraeg yn nifer o ysgolion uwchradd y sir a gall rhieni gael gwybodaeth benodol o'r ysgolion unigol. Mae tair ysgol uwchradd ddwyieithog lle mae'r rhan fwyaf o'r cwricwlwm yn cael ei ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.Secondary Schools.
Categori | Cwricwlwm | Iaith yr Ysgol | Canlyniadau |
---|---|---|---|
Cyfrwng Cymraeg (1WM) | Addysgir pob pwnc heblaw am Saesneg drwy gyfrwng y Gymraeg i bob disgybl. Bydd rhai ysgolion, o bosibl, yn cyflwyno terminoleg Saesneg mewn un neu ddau o bynciau. | Cymraeg yw'r iaith gyfathrebu â disgyblion ac iaith gwaith pob dydd yr ysgol. Mae'r ysgol yn cyfathrebu â'r rhieni yn y ddwy iaith. | Disgwylir y bydd pob disgybl yn cael ei asesu ym mhob pwnc heblaw am Saesneg neu ieithoedd eraill drwy gyfrwng y Gymraeg yn CA3 a CA4. Bydd disgyblion yn gallu mynd ymlaen i ddarpariaeth ôl-16 cyfrwng Cymraeg. |
Dwyieithog | Mae’r categori hwn wedi ei rannu’n 4 is-adran, yn ôl canran y pynciau a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg a chan ddibynnu a yw’n cynnig yr un ddarpariaeth yn Saesneg. | ||
2A | Addysgir o leiaf 80% o’r pynciau ac eithrio’r Gymraeg a’r Saesneg drwy gyfrwng y Gymraeg yn unig i bob disgybl. Mae un neu ddau o bynciau’n cael eu haddysgu i rai disgyblion yn Saesneg neu yn y naill iaith a'r llall. | Y cyd-destun ieithyddol fydd yn pennu iaith neu ieithoedd yr ysgol o ddydd i ddydd. Defnyddir y ddwy iaith i gyfathrebu â'r disgyblion a gweinyddu'r ysgol. Rhoddir blaenoriaeth uchel i greu ethos Cymraeg. Mae'r ysgol yn cyfathrebu â'r rhieni yn y ddwy iaith. |
Ar gyfer disgyblion yng nghategorïau 2A, 2B a 2C sy’n dilyn y nifer uchaf posibl o gyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg, byddent yn cael eu hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg yn y pynciau hynny yn CA3 a CA4 a byddent yn gallu symud ymlaen i ddarpariaeth ôl-16 drwy gyfrwng y Gymraeg yn y pynciau y maent wedi eu dewis. |
2B | Addysgir o leiaf 80% o bynciau (ac eithrio’r Gymraeg a'r Saesneg) drwy gyfrwng y Gymraeg ond fe’u haddysgir drwy gyfrwng y Saesneg hefyd. | Y cyd-destun ieithyddol fydd yn pennu iaith neu ieithoedd yr ysgol o ddydd i ddydd. Defnyddir y ddwy iaith i gyfathrebu â'r disgyblion a gweinyddu'r ysgol. Rhoddir blaenoriaeth uchel i greu ethos Cymraeg. Mae'r ysgol yn cyfathrebu â'r rhieni yn y ddwy iaith. |
Ar gyfer disgyblion yng nghategorïau 2A, 2B a 2C sy’n dilyn y nifer uchaf posibl o gyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg, byddent yn cael eu hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg yn y pynciau hynny yn CA3 a CA4 a byddent yn gallu symud ymlaen i ddarpariaeth ôl-16 drwy gyfrwng y Gymraeg yn y pynciau y maent wedi eu dewis. |
2C | Addysgir 50-79% o bynciau (ac eithrio’r Gymraeg a'r Saesneg) drwy gyfrwng y Gymraeg ond fe’u haddysgir drwy gyfrwng y Saesneg hefyd. | Y cyd-destun ieithyddol fydd yn pennu iaith neu ieithoedd yr ysgol o ddydd i ddydd. Defnyddir y ddwy iaith i gyfathrebu â'r disgyblion a gweinyddu'r ysgol. Rhoddir blaenoriaeth uchel i greu ethos Cymraeg. Mae'r ysgol yn cyfathrebu â'r rhieni yn y ddwy iaith. |
Ar gyfer disgyblion yng nghategorïau 2A, 2B a 2C sy’n dilyn y nifer uchaf posibl o gyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg, byddent yn cael eu hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg yn y pynciau hynny yn CA3 a CA4 a byddent yn gallu symud ymlaen i ddarpariaeth ôl-16 drwy gyfrwng y Gymraeg yn y pynciau y maent wedi eu dewis. |
2CH | Addysgir pob pwnc (ac eithrio’r Gymraeg a’r Saesneg) i bob disgybl gan ddefnyddio’r ddwy iaith. | Y cyd-destun ieithyddol fydd yn pennu iaith neu ieithoedd yr ysgol o ddydd i ddydd. Defnyddir y ddwy iaith i gyfathrebu â'r disgyblion a gweinyddu'r ysgol. Rhoddir blaenoriaeth uchel i greu ethos Cymraeg. Mae'r ysgol yn cyfathrebu â'r rhieni yn y ddwy iaith. |
Ar gyfer disgyblion yng nghategori 2Ch, byddent yn cael eu hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg ym mhob pwnc heblaw am Saesneg yn CA3 a CA4 a byddent yn gallu symud ymlaen i ddarpariaeth ôl-16 drwy gyfrwng y Gymraeg yn y pynciau y maent wedi eu dewis. |
Cyfrwng Saesneg â defnydd sylweddol o’r Gymraeg (EW) | Defnyddir y ddwy iaith wrth addysgu gyda 20-49% o'r pynciau'n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Fel rheol, byddai pob pwnc yn cael ei addysgu hefyd drwy gyfrwng y Saesneg. | Y cyd-destun ieithyddol fydd yn pennu iaith neu ieithoedd yr ysgol o ddydd i ddydd. Defnyddir y ddwy iaith i gyfathrebu â'r disgyblion a gweinyddu'r ysgol. Rhoddir blaenoriaeth uchel i greu ethos Cymraeg. Mae’r ysgol yn cyfathrebu â rhieni un ai yn y ddwy iaith neu yn Saesneg. |
Gellid asesu disgyblion sy'n dewis astudio yn Gymraeg trwy gyfrwng y Gymraeg yn y pynciau hynny ar bob lefel a gallant symud ymlaen i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg ar ôl 16 oed yn y pynciau hynny. |
Ysgol cyfrwng Saesneg EM |
Caiff y disgyblion eu haddysgu'n bennaf drwy gyfrwng y Saesneg. Dysgir Cymraeg fel ail iaith hyd at CA4. Mae’n bosibl y gellir dysgu un neu ddau bwnc (a allai gynnwys y Gymraeg fel iaith gyntaf) drwy gyfrwng y Gymraeg neu drwy gyfrwng y naill iaith a’r llall. | Saesneg yw iaith yr ysgol o ddydd i ddydd, ond defnyddir rhywfaint o Gymraeg hefyd i gyfathrebu â’r disgyblion, gan anelu at wella eu gallu i ddefnyddio’r Gymraeg o ddydd i ddydd. Mae’r ysgol yn cyfathrebu â rhieni un ai yn y ddwy iaith neu yn Saesneg. |
Gallai unrhyw ddisgyblion sy’n dewis astudio pynciau drwy gyfrwng y Gymraeg gael eu hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg yn y pynciau hynny ar bob lefel a byddent yn gallu symud ymlaen i astudio’r pynciau hynny drwy gyfrwng y Gymraeg ar ôl 16. Byddai’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cael eu hasesu drwy gyfrwng y Saesneg a byddent yn symud ymlaen i astudio drwy gyfrwng y Saesneg ar ôl 16. |