Derbyn i Ysgolion 2023-2024- Gwybodaeth i Rieni

Pryd i wneud cais

Amserlen Cyflwyno Ceisiadau Derbyn i Ysgolion ‐ Ysgolion Cymunedol ac Ysgolion Gwirfoddol a Reolir

Y Ddarpariaeth Ystod Dyddiad Geni Dechrau Ysgol Dyddiad Cau ar gyfer Cyflwyno Cais Dyddiad Llythyron Cynnig Llefydd Dyddiadau Cau am Apeliadau
Addysg Feithrin Plant 3 blwydd oed
(Rhan-Amser)
1 Medi 2020 tan 31 Awst 2021
Ionawr, Ebrill, Medi 2024 31 Gorffennaf 2023 Hydref 2023 Dim hawl i apelio

Addysg Plant 4 blwydd oed 4-11
(Amser Llawn)

1 Medi 2019 tan 31 Awst 2020 Medi 2023, Ionawr neu Ebrill 2024

31 Ionawr 2023

16 Ebrill 2023 neu'r diwrnod gwaith nesaf 30 Mai 2023
Ysgol Uwchradd - (Symud o'r Ysgol Gynradd i'r Ysgol Uwchradd) 1 Medi 2011 tan 31 Awst 2012 Medi 2023 20 Rhagfyr 2022 1 Mawrth 2023 neu'r diwrnod gwaith nesaf 12 Ebrill 2023

Ceisiadau Cynnar

Sylwch na ellir defnyddio ceisiadau cynnar yn faen prawf ar gyfer rhoi blaenoriaeth wrth ddyrannu llefydd. Mae'r holl geisiadau sy'n dod i law hyd at y dyddiad cau yn cael eu trin yn yr un modd.

Ceisiadau Hwyr

Ni fydd ceisiadau sy'n dod i law ar ôl y dyddiad cau yn cael eu hystyried nes bod y ceisiadau sydd wedi dod i law cyn y dyddiad cau wedi cael lleoedd. Mae ceisiadau a gyflwynir ar ôl y dyddiad cau yn llai tebygol o gael lle yn yr ysgol dewis cyntaf y gwnaeth y rhieni gais amdani.