Canllaw Cais Cynllunio
Dilysu
Y rhesymau annilys mwyaf cyffredin
- Dim ffi/ffi anghywir wedi ei thalu
- Angen Arolwg Ystlumod/Tylluanod Gwyn
- Effaith neu ddylanwad Hawl Tramwy Cyhoeddus (HTC) ar y datblygiad gan nad yw wedi cael ei ddangos ar gynllun y safle/bloc
- Cynllun lleoliad y safle yn anghywir. Er enghraifft:
- dim pwynt gogleddol wedi ei nodi
- graddfa anghywir/dim graddfa wedi ei darparu
- mynediad i'r briffordd heb ei ddangos lle bo'n berthnasol
- llinell ddatblygu goch anghywir
- Angen adroddiad tir halogedig
- Angen Asesiad Risg Llifogydd
- ffurflenni cais anghyflawn
- tystysgrifau perchnogaeth wedi eu llenwi'n anghywir (o fewn y ffurflen gais)
- gwybodaeth ategol annigonol neu ddiffygiol megis; datganiad dylunio a mynediad, arolwg coed, arolwg rhywogaethau a warchodir
Cynlluniau
- Wedi eu lluniadu i raddfa fetrig safonol a nodwyd
- Dileu ‘Peidiwch â graddio’ a rhoi geiriad addas arall yn ei le sy’n caniatáu i’r ACLl greu graddfa o’r lluniad
- Bar graddfa wedi ei nodi i gyd-fynd â chymhareb y raddfa a nodwyd
- Wedi ei ddarparu ar fap cyfoes (Cynllun Lleoliad a Chynllun Bloc)
- Nodwch y Gogledd (Cynllun Lleoliad a Chynllun Bloc)
- Wedi ei ddarparu ar y raddfa a nodir ar y cynllun h.y. os yw’r cynllun yn nodi 1:100 @A3 rhaid darparu’r cynllun yn A3 (yn electronig a chopi caled)
- Lle mae cynllun sy'n seiliedig ar yr Arolwg Ordnans yn cael ei gyflwyno i ddibenion cynllunio, rhaid dangos yr hawlfraint a rhif y drwydded
- Darparu cynlluniau yn ddelfrydol ar raddfa i ffitio A4 neu A3 (bydd hyn yn dibynnu ar faint y datblygiad)
- Ansawdd derbyniol sy'n glir ac yn ddarllenadwy
- Rhaid lanlwytho cynlluniau a gyflwynir yn electronig yn y cyfeiriad a nodir ar y cynllun
- Enwi a rhoi teitl mewn modd rhesymegol, gan adlewyrchu eu cynnwys
- Pob cynllun wedi ei rifo
- Pob cynllun wedi ei gyflwyno fel dogfen ar wahân wedi ei labelu'n glir.
- Dileu manylion personol megis rhifau ffôn symudol. Mae hyn er mwyn lleihau'r golygu sydd ei angen i gydymffurfio â'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol
- Rhaid cyflwyno pob cynllun fel ffeiliau PDF un dudalen ar wahân. Ni dderbynnir cynlluniau PDF gyda nifer o dudalennau wedi eu cyfuno.
Dilysu
Ceisiadau Blaenorol
Gellir gweld ceisiadau cynllunio o 2007 ymlaen ar y map. Ewch i'r dudalen hon am wybodaeth ar sut i chwilio am geisiadau cyn 2007.