Newyddion a Digwyddiadau
Taith o amgylch yr Archifau y tu ôl i'r llenni
Ewch y tu ôl i'r llenni yn Archifau Sir Gaerfyrddin i weld rhai o'r cofnodion anhygoel sydd gennym. Cewch eich tywys o amgylch yr adeilad gan archifydd proffesiynol a fydd yn esbonio’r gwaith nas gwelwyd o’r blaen sy’n cael ei wneud i gadw, a gwneud yn hygyrch, dreftadaeth ddogfennol gyfoethog Sir Gaerfyrddin.
Cynhelir teithiau ar foreau Mawrth a Iau (yn amodol ar argaeledd) ac maent yn agored i grwpiau cymunedol, clybiau a chymdeithasau lleol.
Uchafswm o 12 o bobl fesul grŵp.
I archebu, e-bostiwch: HSBurns@sirgar.gov.uk
- Lleoliad: Archifau Sir Gaerfyrddin at Llyfrgell Caerfyrddin, Stryd San Pedr, Caerfyrddin, SA31 1LN