Ffermio a Ffyrdd Gwledig
Mae gan unrhyw un sy’n defnyddio cerbyd ar ffyrdd cyhoeddus gyfrifoldeb i sicrhau eu bod yn gwneud hynny’n ddiogel. Mae defnyddio ffyrdd cyhoeddus at ddibenion amaethyddol yn hanfodol i lawer o bobl, ond mae’n bwysig rheoli’r risgiau’n ofalus.
Mae’r ‘hierarchaeth defnyddwyr ffyrdd’ a gyflwynwyd yn 2022 yn gosod y defnyddwyr ffyrdd sy’n wynebu’r risg fwyaf os oes yna wrthdrawiad ar frig yr hierarchaeth, ond nid yw’n dileu’r angen i bawb ymddwyn yn gyfrifol.
Gan fod cerbydau yn gyffredinol wedi mynd yn fwy ac yn drymach, a chan fod maint y traffig wedi newid ers i lawer o ffyrdd gwledig gael eu hadeiladu, mae angen i yrwyr fod yn ofalus er mwyn osgoi gwrthdrawiadau neu ddifrod i’r ffordd ac ymylon y gerbytffordd.
Mae’r wybodaeth yn y ddogfen yma wedi’i bwriadu fel trosolwg byr i helpu perchnogion fferm a gyrwyr fferm. Dylai gweithredwyr cerbydau amaethyddol sicrhau eu bod yn gwbl ymwybodol o’u rhwymedigaethau cyfreithiol ar y ffordd ac oddi arni.
Mae Undeb Cenedlaethol y Ffermwyr yn gorff dibynadwy ym maes amaethyddiaeth a garddwriaeth.
Rhagor o wybodaeth yn NFU-cymru.org.uk
Mwd ar y gerbytffordd
Y tirfeddianwyr sy’n gyfrifol am fwd a dŵr sy'n rhedeg o gaeau a gatiau i’r ffyrdd, ac efallai y bydd rhaid ichi wneud gwaith i atal hyn rhag digwydd. Gall mwd a dŵr leihau’r afael ar wyneb y ffordd.
Os ydych chi’n defnyddio’ch cerbyd oddi ar y ffordd, fel ar fferm, gofalwch eich bod yn clirio mwd gormodol a malurion oddi arno cyn gyrru ar y ffordd. Os bydd mwd o'ch fferm neu'ch safle yn cael ei ollwng ar y gerbytffordd, dylech ei glirio yn y ffordd briodol.
Os oes gennych chi dda byw, fel gwartheg, yn croesi'n gyson neu'n teithio ar hyd ffordd, chi sy'n gyfrifol am eu symud nhw’n ddiogel a chlirio unrhyw lanast.
Cynnal a chadw
Os ydych chi’n bwriadu gweithio ar ffordd neu yn ymyl ffordd, fel cynnal gwrychoedd, gall yr awdurdod lleol gynnig cyngor i'ch helpu i gymryd camau rhesymol i gadw'r risg i ddefnyddwyr y ffordd mor isel â phosibl.
Gallai hyn gynnwys arwyddion, dillad llachar a thrwyddedau priodol y gall fod eu hangen.
Gyrru ar ffyrdd cyhoeddus
I yrru tractor amaethyddol ar y ffordd, mae arnoch chi angen trwydded categori F. Bydd hawl i yrru categori F gan ddeiliaid trwydded categori B (car) yn awtomatig.
Os ydych chi’n bwriadu gyrru cerbydau gosod traciau, gan gynnwys tractorau, ar y ffordd gyhoeddus mae angen hawl categori H. Rhagor o wybodaeth yma.
Y terfyn pwysau ar gyfer tractor amaethyddol a chyfuniad trelar yw 31 tunnell. Mae'r trelar ei hun wedi'i gyfyngu i 18.29 tunnell (gan gynnwys unrhyw lwyth sy’n cael ei greu i’r tractor trwy ddefnyddio'r bachyn). Rhaid i yrwyr sicrhau nad yw eu cerbyd yn rhy drwm.
Gall rhai cerbydau fod yn rhy llydan i deithio ar ffyrdd gwledig sy’n golygu bod gyrwyr yn niweidio ymyl y gerbytffordd, fel lleiniau glas, neu hyd yn oed bod cerbydau’n mynd yn sownd. Mae'n bwysig cynllunio'ch llwybr yn ofalus a pheidio â symud ymlaen os nad yw'r ffordd yn addas i’ch cerbyd.
Mae gorlwytho'ch trelar yn beryglus, hyd yn oed wrth deithio pellter byr yn unig ar ffordd dawel. Os ydych chi’n gyrru ar ffordd gyhoeddus, rhaid ichi sicrhau bod eich cerbyd yn ddiogel i'w ddefnyddio a'ch bod chi’n cydymffurfio â'r gyfraith.
Defnyddwyr ffyrdd sy’n agored i niwed
Wrth yrru ar ffyrdd gwledig, byddwch yn barod ar gyfer cerddwyr, marchogion, beicwyr a cherbydau fferm sy'n symud yn araf. Mae'n bosib hefyd y bydd mwd ar wyneb y ffordd.
Ewch yn fwy araf wrth agosáu at droadau a gofalwch eich bod yn gallu stopio o fewn y pellter y gallwch ei weld yn glir.
Wrth basio anifeiliaid, gyrrwch yn araf. Rhowch ddigon o le iddyn nhw a byddwch yn barod i stopio. Peidiwch â dychryn anifeiliaid trwy ganu'ch corn, refio’ch injan neu gyflymu'n sydyn ar ôl eu pasio.
Cadwch lygad am anifeiliaid sy'n cael eu harwain, eu gyrru neu eu marchogaeth ar y ffordd a chymerwch ofal ychwanegol.
Y Pump Angheuol
Mae gyrru tractor, hyd yn oed ar gyflymder cymharol isel, yn gofyn ichi ganolbwyntio’n llwyr.
Waeth beth fo’r cerbyd rydych chi’n ei yrru, ac a ydy’r siwrnai yn gysylltiedig â gwaith, cymudo neu siwrnai breifat, gall adnabod y risgiau a gweithredu’n gyfrifol leihau’r tebygolrwydd o fod mewn gwrthdrawiad difrifol neu angheuol.
Mae’r rhan fwyaf o bobl eisoes yn ymwybodol bod gyrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau yn anghyfreithlon, ond mae lleiafrif bach yn dal i ddewis bod yn hunanol a chymryd y risg. Gall effeithiau alcohol a chyffuriau barhau am gryn amser. Byddwch yn ymwybodol y gall rhai mathau o feddyginiaeth ar bresgripsiwn neu dros-ycownter effeithio ar eich gallu i yrru neu ddefnyddio peiriannau’n ddiogel.
Gall torri’r terfyn cyflymder neu yrru o fewn y terfyn ond yn rhy gyflym ar gyfer yr amgylchiadau arwain at ganlyniadau dinistriol. Mae’n cymryd mwy o amser i stopio ac os bydd gwrthdrawiad, mae hwnnw’n fwy difrifol, gan achosi mwy o niwed i bobl mewn cerbydau ac unrhyw ddefnyddiwr ffordd arall sy’n cael ei daro.
Mae gyrru diofal, sy’n gallu cynnwys gyrru’n rhy agos at gerbydau eraill neu fethu â chydymffurfio ag arwyddion neu farciau ffyrdd, nid yn unig yn wrthgymdeithasol ond yn gallu arwain at wrthdrawiad.
Gwisgwch wregys diogelwch – mae hwn yn ofyniad cyfreithiol. Gall peidio â gwisgo gwregys fod yn benderfyniad angheuol hyd yn oed ar siwrneiau byr, cyfarwydd neu ar gyflymder isel.
Mae defnyddio ffôn symudol wrth y llyw yn beryglus ac anghyfrifol. Arhoswch nes eich bod wedi parcio mewn lle diogel cyn ceisio defnyddio’ch ffôn.