Hyfforddiant Beicio Oedolion
Diweddarwyd y dudalen ar: 23/10/2024
Mae beicio yn cynnig cymaint o fanteision - yn gymdeithasol, iechyd, arbed arian, heb sôn am yr effaith gadarnhaol ar draffig a'r amgylchedd wrth deithio i’r gwaith.
Efallai nad ydych mor hyderus o ran beicio ar y ffyrdd, felly beth am roi cynnig ar hyfforddiant beicio.
A hoffech chi wella eich sgiliau ar y ffyrdd? Os felly, gallwch archebu sesiwn hyfforddi 1:1 yn rhad ac am ddim gydag un o'n hyfforddwyr cymwysedig. (Rhaid i chi fod yn 16 oed neu'n hŷn i gymryd rhan yn y cwrs
Mae'r sesiynau’n hyblyg. Gellir eu trefnu ar adeg a lle cyfleus sy'n addas i chi ac mae ar gael i feicwyr sy'n byw yn Sir Gaerfyrddin, os ydych yn hyderus yn eich gallu i reoli beic e.e., llywio, brecio, rhoi signalau.
Bydd y cwrs yn -
- Eich helpu i feicio’n ddiogel mewn unrhyw amgylchiadau – megis eich safle ar y ffordd, rhoi signalau ac ymwybyddiaeth o'r ffordd.
- Eich helpu i ddatblygu strategaethau uwch ar gyfer ffyrdd trefol.
- Hybu eich hyder a gwella'r mwynhad o feicio.
Sut mae'n gweithio
- Rydym yn trefnu taith feicio gyda chi am 1-2 awr a chi fydd yn dewis y daith.
- Yn aml mae pobl am gael help i gynllunio, yna rhoi cynnig ar deithio i'r gwaith ac yn ôl, neu yn syml teithio i'r siopau, meddyg ac ati.
- Mae'r sesiwn yn cynnwys amser ar y dechrau a'r diwedd i siarad am y daith.
- Mae'n RHAD AC AM DDIM yn Sir Gaerfyrddin, ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael!
Mae gennym ddetholiad o e-Feiciau o wahanol feintiau ar gael i'r rhai a hoffai gymryd rhan yn ein cwrs beicio ar y ffordd am ddim i oedolion.
Priffyrdd, Teithio a Pharcio
Mynediad ar gyfer cerdded a beicio (Teithio Llesol)
Tywydd Garw
Cynllun Gwasanaeth dros y Gaeaf a Thywydd Garw Priffyrdd
Ymgeisio am...
Gwneud Cais am Chwiliad Priffyrdd
Gwasanaethau bws
Bws Bach y Wlad
Rhannu ceir
Tocyn teithio consesiwn
Ceir Cefn Gwlad
Seilwaith Cerbydau Trydan
Graeanu
Mwy ynghylch Priffyrdd, Teithio a Pharcio