Mynediad i gerbydau i dramwyfeydd (cyrbau isel)

Gallwch wneud cais am drwydded i leihau'r cwrbyn y tu allan i'ch eiddo ac ailadeiladu'r droedffordd/ymyl y ffordd sydd hefyd yn cael ei adnabod fel Cais am Fynediad i Gerbydau.

Sylwch y bydd ymgeiswyr yn gyfrifol am dalu cost lawn y drwydded a'r costau adeiladu. Mae'r drwydded yn cymryd 28 diwrnod i'w phrosesu a'i chyflwyno.

Bydd yn ofynnol i gontractwyr preifat sy'n gwneud gwaith feddu ar garden achredu ddilys ar gyfer gwaith stryd ac o leiaf £10 miliwn o indemniad atebolrwydd cyhoeddus.

Bydd angen ichi wybod a yw'r ffordd rydych yn dymuno lleihau'r cwrbyn arni yn 'ffordd dosbarth A, B neu C', gallwch wneud hyn trwy ddefnyddio tudalen we Ffeindio fy Stryd

Ar gyfer ffyrdd dosbarth A, B neu C, mae'n rhaid ichi hefyd gysylltu â'r Adran Gynllunio er mwyn cadarnhau a oes angen caniatâd cynllunio ai peidio. Os oes angen, bydd angen ichi gael caniatâd cynllunio cyn cyflwyno eich cais am drwydded S184 i ni.

Mae mynediad safonol yn cynnwys 4 cwrbyn isel a 2 gwrbyn pontio. Ystyrir ceisiadau am fynediad lletach ond ni fyddant o reidrwydd yn cael eu cymeradwyo.

Ffioedd

Codir ffi o £207 am wneud cais am i Swyddog brosesu'r cais, er mwyn asesu a ganiateir mynediad ai peidio - ni ellir ad-dalu'r ffi hon. 

Os caiff eich cais ei gymeradwyo a'i ganiatáu, eich cyfrifoldeb chi fydd penodi a thalu contractwr sy'n meddu ar gymwysterau addas i wneud y gwaith hwn yn unol â gofynion Cyngor Sir Caerfyrddin. Yn ogystal, eich dyletswydd chi yw rhoi gwybod i'r Cyngor pryd fydd y gwaith yn cael ei wneud er mwyn i Arolygydd Gwaith Stryd y Cyngor ddod i arolygu'r gwaith.

Lawrlwythwch ffurflen gais ar gyfer cwrbyn isel (.PDF)

 

Nid oes cyfyngiadau ar osod patios, llwybrau ac ardaloedd eraill o lawr caled ar dir y tu cefn neu ar ochr eich tŷ. Ond mae cyfyngiadau ar y math o ddeunydd y gallwch ei ddefnyddio i orchuddio'r tir o flaen prif wedd eich tŷ, os yw'n arwain at y briffordd.

Y cyfyngiadau yw bod yn rhaid i (i) yr arwyneb fod yn fân-dyllog neu'n hydraidd neu (ii) wedi'i gynllunio i gyfeirio dŵr ffo i ardal fân-dyllog neu hydraidd o fewn ffin eich cartref. Mae'r cyfyngiadau hyn wedi'u cyflwyno oherwydd pryderon y gall rhai mathau o arwyneb caled gyfrannu tuag at lifogydd dŵr wyneb. Er enghraifft, mae arwynebau fel concrit yn anhydraidd – h.y. nid ydynt yn caniatáu i ddŵr fynd drwyddynt ac yn hytrach, mae dŵr yn llifo i'r ffyrdd a’r palmentydd.

Os ydych yn dymuno disodli arwyneb caled, anhydraidd sydd o flaen prif wedd eich tŷ ac yn arwain i'r briffordd, mae gennych hawl i ddisodli ardal fach o arwyneb caled sy'n bodoli eisoes - hyd at 5 metr sgwâr mewn unrhyw gyfnod o 6 mis - heb orfod cydymffurfio â'r cyfyngiadau a amlinellir uchod.
Mae canllawiau technegol pellach ar gael yn, "Canllawiau ar arwyneb hydraidd ar gyfer gerddi tu blaen"(Tudalen 15).

I ddarganfod a yw'r ffordd yr hoffech osod cwrbyn isel yn ffordd 'A, B neu C ddosbarthiadol', chwiliwch am eich stryd yma Find My Street.

Os ydych yn byw ar ffordd annosbarthedig (nid ffordd A, B neu C) nid oes angen caniatâd cynllunio arnoch fel arfer.

Sylwer: Os byddwch, trwy greu eich mynedfa newydd, yn newid lefelau tir eich mynediad presennol, yn cael effaith andwyol ar ddiogelwch y briffordd neu'n cynnwys gwaith peirianyddol fel y cloddiad, byddem yn eich annog i gyflwyno ein ffurflen ymholiad Rhagarweiniol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen we Ymestyn/Newid eich cartref. Bydd hyn yn ein galluogi i gadarnhau a oes angen caniatâd cynllunio arnoch ai peidio. Nid oes unrhyw gost am gwblhau'r ffurflen gais hon.

Os mai'r canlyniad yw ei bod yn ofynnol i chi wneud cais am gynllunio, bydd gwybodaeth lawn am y ffioedd a pha ffurflen gais i'w chyflwyno yn cael ei darparu. Bydd angen i chi gwblhau'r broses cais cynllunio cyn cwblhau'r cais cwrb isel.

Os mai’r canlyniad yw nad oes angen i chi wneud cais am ganiatâd cynllunio, gallwch fynd ymlaen i gyflwyno cais cwrb isel.

Bydd y dudalen we hon yn rhoi'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch am amserlenni a chostau. Gallwch ddarparu copi o ganlyniad eich ymholiad cynllunio gyda'ch cais, i gadarnhau nad oes angen cynllunio.

ffurflen ymholiad Rhagarweiniol i Ymestyn/newyd eich cartref

ffurflen gais cwrbyn isel

I ddarganfod a yw'r ffordd yr hoffech osod cwrbyn isel yn ffordd 'A, B neu C ddosbarthiadol', chwiliwch am eich stryd yma Find My Street.

Os yw eich eiddo ar ffordd ddosbarthiadol bydd angen i chi wneud cais am ganiatâd cynllunio i greu mynediad newydd neu addasu mynediad sy'n bodoli eisoes a bydd angen i chi gael caniatâd cynllunio cyn bwrw ymlaen gyda'ch cais am gwrbyn isel.

Os yw'r cwrb isel i wasanaethu annedd bydd angen i chi gyflwyno ffurflen Cais Caniatâd Cynllunio Deiliad Tai sydd i'w gweld ar ein gwefan cyflwyno cais cynllunio. Bydd yn costio £230 a bydd y cais hwn yn cymryd 8 wythnos.

Rydym yn cynnig gwasanaeth cyn cyflwyno cais sy’n caniatáu i ddarpar ymgeiswyr gael cyngor ynghylch unrhyw ddatblygiadau arfaethedig. Mae hyn os hoffai'r ymgeisydd wneud y gwiriadau priodol ar y cynnig i ddechrau cyn ymrwymo i gais llawn. Mae’r wybodaeth i’w chael ar ein gwefan Gwasanaeth Cyn Cyflwyno Cias, sylwch fod ffi am y gwasanaeth hwn, a cheir manylion amdano yn yr adran. Nid oes angen i chi fod yn berchen ar y tir i allu cyflwyno ymholiad cyn cynllunio. Bydd cyn-cais gan ddeiliad tŷ yn costio £25.

Unwaith y byddwch wedi derbyn eich caniatâd cynllunio, byddwch wedyn yn gallu cwblhau'r cais cwrb isel. Bydd angen i chi ddarparu copi o'r penderfyniad i ganiatáu'r cais cynllunio gyda'ch cais.

Ffurflen gais cwrbyn isel 

cyflwyno cais cynllunio