Hyfforddiant Beic Modur

Diweddarwyd y dudalen ar: 18/04/2024

P’un a ydych chi newydd basio eich prawf beic modur, yn dychwelyd at y beic ar ôl egwyl, neu hyd yn oed os ydych chi wedi bod yn beicio ers blynyddoedd, beth am fanteisio ar y cyfle i ddysgu rhywbeth newydd, a gwella’r sgiliau beic modur sydd gennych eisoes. Mae amrywiaeth o gyfleoedd ar gael i helpu pobl i reidio’n fwy diogel.

Dyma rai o’r cynlluniau sydd ar gael yn Sir Gaerfyrddin:

Dragon Rider Cymru

Mae Dragon Rider Cymru yn cwrs hyfforddiant beic modur sy’n cael ei gefnogi gan Gynllun Gwell Beiciwr yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau. Beth am fanteisio ar ein cwrs di-dâl, a gwella eich sgiliau beic modur?

BikeSafe

Lluniwyd BikeSafe i gynyddu eich dealltwriaeth o’ch gallu eich hun a sut mae cael hyd i ffyrdd o wella sut rydych chi’n reidio eich beic. Mae’r gweithdai BikeSafe, sy’n cael eu cyflwyno gan yr Heddlu, mewn partneriaeth â’r Gwasanaeth Tân ac Achub, yn archwilio’r prif beryglon y byddwch chi’n eu hwynebu ar feic modur, trwy ddarparu adborth strwythuredig gan feicwyr modur lefel uwch yr Heddlu a’r Gwasanaeth Tân ac Achub.

Hyfforddiant Beic Modur Uwch

Beth am fynd gam ymhellach a’ch gwneud eich hun yn feiciwr mwy diogel fyth? Mynnwch air ag un o’n grwpiau lleol i weld beth sydd ar gael o ran hyfforddiant beic modur uwch.

Teithio, Ffyrdd a Pharcio