Clinigau Archwilio Diogelwch Seddi Ceir i Blant

Diweddarwyd y dudalen ar: 17/07/2024

Diogelwch Seddi Ceir i Blant

Mae diogelwch seddi ceir i blant yn hanfodol bwysig o ran diogelu plant wrth deithio mewn cerbyd. Yn y DU, rhaid i blant ddefnyddio seddi car plentyn nes eu bod yn 12 oed neu'n 135cm o daldra, pa un bynnag sy'n dod gyntaf. Mae'n hanfodol bwysig sicrhau bod y sedd yn cael ei gosod yn gywir i amddiffyn y plentyn i’r graddau mwyaf posibl mewn achos o wrthdrawiad.

 Clinigau Archwilio Diogelwch Seddi Ceir i Blant

I helpu rhieni i sicrhau bod seddi ceir eu plant yn cael eu gosod yn gywir, rydym yn cynnig clinigau archwilio seddi ceir i blant am ddim. Mae’r clinigau hyn yn cael eu cynnal gan ymgynghorwyr seddi ceir i blant achrededig yn y tîm diogelwch ar y ffyrdd, a all wirio:

  • Bod y sedd yn addas i'r cerbyd
  • Bod y sedd wedi ei gosod yn ddiogel yn y cerbyd
  • Bod y sedd yn briodol i'ch plentyn

Yn y clinigau hyn, bydd rhieni hefyd yn cael canllawiau ynghylch dewis y sedd gywir i'w plentyn. Yn 2023, gwiriodd Good Egg Safety 1484 o seddi ceir ledled Prydain Fawr a chanfod bod 65% o seddi ceir plant wedi’u gosod yn anghywir, felly mae’n syniad da mynd i glinig archwilio i wirio bod sedd car eich plentyn wedi’i gosod yn gywir i sicrhau bod eich plentyn mor ddiogel â phosibl wrth deithio.

Dyddiadau clinig:

Mae ein hymgynghorwyr seddi plant achrededig ar gael:

  • Dydd Gwener, 9 Awst 2024, 11am – 6pm, Smyths Toys, Parc Pemberton, Llanelli

 

Gwallau Gosod Cyffredin

Rydym am helpu i sicrhau bod eich plant yn teithio mor ddiogel â phosibl. Dyma’r deg gwall gosod mwyaf cyffredin a ganfuwyd mewn clinigau archwilio seddi ceir i blant blaenorol.

  • Harnais llac
  • Gwregys llac
  • Cynhalydd pen wedi'i gosod yn anghywir
  • Gosod gwregys arno mewn modd anghywir
  • Uchder harnais anghywir
  • Harnais wedi troi
  • Sedd plentyn heb ei gosod yn gywir
  • Gwregys wedi troi
  • Yr handlen gario yn y safle anghywir
  • Plentyn yn rhy fach i'w sedd

Trefnwch apwyntiad os ydych yn teimlo bod gan eich sedd car plentyn unrhyw un o'r gwallau gosod cyffredin hyn.

Teithio, Ffyrdd a Pharcio