Eco-yrru
Mae eco-yrru yn arddull gyrru sy'n gwella diogelwch ar y ffyrdd ac yn lleihau'r defnydd o danwydd ac allyriadau. Un o'r ffactorau pwysig i wella diogelwch ar y ffyrdd yw cynllunio eich taith ymlaen llaw a sylwi ar beryglon posibl. Drwy wella eich sgiliau cynllunio a'ch gallu i sylwi ar beryglon gallwch leihau'r defnydd o danwydd a gwella eich ôl troed carbon.
Y peth cyntaf y dylech ei ystyried yw a allech chi leihau nifer y siwrneiau yr ydych yn eu gwneud yn eich cerbyd. A fyddai modd i chi gerdded, beicio neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn lle hynny?
Os oes angen i chi ddefnyddio'ch cerbyd, gellir defnyddio'r cyngor canlynol fel canllaw i eco-yrru'n ddiogel:
- cynlluniwch eich taith i osgoi gwaith ffordd, tagfeydd neu osgoi mynd ar goll a cheisiwch osgoi amseroedd teithio prysur
- gwiriwch y teiars yn rheolaidd a sicrhau eu bod wedi'u llenwi ag aer i'r pwysedd cywir
- tynnwch flychau neu raciau oddi ar do’r car pan nad oes eu hangen i leihau gwrthiant aer
- peidiwch â defnyddio cist y car fel man storio parhaol. Cliriwch eich cerbyd o unrhyw beth nad oes ei angen arnoch er mwyn lleihau pwysau.
- cadwch bellter diogel o'r car o'ch blaen gan y bydd hyn yn eich helpu i gynllunio eich taith.
- cadwch o fewn terfynau cyflymder
- dylech gyflymu a brecio'n raddol. Ceisiwch osgoi brecio'n hwyr
- pan fydd amodau'n caniatáu, defnyddiwch y gêr uchaf posibl heb amharu ar yr injan
- Defnyddiwch y system rheoli cyflymder (cruise control) lle bo'n briodol
- peidiwch â defnyddio'r system aerdymheru'n ormodol
- gwirio eich defnydd o danwydd yn rheolaidd i sicrhau eich bod cael y budd mwyaf o'ch cerbyd
- wrth barcio, ceisiwch facio’n ôl i mewn i le parcio bob amser er mwyn gallu gyrru allan ohono oherwydd mae symud y car yn ôl ac ymlaen tra bo'r injan yn oer yn defnyddio llawer o danwydd
- pan fyddwch yn dechrau'r injan, peidiwch â'i chadw'n segur i gynhesu'r injan. Mae hyn yn gwastraffu tanwydd ac ni ddylai fod yn angenrheidiol os byddwch yn gyrru i ffwrdd yn raddol ac yn ddidrafferth. Dylid crafu'r rhew oddi ar eich car yn y gaeaf yn hytrach na gadael eich car i gynhesu tra'n segur
- os yw eich cerbyd yn sefydlog ac yn debygol o aros felly am fwy nag ychydig funudau, dylech ddefnyddio'r brêc parcio a diffodd yr injan i leihau allyriadau a llygredd sŵn.
- mae gan lawer o gerbydau dechnoleg stopio/cychwyn – gwnewch yn siŵr fod hyn ymlaen i leihau'r defnydd o danwydd ac allyriadau
- bydd cynnal a chadw eich cerbyd yn dda hefyd yn lleihau'r defnydd o danwydd
Teithio, Ffyrdd a Pharcio
Ymgeisio am...
- Cau ffordd o ganlyniad waith brys
- Cau ffordd ar gyfer gwaith sydd wedi'i gynllunio
- Hysbysu am gwaith yn y ffyrdd
- Ymgeisio am addurniadau tymhorol ar/uwchben y briffordd
- Arwyddion rhybuddio marchogaeth
- Arwyddion traffig cludadwy
- Arwyddion twristiaeth brown
- Marciau i warchod mynediad preifat (Bar H)
- Mynediad i lleoedd parcio i'r anabl
- Mynediad i gerbydau i dramwyfeydd (cyrbau isel)
- Ganiatâd i wneud gwaith insiwleiddio allanol dros briffordd
- Cynllun parcio i breswylwyr
- Tystysgrif hepgor gollyngiad
- Hawlen Bargodi Dros Dro
Beicio modur
- Dillad a Helmed Beicio Modur
- Hyfforddiant Beic Modur
- Biker Down! Cymru
- Dragon Rider Cymru
- Carden CRASH Beiciau Modur
Ceir Cefn Gwlad
Gwefru Cerbyd Trydan
Diogelwch ffyrdd
Gorchmynion rheoleiddio traffig
Graeanu
Gwaith ar y ffyrdd
Gwasanaethau bws
Mynediad ar gyfer cerdded a beicio (Teithio Llesol)
Parcio
Pont pwyso cyhoeddus
Rhannu ceir
Rhoi gwybod am anifail sydd wedi marw ar y ffordd
Rhoi gwybod am broblemau ar y ffyrdd
- Rhoi gwybod am dwll yn y ffordd
- Rhoi gwybod am lifogydd / ddraen wedi blocio ar Briffordd
- Rhoi gwybod am olau stryd ddiffygiol
- Rhoi gwybod am lystyfiant wedi gordyfu / chwyn niweidiol
- Rhoi gwybod am goed peryglus / wedi cwympo
- Rhoi gwybod am berygl baglu
- Rhoi gwybod am falurion / rwystr / tirlithriad
- Rhoi gwybod am beryglon Y Gaeaf
- Rhoi gwybod am farciau / arwyddion ffordd diffygiol
- Rhoi gwybod am strwythur ar briffordd
- Rhoi gwybod am oleuadau traffig dros dro diffygiol
- Rhoi gwybod am ffensys / rhwystrau wedi difrodi
- Rhoi gwybod am broblem gyda chysgodfan fysiau
- Rhoi gwybod am gerbyd wedi'i adael
- Rhoi gwybod am glawr twll archwilio / draen wedi difrodi
- Rhoi gwybod am ddodrefn stryd wedi difrodi / ar goll
- Rhoi gwybod am oleuadau traffig parhaol diffygiol
Mwy ynghylch Teithio, Ffyrdd a Pharcio