
Cynlluniau Teithio Llesol 22-23
Mae'r cynlluniau teithio llesol isod wedi'u cynllunio i helpu i gysylltu trigolion lleol â chyrchfannau lleol allweddol. Mae pwysigrwydd darparu seilwaith o safon uchel yn y lleoliad cywir yn flaenllaw o ran ein dyheadau i annog lefelau uwch o deithio llesol ar gyfer teithio o ddydd i ddydd ynghyd â'r holl fanteision cysylltiedig.
Rydym yn chwilio am ffyrdd y gallwn wella ein rhwydwaith teithio llesol yn gyson a bydd eich adborth, naill ai'n uniongyrchol i ni neu drwy dudalen Ymgynghoriad Teithio Llesol yn ein helpu ni i ddatblygu ac i ddarparu llwybrau teithio llesol newydd. Bydd y Map Rhwydwaith Teithio Llesol yn helpu i lywio'r dyfodol o ran ein seilwaith cerdded a beicio ar draws y Sir.
Mae'r prosiectau a restrir isod ar gyfer 2022/23 wedi cael eu datblygu yn dilyn adborth uniongyrchol gan drigolion Sir Gaerfyrddin ynghyd â mewnbwn gan randdeiliaid allweddol. Maent yn helpu i gynnal ein statws fel Canolbwynt Beicio Cymru ac i gyflawni ein dyletswyddau'n rhan o Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013. Mae pob cynllun wedi cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru drwy'r gronfa Teithio Llesol.