Cynlluniau Teithio Llesol wedi'u cwblhau
Mae'r adran hon yn arddangos nifer o gynlluniau a gwblhawyd o’r blaen. Cafodd y rhain eu dylunio a’u hadeiladu yn unol â chanllawiau Teithio Llesol Cymru (2013). Adeiladwyd y rhain i wella’r seilwaith neu i greu seilwaith newydd i’w gwneud yn haws i drigolion ac ymwelwyr Sir Gaerfyrddin gerdded, sgwtera, beicio neu yrru o amgylch eu hamgylchedd lleol gyda phwyslais arbennig ar gysylltu â chyrchfannau seilwaith allweddol megis canolfannau addysg, cyflogaeth a manwerthu.
Mae’r llwybrau hyn yn annog Teithio Llesol sy’n cynorthwyo gweithgarwch awyr agored, y gwyddys ei fod yn gwella iechyd meddwl ac iechyd corfforol. Ynghyd â'r manteision iechyd mae hyn hefyd yn ein cynorthwyo i symud tuag at ein cynllun i ddod yn awdurdod lleol carbon sero net erbyn 2030. Rydym yn eich annog i adael eich cerbyd gartref, defnyddio'r llwybrau hyn, arbed arian ar danwydd a mwynhau manteision y cynlluniau hyn.
Mae pob cynllun wedi cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.