Tystysgrif hepgor gollyngiad
Diweddarwyd y dudalen ar: 13/08/2026
Gall Tystysgrif Hepgor gael ei rhoi yn ôl ein disgresiwn ni, er mwyn caniatáu i gerbyd penodol aros yn y ffordd neu mewn lle parcio yn ystod oriau gweithredu unrhyw gyfyngiad neu waharddiad mewn perthynas â hynny.
Pan fo gollyngiad yn ofynnol bydd yn rhaid cyflwyno cais ysgrifenedig a hynny dri diwrnod cyn y dyddiad y dymunir iddo ddod i rym.
Fel rheol ni roddir gollyngiadau ar gyfer parcio mewn:
- Arosfannau bysiau
- Safleoedd tacsis
- Llefydd parcio i ddoctoriaid
- Llefydd parcio i bobl anabl
- Llefydd lle mae gwaharddiad ar lwytho/dadlwytho
- Ar bafinau
Bydd y Dystysgrif Hepgor yn cynnwys manylion penodol am y math o le parcio a'r lleoliad. Mae'n rhaid bod y cerbyd yn cael ei barcio fel nad yw'n achosi perygl i gerddwyr nac i ddefnyddwyr ffyrdd eraill, fel nad yw'n rhwystro pobl rhag gweld wrth gyffyrdd, fel nad yw'n atal mynediad, ac fel nad yw'n amharu ar lif y traffig.
Caiff y dystysgrif ei hanfon naill ai drwy'r post, drwy'r e-bost neu drwy'r peiriant ffacs fel y bo'r gofyn. Gellir canslo tystysgrif hepgor unrhyw bryd yn ôl disgresiwn y Cyngor. Caiff y sawl dan sylw ei hysbysu ynghylch hyn yn ysgrifenedig.
Ffioedd
O 1af Medi 2026, bydd system ar-lein newydd ar gyfer gwneud cais am hepgor gollyngiad. Fel rhan o'r newid hwn, bydd tâl am wneud cais am rhai hepgor gollyngiadau.
Parcio mewn ardal preswylwyr – dim tâl
Pob ardal arall er engraift – Man Llwytho/Bae Amserol/Llinellau Melyn
1 Diwrnod- £10.00
2 Diwrnodau- £15.00
3 Diwrnodau - £20.00
4 Diwrnodau - £25.00
7 Diwrnodau - £30.00
14 Diwrnodau - £60.00
21 Diwrnodau - £90.00
28 Diwrnodau - £120.00
