Grant Tyfu Busnes

1. Cyflwyniad

Fel rhan o'u hymrwymiad parhaus i gefnogi datblygiad economaidd a busnesau , mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn darparu Grant Twf Busnes Sir Gaerfyrddin a ariennir gan Lywodraeth y DU drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin.

Nod yr ymyrraeth grant yw cryfhau ecosystemau entrepreneuraidd lleol a chefnogi busnesau ar bob cam o'u datblygiad i ddechrau, cynnal, tyfu ac arloesi, gan gynnwys trwy rwydweithiau lleol.

Bydd y grant yn cefnogi busnesau lleol a buddsoddwyr o'r tu allan i dyfu, ffynnu a bod yn gynaliadwy. Gan arwain at greu neu ddiogelu swyddi ledled y Sir, felly gwella'r economi leol. Er y rhoddir blaenoriaeth i greu swyddi newydd, cydnabyddir bod diogelu swyddi o dan yr hinsawdd economaidd bresennol hefyd yn hynod o bwysig a bydd yn cael ei ystyried yn unol ag achos.

Mae'r grant bellach ar gau ar gyfer mynegiadau diddordeb newydd. Os hoffech ychwanegu eich enw at restr aros, fel eich bod yn cael gwybod am unrhyw gyfleoedd grant busnes yn y dyfodol, anfonwch eich ymholiad drwy e-bost at BusinessFund@sirgar.gov.uk