Grant Tyfu Busnes

9. Ad-dalu - Pryd efallai y bydd yn rhaid i chi ad-dalu'r grant

Bydd y grant yn cael ei adennill os bydd eich busnes:

  • yn peidio â masnachu
  • yn newid yn sylweddol o'r manylion a roddwyd gennych yn eich cais
  • yn gwerthu unrhyw eitemau a brynir gydag arian grant
  • yn newid perchnogaeth
  • yn symud allan o Sir Gaerfyrddin neu'n cael ei werthu

 Bydd angen i chi ad-dalu unrhyw arian yr ydych wedi'i dderbyn o'r grant fel a ganlyn:

Dyddiad o'r taliad terfynol Y swm sydd i'w ad-dalu
O fewn 1 flwyddyn Cyllid i'w ad-dalu'n llawn
O fewn 2 flynedd ad-dalu 80% o'r cyllid
O fewn 3 flynedd ad-dalu 60% o'r cyllid
O fewn 4 flynedd ad-dalu 40% o'r cyllid
O fewn 5 flynedd ad-dalu 20% o'r cyllid
Ar ôl 5 mlynedd Dim cyllid i'w ad-dalu

Isafswm ad-daliadau yw'r uchod. Os nad ydych yn creu / diogelu nifer y swyddi a amlinellir yn eich cais, mae gennym yr hawl i adennill y grant yn rhannol neu'n llawn. Os byddwch yn derbyn gordaliad bydd angen i chi ad-dalu hwn.

Mae'n rhaid ad-dalu'r grant yn llawn os:

  • canfyddir eich bod wedi gwneud unrhyw gamliwio yn eich cais.
  • ydych wedi torri telerau'r grant. Byddwch yn derbyn manylion llawn y telerau os bydd eich cais yn llwyddiannus.