Grant Tyfu Busnes

4. Yr hyn y gallwch ddefnyddio'r grant ar ei gyfer

Gwariant Cyfalaf:

  • Prynu offer newydd neu ail law, e.e, peiriannau, offer arbenigol, ac ati. Sylwch y gallai'r rhain gynnwys eitemau megis tryciau fforch godi, telehandlers, cloddwyr, ac ati, er nid yw cerbydau cyffredinol fel faniau a cheir yn gymwys. Gweler isod y nodyn ynglŷn â phrynu eitemau ail law
  • Gellir ystyried cerbydau masnachol arbenigol, ee faniau oergell, faniau at ddibenion arbenigol, arwyddion wedi'u hysgrifennu neu eu gosod ar gyfer defnydd masnachol penodol fesul achos
  • Prynu a gosod offer i greu neu wella gofod masnachu awyr agored, e.e. llochesi, gazebos, ac ati. Sylwch y bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o'r caniatâd perthnasol os yw'n briodol, h.y. caniatâd cynllunio, trwyddedau, ac ati
  • Caledwedd TG a Thelathrebu os ydynt wedi eu cysylltu'n uniongyrchol â chyflawni'r prosiect
  • Gosodion a ffitiadau, dodrefn ac offer swyddfa ac ati fel rhan o symudiad swyddfa neu swyddfa newydd

Gwariant refeniw arbenigol:

  • Hyfforddiant arbenigol/technegol (nid yn achrededig o reidrwydd)
  • Comisiynu/Gosod peiriannau
  • Meddalwedd arbenigol
  • Cynhyrchu gwefannau, e-fasnach/ siopau ar-lein, apiau, ac ati rhaid cynhyrchu'r holl ddeunydd marchnata a hyrwyddo yn ddwyieithog 
  • Deunyddiau Hyrwyddo a Marchnata (a asesir fesul achos) rhaid cynhyrchu pob deunydd marchnata a hyrwyddo yn ddwyieithog. e.e. arwyddion, ysgrifennu arwyddion cerbydau, deunyddiau arddangos, dillad gwaith brand, ac ati
  • Ymgynghorwyr Arbenigol (a asesir fesul achos)
  • Tystysgrif Sicrwydd Ansawdd (a asesir fesul achos)
  • Costau sy'n gysylltiedig â danfon unrhyw offer cyfalaf