Draenio cynaliadwy ar gyfer meysydd parcio Llanymddyfri a Chastellnewydd Emlyn
Diweddarwyd y dudalen ar: 19/11/2025
Bydd y Prosiect Afonydd Gwydn yn treialu datrysiadau draenio cynaliadwy (SDCau) mewn meysydd parcio dwy dref wledig, sef Llanymddyfri a Chastellnewydd Emlyn. Bydd y cynlluniau hyn yn arafu, storio a hidlo glawiad ar y safle fel bod dŵr wyneb llai llygredig yn cyrraedd draeniau ac afonydd cyfagos, gan helpu i ddiogelu Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) Teifi a Thywi a gwella ansawdd dŵr lleol.
Pam rydym yn gwneud hyn
- Mae dŵr wyneb yn rhedeg oddi ar ffyrdd a meysydd parcio yn gyflym, gan gasglu olew, gwaddodion a maetholion a'u cludo i afonydd.
- Mae cyflwyno SDCau (er enghraifft palmentydd athraidd, blychau plannu biogadw a gerddi glaw) yn gadael i law dreiddio i mewn i le bynnag y mae'n disgyn - gan arafu llifoedd, hidlo llygryddion, a lleihau'r pwysau ar y rhwydwaith carthffosydd yn ystod stormydd.
- Mae arafu dŵr ffo hefyd yn lleihau'r risg o ollyngiadau storm ac yn cefnogi'r gwaith o warchod ACA Afon Tywi ac Afon Teifi. Mae cyllid ar gyfer y cam datblygu wedi'i ddarparu gan Gyfoeth Naturiol Cymru.
(Mae asesiadau safle technegol a dyluniadau cysyniadol ar gyfer Llanymddyfri ar gael — mae'r rhain yn dangos ardaloedd SDCau arfaethedig, amcangyfrif o gyfeintiau storio ac ystyriaethau ymarferol i lywio dyluniad manwl yn y dyfodol.)
Pa fathau o SDCau sydd o dan sylw?

Palmentydd athraidd – palmentydd sydd â bylchau neu ddeunydd mandyllog fel bod glaw yn ymdreiddio i mewn yn hytrach nag yn llifo ar draws yr wyneb.

Blychau plannu biogadw / gerddi glaw — basnau o blanhigion sy'n dal ac yn hidlo dŵr ffo drwy'r pridd a'r llystyfiant, gan ryddhau'n araf y dŵr sydd dros ben mewn modd sydd o dan reolaeth.

Ailbroffilio'r wyneb — newidiadau bach i lefelau'r tir fel bod dŵr yn cael ei arwain i ffosydd cerrig.

Grasscrete / arwynebau â llystyfiant — mae cerbydau'n gallu mynd ar yr arwyneb ac mae'n galluogi dŵr i ymdreiddio ac yn creu mannau gwyrddach. Mae grasscrete yn fath o balmant wedi'i wneud o flociau concrit gyda chelloedd agored sy'n caniatáu i laswellt dyfu drwyddo ac i ddŵr glaw dreiddio i'r ddaear yn hytrach na llifo ar draws yr wyneb.

Draeniau sianel – Mae draeniau sianel yn ddraeniau cul rhwyllog wedi'u gosod yn y ddaear sy'n dal dŵr wyneb ac yn ei gludo i ffwrdd yn ddiogel.

Cyrbiau tyllog – Mae'r rhain yn rheoli llif dŵr glaw trwy fylchau bach iawn yn yr wyneb fel ei fod yn treiddio i nodweddion SDCau neu fannau draenio presennol.
Manteision lleol
- Llai o lygryddion yn cyrraedd afonydd → gwell ansawdd dŵr i bobl a bywyd gwyllt
- Llai o risg o lifogydd carthffosydd a gorlifiadau stormydd yn ystod glaw trwm
- Meysydd parcio gwyrddach, oerach a mwy croesawgar gyda phlanhigion a seddi gwell
- Cynnydd bach mewn bioamrywiaeth (planhigion sy'n denu pryfed peillio, rhywogaethau brodorol)
