Derbyn i Ysgolion 2023-2024- Gwybodaeth i Rieni

Cyflwyniad

Byddwn yn cefnogi holl ddysgwyr Sir Gaerfyrddin. Byddwn yn sicrhau bod ein plant a'n pobl ifanc yn hapus, yn ddiogel ac yn ffynnu, a'u bod yn cyflawni eu potensial personol a chymdeithasol a'u potensial o ran dysgu. Diolch i chi am wneud cais am le yn un o ysgolion Sir Gaerfyrddin. Rydym yn ffodus bod gennym ysgolion gwych a staff o'r safon uchaf. Ein nod cyffredinol yw darparu addysg o'r safon uchaf bosibl i’r holl ddisgyblion, yn unol â'u hoedran, eu gallu a'u diddordeb/dawn, er mwyn iddynt ddod yn bersonoliaethau cyflawn, gan ddatblygu a defnyddio eu holl ddoniau, a bod ganddynt yr hyn sydd ei angen arnynt i fod yn aelodau cyfrifol o gymuned ddwyieithog. Rwy'n gobeithio y bydd y canllaw hwn o help i rieni/gofalwyr plant sy'n dechrau yn yr ysgol am y tro cyntaf, ac i rieni/gofalwyr plant sy'n symud i'r ardal. Rydym yn sylweddoli bod dewis ysgol yn gallu bod yn her ond rydym yn cydnabod pwysigrwydd y penderfyniad hwn i chi fel rhieni neu ofalwyr. Lluniwyd y canllaw hwn er mwyn eich cefnogi chi yn y broses honno ac mae'n cynnwys:

  • gwybodaeth gyffredinol ynghylch ein hysgolion
  • cyngor ynghylch sut a phryd y mae angen ichi wneud cais am le mewn ysgol
  • y broses o roi lleoedd ac
  • ystod o bolisïau megis cludiant ysgol a allai fod yn berthnasol i'ch amgylchiadau.

Cyn ichi benderfynu'n derfynol rydym yn eich cynghori chi i gysylltu â'r ysgolion yn eich ardal a threfnu ymweliad er mwyn trafod y ddarpariaeth sydd ar gael a'ch amgylchiadau unigol gyda nhw. Bydd gwybodaeth hefyd ar gael ar wefannau'r ysgolion unigol ac yn eu prosbectysau hefyd. Sylwch nad oes sicrwydd y derbynnir plentyn i'r ysgol o'ch dewis. Mae terfynau caeth ar nifer y disgyblion y gellir eu derbyn i bob ysgol. Os derbynnir mwy o geisiadau nag sydd o lefydd, yn gyfreithiol, mae'n rhaid prosesu'r ceisiadau a ddaeth i law erbyn y dyddiad cau yn gyntaf, gan ddefnyddio'r meini prawf goralw, y nodir eu manylion yn y llyfryn hwn, i bennu'r flaenoriaeth o ran rhoi'r llefydd sydd ar gael. I osgoi siom ac i gael y siawns fwyaf o gael lle yn eich dewis ysgol, gofalwch eich bod yn cyflwyno'ch cais erbyn y dyddiad cau a bennwyd. Edrychwn ymlaen at groesawu eich plentyn i un o'n hysgolion a dymunwn bob llwyddiant iddo. Rydym yn ymdrechu i sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael ei werthfawrogi a'i werthfawrogi'n gyfartal.
Byddwn ni'n cefnogi holl ddysgwyr Sir Gâr. Byddwn ni'n sicrhau bod ein plant a'n pobl ifanc yn hapus, yn ddiogel, ac yn ffynnu, a'u bod yn cyflawni eu potensial personol, cymdeithasol a dysgu.

 

Gareth Morgans -Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant