Derbyn i Ysgolion 2025-2026- Gwybodaeth i Rieni
Yn yr adran hon
- Cyflwyniad
 - ADRAN A - Derbyn i Ysgolion Sir Gaerfyrddin
 - Trefniadau derbyn arferol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2025-26
 - Pryd i wneud cais
 - Faint Fydd Oed Plant yn Dechrau'r Ysgol?
 - Derbyn plant i ysgolion uwchradd gan gynnwys y chweched dosbarth
 - Dewis Ysgol - Dalgylchoedd
 - Sut mae gwneud cais
 - Rhoi Llefydd - Y Meini Prawf Gor-alw
 - Symud/Newid Ysgolion y tu allan i'r trefniadau derbyn arferol. (Symud yn ystod y flwyddyn/canol blwyddyn)
 - Rhoi gwybod am Dderbyn i Ysgol
 
- Apeliadau yn ymwneud â derbyn disgyblion i ysgolion cymunedol/ysgolion gwirfoddol a reolir cynradd neu uwchradd
 - Derbyn i Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir
 - ADRAN B - Gwybodaeth am Addysg a Dysgu
 - Dysgu'r Gymraeg a'r Saesneg yn Ysgolion Sir Gaerfyrddin
 - Gwybodaeth am Addysg a Dysgu
 - ADRAN C - Gwasanaethau i Ddisgyblion
 - ADRAN D - Crynodeb o Ddisgyblion ac Ysgolion Sir Gaerfyrddin
 - ADRAN E - Ysgolion Sir Gaerfyrddin: Ysgol Meithrin
 - Ysgolion Sir Gaerfyrddin: Ysgol Gynradd Gymunedol
 - Ysgolion Sir Gaerfyrddin: Ysgolion Uwchradd
 - Ysgolion Sir Gaerfyrddin: Ysgolion Arbennig
 
Derbyn plant i ysgolion uwchradd gan gynnwys y chweched dosbarth
Ffeithiau:
- Ni fydd disgyblion yn trosglwyddo'n awtomatig i'r ysgol uwchradd o'r ysgol gynradd.
 - Mae'n rhaid, yn ôl y gyfraith, i chi gyflwyno cais i'r Awdurdod Derbyn am le mewn ysgol.
 - Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 29 Tachwedd, 2024.
 - Cyfeiriad y cartref yw'r hyn y rhoddir ystyriaeth iddo wrth dderbyn i ysgol uwchradd ac nid yr ysgol gynradd a fynychwyd.
 - Nid yw'n bosibl i unrhyw unigolyn na chorff roi sicrwydd ymlaen llaw y bydd lle ar gael i blentyn mewn ysgol. Dylid diystyru sylwadau neu addewidion o'r fath.
 - Bydd angen ichi aros hyd nes y cewch lythyr neu e-bost gan yr Awdurdod Derbyn yn rhoi gwybod ichi os yw eich cais wedi cael ei gymeradwyo neu ei wrthod.
 - Ni chaiff plentyn ddechrau yn yr ysgol uwchradd hyd nes bod y rhiant/gwarcheidwad wedi cadarnhau gyda’r Awdurdod Derbyn ei bod yn derbyn y cynnig o le.
 - Darllenwch y Polisi Cludiant i'r Ysgol cyn gwneud eich dewis terfynol o ysgol.
 
Mae'n rhaid i blant ysgolion cynradd ddechrau'r ysgol uwchradd yn y mis Medi yn dilyn eu pen-blwydd yn 11 oed.
Mae'n ofynnol i riant/gwarcheidwad gwblhau cais ar-lein ar gyfer y disgyblion hyn erbyn y dyddiad cau penodedig fel y nodir yn yr Amserlen Trefniadau Derbyn.
Ni fydd ceisiadau sy'n dod i law ar ôl y dyddiad cau penodedig yn cael eu hystyried nes bod y ceisiadau a ddaeth i law cyn y dyddiad cau wedi cael eu dyfarnu. Caiff y rhain eu hystyried fel Ceisiadau Hwyr fel y nodir yn y ddogfen hon.
Os bydd mwy o geisiadau na lleoedd ar gael, yna bydd yr Awdurdod yn blaenoriaethu ceisiadau yn unol â’i feini prawf gor-alw a nodir yn y ddogfen hon.
Nid yw’r ysgol gynradd y mae’r disgybl yn ei mynychu yn fater sy’n cael ei ystyried wrth ddyrannu lleoedd.
Rhaid llenwi ffurflenni cais ar-lein erbyn y dyddiad cau penodedig.
Os na fydd y ffurflen wedi cael ei chyflwyno erbyn y dyddiad cau, mae'r siawns o gael lle yn y dewis ysgol yn llai, felly hefyd y posibilrwydd o gael cludiant i’r ysgol am ddim.
Ein bwriad yw anfon llythyrau penderfyniad mewn perthynas â'r ceisiadau hyn a gyflwynwyd erbyn y dyddiad cau erbyn y dyddiad cynnig a nodir yn yr Amserlen Trefniadau Derbyn.
Fel rhan o'r broses o wneud cais, bydd rhieni plant yn eu blwyddyn olaf yn yr ysgol gynradd yn derbyn pecyn gwybodaeth oddi wrth yr Awdurdod. Mae'n bwysig eich bod yn llenwi'r ffurflen ar-lein erbyn y dyddiad cau gan mai'r ceisiadau hyn fydd yn cael yr ystyriaeth gyntaf. Ni fydd ceisiadau sy'n dod i law ar ôl y dyddiad cau yn cael eu hystyried nes bod y ceisiadau a ddaeth i law cyn y dyddiad cau wedi cael eu dyfarnu. Er nad oes unrhyw sicrwydd y rhoddir lle mewn ysgol, mae'r meini prawf derbyn yn rhoi blaenoriaeth i ddisgyblion sy'n byw yn nalgylch dynodedig yr ysgol uwchradd. Felly nid yw’r ysgol gynradd y mae’r disgybl yn ei mynychu yn fater sy’n cael ei ystyried.
Dilynwch y canllawiau a ddarparwyd, cwblhewch y ffurflen ar-lein yn unol â hynny a darllenwch y rhan o'r llyfryn hwn sy'n ymwneud â dewis y rhieni a chludiant i'r ysgol er mwyn sicrhau eich bod yn deall eich dyletswydd o dan yr amgylchiadau hyn.
Mae'n rhaid i ffurflenni gael eu cwblhau a'u cyflwyno erbyn 29 Tachwedd 2024. Os na chaiff y ffurflen ei chyflwyno erbyn y dyddiad cau, yna bydd llai o gyfle i gael lle yn yr ysgol o'ch dewis. Ein bwriad yw cyhoeddi llythyrau penderfyniad ynghylch y ceisiadau hyn erbyn 1 Mawrth 2025, neu'r diwrnod gwaith nesaf.
Dylai rhieni sy’n dymuno i’w plentyn gael ei derbyn i ysgol uwchradd ar adeg sy’n wahanol i amser arferol derbyn disgyblion blwyddyn 7 (trosglwyddo o ysgol gynradd i ysgol uwchradd) gysylltu a thrafod y mater yn y lle cyntaf â Phennaeth yr ysgol a fydd hefyd yn gallu rhoi cyngor ar wneud cais am le. Gellir gofyn hefyd am gyngor gan y Staff Derbyn Disgyblion i Ysgolion yn yr Adran Addysg a Phlant.
Derbyn i'r Chweched Dosbarth
Dylid trafod trefniadau ar gyfer derbyn disgyblion i Chweched Dosbarth Ysgolion Cymunedol â’r ysgol unigol cyn gwneud cais am le.
