Gwastraff swmpus
Diweddarwyd y dudalen ar: 31/03/2025
Gwastraff swmpus yw gwastraff rydych chi'n methu â gosod mewn bin neu mewn bag. Mae enghreifftiau o wastraff swmpus yn cynnwys gwelyau, carpedi, oergelloedd, rhewgelloedd a chypyrddau dillad.
Rydym yn darparu gwasanaeth casglu gwastraff swmpus a byddwn yn casglu hyd at dair eitem am £26 o'ch man casglu arferol ar gyfer sbwriel a deunydd ailgylchu. Mae'n bosibl y byddai'n gyflymach petai chi mynd â'r eitemau i'ch canolfan ailgylchu agosaf, yn rhad ac am ddim.
Nid oes consesiynau ar gyfer casglu gwastraff swmpus, ond bydd rhai sefydliadau'n casglu eitemau o ansawdd da am ddim.