Canllaw i Dirfeddianwyr ar Hawliau Tramwy Cyhoeddus - Rolau a Chyfrifoldebau

5. Pa fath o ffensys sy'n cael eu caniatáu ger hawl dramwy gyhoeddus?

Rhaid i dirfeddianwyr/meddianwyr sicrhau nad yw ffensys yn rhwystro nac yn lleihau lled hawl dramwy gyhoeddus (gweler lled hawliau tramwy cyhoeddus isod)

Mae weiren bigog yn berygl i ddefnyddwyr hawliau tramwy cyhoeddus ac nid yw'n dderbyniol ar hawliau tramwy cyhoeddus, nac yn agos iddynt, lle mae'n debygol o achosi anaf. Ni ddylai weiren bigog fyth gael ei gosod ar ochr hawl dramwy gyhoeddus ffens gyfagos neu o amgylch pyst sy'n rhan o gamfa neu gât. Mae tirfeddianwyr/meddianwyr yn atebol am unrhyw ddifrod/anaf a achosir gan weiren bigog a osodwyd yn amhriodol ar hawl dramwy gyhoeddus neu'n agos iddi.

Mae'r un rheolau yn berthnasol i ffensys trydan (a yw wedi'i drydanu ai peidio) â ffensys eraill; ni ddylent leihau lled hawl dramwy gyhoeddus ac ni ddylent gael eu gosod ar draws hawl dramwy gyhoeddus heb ganiatâd yr awdurdod lleol. Lle rhoddir caniatâd, dylid gosod gât addas a'i hinswleiddio er diogelwch y cyhoedd. Dylid arddangos arwyddion rhybudd clir bob hyn a hyn sy'n nodi bod ffens drydan ger hawl dramwy gyhoeddus.

Os bydd ffens bresennol yn rhwystro hawl dramwy gyhoeddus neu os bydd angen ffens newydd a fydd yn croesi hawl dramwy gyhoeddus, rhaid diogelu mynediad cyhoeddus.

Gall strwythur sy'n cydymffurfio â'r Safon Brydeinig sydd wedi'i osod yn llinell y ffens gynnal mynediad cyhoeddus yn ddigonol, ond mae angen cael caniatâd gan yr awdurdod lleol (gweler Gatiau, Camfeydd a Strwythurau Eraill).