Canllaw i Dirfeddianwyr ar Hawliau Tramwy Cyhoeddus - Rolau a Chyfrifoldebau

3. Pwy sy'n gyfrifol am gamfeydd a gatiau ar hawliau tramwy cyhoeddus?

Weithiau mae angen celfi cefn gwlad (e.e. gatiau a chamfeydd) ar dirfeddianwyr at ddibenion rheoli fferm a rheoli stoc. Cyfrifoldeb y tirfeddiannwr/meddiannydd yw'r strwythurau hyn ac maent yn eiddo iddo.

Dylai gatiau a chamfeydd newydd gydymffurfio â'r Safon Brydeinig - gellir cael rhagor o wybodaeth am y Safon Brydeinig gyfredol ar gyfer camfeydd a gatiau gan y tîm Mynediad i Gefn Gwlad.

Mae Polisi Codi Tâl Dodrefn Hawliau Tramwy Cyhoeddus y Cyngor Sir yn amlinellu lefel y cymorth y gall perchnogion tir ei ddisgwyl ar gyfer dodrefn HTC ar eu tir. Gall tirfeddianwyr hawlio 25% tuag at gost cynnal a chadw dodrefn HTC, gellir cynyddu hyn yn ôl disgresiwn y Cyngor. Y cam cyntaf yw cysylltu â’r Cyngor i drafod unrhyw gyfraniad tuag at ddodrefn HTC cyn mynd i gostau.

Mae angen cael caniatâd gan yr awdurdod lleol cyn gosod unrhyw strwythur newydd megis gât neu gamfa ar draws hawl dramwy gyhoeddus. Dim ond o dan amgylchiadau penodol y gellir caniatáu celfi llwybr newydd; cysylltwch â'r tîm Mynediad i Gefn Gwlad i gael rhagor o wybodaeth.

Mae tirfeddianwyr yn atebol am unrhyw anaf a achosir gan gelfi cefn gwlad sy'n adfeiliedig, yn amhriodol, ar goll neu wedi'u cynnal a'u cadw'n wael ar y rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus.