Canllaw i Dirfeddianwyr ar Hawliau Tramwy Cyhoeddus - Rolau a Chyfrifoldebau

4. Pwy sy'n gyfrifol am bontydd ar hawliau tramwy cyhoeddus?

Strwythurau pontydd at ddiben mynediad ar hyd hawl dramwy gyhoeddus yn unig yw cyfrifoldeb y Cyngor Sir.

Os yw pont at ddibenion mynediad cyhoeddus a mynediad preifat, yna rhennir y cyfrifoldeb rhwng y Cyngor Sir a'r defnyddiwr/defnyddwyr preifat.

Yn yr achosion hyn, bydd y Cyngor Sir yn gweithio gyda'r tirfeddianwyr/meddianwyr sy'n defnyddio'r bont yn gyfreithlon at ddibenion mynediad preifat a bydd yn gwneud cyfraniad cymesur at waith cynnal a chadw er mwyn sicrhau bod y strwythur yn addas i'r diben.