Newyddion a Digwyddiadau

Archwiliwch eich archif!

Archwiliwch eich archif! Archifau Sir Gaerfyrddin

06/12/2022

Mae archifau yn llawn o bethau gwych a diddorol – nid dogfennau yn unig! Mae wythnos Archwilio Eich Archif yn gyfle i wasanaethau archif ledled y DU ac Iwerddon rannu eu trysorau gyda'r cyhoedd.

Mae hwn yn ddigwyddiad rhad ac am ddim i'r cyhoedd i gael cyngor gan haneswyr teuluol, cadwraethwyr, ac arbenigwyr mewn hanes cymunedol ac amrywiol, i danio'r dychymyg a chael pawb i archwilio'r archif. Yn ogystal â chyflwyniadau gan ein tri siaradwr, cewch daith dywys o amgylch yr adeilad i gael cipolwg y tu ôl i’r llen a gweld drosoch eich hun lle mae'r holl drysorau lleol hyn yn cael eu cadw. Cynhelir y digwyddiad hwn yn Archifau Sir Gaerfyrddin. Darperir lluniaeth.

Ein tri siaradwr yw:

Hanes Teulu: Helen Palmer, Archifydd y Sir, Archifau Ceredigion

Cadwraeth: Rhiannon Griffiths, Cadwraethydd, Archifau Gwent

Hanes Anabledd yn yr Archifau: Yr Athro David Turner, Prifysgol Abertawe

Further details can be found on Eventbrite.

  • Amser: 14:00 - 16:30
  • Lleoliad: Archifau Sir Gaerfyrddin at Llyfrgell Caerfyrddin, Stryd San Pedr, Caerfyrddin, SA31 1LN