Llyfrgell digidol
BFI Replay
Mae BFI Replay yn archif ddigidol am ddim gan BFI (Sefydliad Ffilm Prydain), sydd ar gael yn unig mewn llyfrgelloedd benthyca cyhoeddus yn y DU, gan gynnwys holl lyfrgelloedd Sir Gaerfyrddin.
Mae BFI Replay yn datgelu straeon o bob rhan o'r DU, ei hanes a'i phobl, gyda dros 60 mlynedd o ffilm, teledu a fideo o bob cwr o'r DU. Ailfyw, ymchwilio a cholli eich hun yn y gorffennol gyda miloedd o fideos wedi'u digideiddio a rhaglenni teledu o gasgliadau Archif Genedlaethol BFI a phartner Archifau Ffilm Rhanbarthau a chenhedloedd y DU.
Gwyliwch y byd fel roedden ni'n ei adnabod a'r cymunedau oedd yn ei fyw. O fideos hanes lleol o streic y glowyr o'r 1980au i adran 'Ein Iaith' a gwylio David Parry-Jones yn cyfweld y chwedl leol Ray Gravell yn Gymraeg.
I gael mynediad i'r gwasanaeth hwn, ewch i'ch llyfrgell leol.
- Dewiswch categori: Ymchwil
Mwy ynghylch Llyfrgelloedd ac Archifau