Menter Lleihau Goryrru
Diweddarwyd y dudalen ar: 23/10/2024
Rydym ni’n gweithio mewn partneriaeth â GanBwyll, Heddlu Dyfed Powys ac ysgolion i frwydro yn erbyn goryrru yn ein cymunedau a thu allan i'n hysgolion.
Yn ystod y fenter amlygir cyflymdra’r gyrwyr gan Ddyfais Dangos Cyflymdra (SID). Arwydd symudol dros dro yw SID, sy’n canfod ac yn cofnodi cyflymdra cerbyd wrth iddo nesáu, ac mae’n gweithredu i addysgu ac fel mesur ataliol.
Bydd yr Uned Plismona Ffyrdd yn stopio modurwyr sy’n gyrru dros y terfyn cyflymdra, a byddant yn cael cynnig talu dirwy a chael pwyntiau ar eu trwydded, neu gyfle i siarad â phlant yr ysgol a’n Swyddog Diogelwch Ffyrdd.
Gofynnir cyfres o gwestiynau i’r gyrwyr fydd yn dewis siarad â’r plant, ac yna bydd disgwyl iddynt esbonio’u gweithredoedd wrth y plant. Byddant hefyd yn cael clywed ffeithiau grymus ynghylch diogelwch ffyrdd, er enghraifft beth allai ddigwydd petai eu cerbyd yn bwrw plentyn. Yn olaf, rhoddir cyngor pellach i’r modurwyr a fu’n troseddu i’w gadw mewn cof.
“Os byddwch chi’n gwneud 20mya wrth fy mwrw i, mae cyfle o ryw 1% y byddwch yn fy lladd; os byddwch chi’n gwneud 30mya wrth fy mwrw i, mae cyfle o ryw 7% y byddwch yn fy lladd; os byddwch chi’n gwneud 40mya wrth fy mwrw i, mae cyfle o ryw 31% y byddwch yn fy lladd.”
Manteision y Fenter Lleihau Goryrru
- Annog y modurwyr a fu’n troseddu i feddwl am ganlyniadau goryrru y tu allan i’r ysgol ac yn y gymuned ehangach.
- Newid a gwella ymddygiad gyrwyr.
- Newid a gwella ymddygiad gyrwyr. Addysgu plant yn ifanc ynghylch peryglon goryrru, gyda’r nod o sicrhau bod y neges wedi gwreiddio erbyn iddynt ddechrau gyrru eu hunain.
- Amlygu cyfrifoldeb y gymuned gyfan wrth ymdrin â diogelwch ar y ffyrdd a’i gefnogi.
Mentrau Lleihau Goryrru Diweddar
Ysgol / Dyddiad / Amser | Nifer y modurwyr a gafodd eu stopio | Y nifer a ddewisodd siarad â’r plant |
---|---|---|
Llechyfedach 06/02/24 10.10 - 11.15 |
10 | 9 |
Y Tymbl 05/02/24 10.10 - 11.30 |
7 | 7 |
Llandybie 02/02/24 10.00 - 12.00 |
8 | 8 |
Priffyrdd, Teithio a Pharcio
Mynediad ar gyfer cerdded a beicio (Teithio Llesol)
Tywydd Garw
Cynllun Gwasanaeth dros y Gaeaf a Thywydd Garw Priffyrdd
Ymgeisio am...
Gwneud Cais am Chwiliad Priffyrdd
Gwasanaethau bws
Bws Bach y Wlad
Rhannu ceir
Tocyn teithio consesiwn
Ceir Cefn Gwlad
Seilwaith Cerbydau Trydan
Graeanu
Mwy ynghylch Priffyrdd, Teithio a Pharcio