Gorfodi o ran lonydd bysiau
Diweddarwyd y dudalen ar: 23/10/2024
Er mwyn helpu uchelgais y Cyngor i annog newid o'r cerbyd modur preifat i ddulliau teithio mwy gwyrdd, mae'r Cyngor wedi dechrau gorfodi o ran lonydd bysiau drwy gamerâu teledu cylch cyfyng.
Dangosir y Lonydd Bysiau gan farciau ar y ffordd ac arwyddion sy'n dynodi pa gerbydau eraill (os o gwbl) sy'n cael defnyddio'r lôn fysiau. Oni bai y dynodir fel arall, ni ddylech yrru mewn lôn fysiau pan fo'n weithredol.
Mae camerâu gorfodi sefydlog yn gweithredu yn y lleoliadau a ganlyn yn Sir Gaerfyrddin:
- Lôn fysiau Trostre, Llanelli
- Porth Tywyn
Defnyddio'r lonydd bysiau
Mae deddfwriaeth benodol ar waith ar gyfer pob lôn fysiau, sy'n penderfynu pryd mae'r lôn fysiau yn weithredol a pha gerbydau sy'n cael ei defnyddio. Fel arfer, gall y canlynol ddefnyddio lonydd bysiau:
- Bysiau sy'n gallu cludo mwy nag wyth teithiwr (felly rhaid bod 10 sedd neu fwy ar y
- Bws, gan gynnwys y gyrrwr - mae hyn yn cynnwys coetsis/bysiau mini)
- Tacsis
- Cerbydau hurio preifat
- Beiciau
Ym Mhorth Tywyn dim ond bysiau sy'n cael defnyddio'r lôn fysiau.
Adolygiad fideo Teledu Cylch Cyfyng
Dim ond drwy gamerâu sefydlog neu symudol y gellir gorfodi tramgwyddau lôn fysiau, a elwir yn ddyfeisiau cymeradwy. Mae Gweinidogion Cymru wedi cymeradwyo ein holl gamerâu cyn iddynt gael eu gosod mewn lleoliadau gorfodi. Mae'r camerâu hyn yn cael eu gosod mewn lleoliadau strategol ar y rhwydwaith trafnidiaeth neu lle y nodir bod nifer sylweddol o yrwyr yn camddefnyddio lonydd bysiau.
Sylwch nad oes fflach camera i ddangos bod y camera wedi cael ei actifadu pan fydd cerbyd na chaniateir iddo yrru yn y lôn fysiau.
Mae'r camera yn recordio tystiolaeth fideo o dramgwydd posibl, sydd wedyn yn cael ei adolygu gan Swyddog Gorfodi Sifil i sicrhau bod rheol wedi'i thorri cyn iddo awdurdodi cyhoeddi Hysbysiadau Tâl Cosb. Y gosb am dramgwydd lôn fysiau yw £70, sy'n gostwng i £35 os yw hi'n cael ei dalu o fewn 21 diwrnod. Os yw'r hysbysiad tâl cosb yn cael ei anwybyddu, bydd y gosb yn cynyddu.
Priffyrdd, Teithio a Pharcio
Mynediad ar gyfer cerdded a beicio (Teithio Llesol)
Tywydd Garw
Cynllun Gwasanaeth dros y Gaeaf a Thywydd Garw Priffyrdd
Ymgeisio am...
Gwneud Cais am Chwiliad Priffyrdd
Gwasanaethau bws
Bws Bach y Wlad
Rhannu ceir
Tocyn teithio consesiwn
Ceir Cefn Gwlad
Seilwaith Cerbydau Trydan
Graeanu
Mwy ynghylch Priffyrdd, Teithio a Pharcio