Gwasanaeth Parcio a Theithio o Gaerfyrddin ddim yn rhedeg mwyach

Diweddarwyd y dudalen ar: 23/10/2024

Nid yw gwasanaeth Parcio a Theithio Caerfyrddin yn rhedeg mwyach.

Mae Gwasanaeth B11 bellach yn gwasanaethu'r safle o ddydd Llun i ddydd Sadwrn. Mae bysiau’n gadael y safle am 09:19, 11:19 a 14:24, gan ddychwelyd o’r Orsaf Fysiau am 11:10, 14:15 a 16:15.

Gall teithwyr i Gaerfyrddin hefyd ddefnyddio bysiau o'r lloches bws yr ochr arall i'r A40.

Am wybodaeth lawn ewch i Traveline Cymru

Mae'r safle yn parhau i fod ar agor i'w ddefnyddio fel Parc a rhannu chyfleuster ar gyfer rhannu ceir, ac mae ganddo bwyntiau gwefru ar gyfer Cerbydau Trydan.