Rhoi gwybod am dwll yn y ffordd
Diweddarwyd y dudalen ar: 23/10/2024
I roi gwybod am dwll yn y ffordd, byddai'n hynod ddefnyddiol pe baech yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:
- Lleoliad - enw'r stryd / cyfeiriad / tirnod a defnyddiwch y map i leoli neu ddisgrifio'r union leoliad
- Lleoliad y twll yn y ffordd - a yw yng nghanol y ffordd neu'n agos at y palmant/wrth ei ymyl a pha ochr i'r ffordd
- Siâp / maint - pêl golff, pêl rygbi neu maint olwyn beic
- Llun - Gallwch dynnu llun ar eich ffôn clyfar pan fydd yn ddiogel gwneud hynny a'i lanlwytho
Ni fyddwn yn ymdrin â phroblemau ar ffyrdd preifat. Bydd amserau ymateb yn amrywio gan ddibynnu ar faint, dyfnder a lleoliad y difrod. Nid oes modd atgyweirio pob twll y rhoddir gwybod amdano gan nad ydynt i gyd yn bodloni'r meini prawf. Ni fyddwn yn anwybyddu yr un adroddiad, fodd bynnag, mae'n rhaid i ni flaenoriaethu ein cyllid ar ddiogelwch ac ni allwn fforddio datrys yr holl broblemau y rhoddir gwybod inni amdanynt.