Rhoi gwybod am farciau / arwyddion ffordd diffygiol
Diweddarwyd y dudalen ar: 23/10/2024
Gall marciau ac arwyddion ffyrdd dreulio a phylu dros amser o achos symudiad traffig a thywydd garw.
Rydym yn gyfrifol am gynnal a chadw marciau a llinellau ffordd gan gynnwys:
- Llinellau melyn dwbl
- Marciau ffordd
- Llinellau cyffordd ffyrdd
- Llygaid cath
- Arwyddion Ffyrdd
Rhowch wybod i ni os oes unrhyw farciau / arwyddion ffyrdd:
- Wedi'u difrodi
- Wedi pylu
- Ar goll
- Yn pwyntio'r ffordd anghywir
- Wedi'u cuddio
- Angen glanhau
- Golau ar arwydd ddim yn gweithio
- Gwifrau gweladwy
- Gofyn am arwydd neu farciau newydd
I roi gwybod am hyn, byddai'n hynod ddefnyddiol pe baech yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:
- Lleoliad - enw'r stryd / cyfeiriad / tirnod a defnyddiwch y map i leoli neu ddisgrifio'r union leoliad
- Lleoliad - a yw yng nghanol y ffordd neu'n agos at y palmant/wrth ei ymyl a pha ochr i'r ffordd
- Math o farciau / arwydd - rhowch ddisgrifiad manwl o'r marciau / arwydd a'r broblem
- Llun - Gallwch dynnu llun ar eich ffôn clyfar pan fydd yn ddiogel gwneud hynny a'i lanlwytho