Rhoi gwybod am gerbyd wedi'i adael

Diweddarwyd y dudalen ar: 23/10/2024

Mae'n bosibl y caiff cerbyd sydd wedi'i adael mewn ardal am gyfnod neu os nad oes ganddo geidwad cofrestredig ei drin fel cerbyd sydd wedi'i adael. Efallai na fydd wedi'i drethu a hefyd gallai fod mewn cyflwr peryglus.

Os ydym o'r farn fod cerbyd wedi'i adael, efallai y caiff gwiriad Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) ei gynnal i ddod o hyd i fanylion y ceidwad presennol. Os ystyrir bod y cerbyd mewn cyflwr peryglus, caiff ei drin fel un y dylid ei flaenoriaethu a bydd yn cael ei symud o fewn 24 awr. Mae cerbydau sydd wedi'u gadael ar dir preifat yn destun cyfnod rhybudd o 15 diwrnod fel arfer ar ôl ymgynghori â pherchennog y tir neu'r asiant.

I'n helpu i ddelio'n gyflym â'r cerbyd sydd wedi'i adael, a fyddech cystal â darparu'r wybodaeth ganlynol am y cerbyd:

  • Math, model a lliw
  • Rhif cofrestru cerbyd (Os yw rhif cofrestru'r cerbyd ar goll gellir dod o hyd iddo ar y disg treth os yw'n cael ei arddangos)
  • Cyflwr y cerbyd (gan roi sylw i unrhyw fandaliaeth)
  • Dyddiad y mae'r disg treth yn dod i ben, os yw'n cael ei arddangos
  • Union leoliad y cerbyd
  • Pa mor hir y mae'r cerbyd wedi bod oddi ar yr heol
  • Unrhyw wybodaeth arall e.e. pwy yw'r perchennog neu'r gyrrwr
  • Llun - Gallwch dynnu llun ar eich ffôn clyfar pan fydd yn ddiogel gwneud hynny a'i lanlwytho

Os ydych am roi gwybod am gerbyd heb ei drethu, cysylltwch â'r Swyddfa Cofrestru Cerbydau, Cerbydau Heb Eu Trethu, Long View Road, Abertawe, SA99 1AN.

Os ydych yn credu bod y cerbyd wedi'i ddwyn neu os yw'n achosi rhwystr, rhowch wybod i Heddlu Dyfed-Powys drwy ffonio 101.

RHOI GWYBOD AM GERBYD WEDI'I ADAEL