Rhoi gwybod am lifogydd / ddraen wedi blocio ar Briffordd

Diweddarwyd y dudalen ar: 23/10/2024

I roi gwybod am broblemau llifogydd brys, y tu allan i oriau swyddfa arferol, gwnewch yn siŵr eich bod yn ein ffonio ar 0300 333 2222, peidiwch ag adrodd ar-lein.
Yn ystod tywydd garw, efallai y bydd yn rhaid i chi ddal y llinell ar gyfer gweithredwr.
Ymdrinnir â digwyddiadau yn nhrefn blaenoriaeth.

 

Gallwch roi gwybod am y canlynol:

  • Draen wedi'i blocio ar ffordd / palmant
  • Clawr twll archwilio wedi torri / difrodi ar ffordd / palmant

Pan fyddwch yn cysylltu â ni i roi gwybod am ddraen sydd wedi'i blocio, a fyddech cystal â darparu'r wybodaeth ganlynol:

  • Lleoliad - enw'r stryd / cyfeiriad / tirnod a defnyddiwch y map i leoli neu ddisgrifio'r union leoliad
  • Achos y llifogydd - draen wedi'i blocio, afon, pibell wedi byrstio
  • Llun - Gallwch dynnu llun ar eich ffôn clyfar pan fydd yn ddiogel gwneud hynny a'i lanlwytho

Pan fydd tywydd eithafol ar y gorwel, gall preswylwyr helpu trwy gael gwared ar unrhyw ddail neu falurion a allai flocio draeniau.

rhoi gwybod am LIfOGYDD / ddraen wedi blocio ar  Y ffordd 

Rhoi gwybod am UNRHIW LIFOGYDD eraill

I roi gwybod am argyfwng, cysylltwch â ni yn ystod oriau swyddfa ar 01267 234567 neu y tu allan i oriau swyddfa arferol ar 0300 333 2222. Yn ystod tywydd garw, efallai y bydd yn rhaid i chi ddal y llinell ar gyfer gweithredwr. Ymdrinnir â digwyddiadau mewn trefn flaenoriaeth.

Sylwer: Bydd materion a adroddir y tu allan i oriau swyddfa yn cael eu hadolygu y diwrnod gwaith nesaf, yn amodol ar yr adnoddau sydd ar gael.