Cynllun Awdurdod Partner
Andrew Scott Ltd
The Grange, Margam, Port Talbot SA13 2SP
01639 889829
David Cole
- Dewiswch categori: Penseiri/Practisau asiantiaid
Yn dilyn gwybodaeth a gafodd Heddlu Dyfed-Powys, mae Ysgol Gynradd Gymunedol Dafen yn Llanelli ar gau heddiw.
Cafodd Heddlu Dyfed-Powys wybodaeth tua 2.30am a oedd yn golygu bod angen cymryd camau diogelu. Cafodd penderfyniad ei wneud ar y cyd â Heddlu Dyfed-Powys i gau'r ysgol.
Ar hyn o bryd mae presenoldeb heddlu yn yr ysgol a'r ardaloedd cyfagos, a bydd swyddogion yn aros yn yr ardal wrth i ymholiadau gael eu gwneud.
Rydyn ni'n deall y bydd pryderon ymhlith rhieni a staff yr ysgol yn dilyn hyn.
Gallwn ni eich sicrhau bod y mesurau diogelu angenrheidiol a phriodol wedi'u cymryd yn seiliedig ar y wybodaeth a gafodd Heddlu Dyfed-Powys.
Rydyn ni'n parhau i weithio gyda Heddlu Dyfed-Powys. Doedd dim angen cau unrhyw ysgolion eraill yn yr ardal leol.
Bydd y wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei rhoi, pan fo'n bosibl, i sicrhau bod pawb y mae hyn yn effeithio arnynt yn parhau i fod yn ymwybodol o'r sefyllfa.
Andrew Scott Ltd
The Grange, Margam, Port Talbot SA13 2SP
01639 889829
David Cole
