Pennaeth Plant a Theuluoedd

 

Arwain gyda phwrpas. Sicrhau newid parhaol. Trawsnewid bywydau.

Ydych chi'n arweinydd tosturiol, gweledigaethol sy'n cael eich gyrru gan werthoedd ac sy'n ymrwymedig i wella canlyniadau i blant a phobl ifanc?  

Rydym yn chwilio am arweinydd eithriadol i ymuno â ni fel Pennaeth Plant a Theuluoedd - rôl strategol allweddol sy'n rhan ganolog o'n sefydliad. 

Mae hwn yn gyfle prin i lunio Gwasanaethau Plant ar draws un o awdurdodau mwyaf a mwyaf uchelgeisiol Cymru. Byddwch yn arwain gwasanaeth proffil uchel gyda ffocws cryf ar wella, gan sicrhau'r canlyniadau gorau i blant, pobl ifanc a theuluoedd. 

Byddwch yn darparu arweinyddiaeth strategol ar draws yr holl Wasanaethau Plant, gan sicrhau bod cyfrifoldebau statudol, gan gynnwys diogelu a rhianta corfforaethol, yn cael eu cyflawni'n effeithiol, yn arloesol ac yn drefnus. Fel arweinydd ysbrydoledig, byddwch yn ymgysylltu ac yn datblygu gweithlu mawr, amlddisgyblaethol, gan hyrwyddo llais plant a theuluoedd. 

Byddwch yn ysgogi ymyrraeth gynnar, atal a dylunio gwasanaeth cynaliadwy. 

Os ydych chi'n rhannu ein huchelgais i weld pob plentyn yn ddiogel, yn cael ei gefnogi ac yn gallu ffynnu, byddem yn falch iawn o glywed gennych. 

Bydd cymorth yn cael ei ddarparu i ddatblygu sgiliau Cymraeg lle bo angen.

Lawrlwytho Proffil Swydd

Ymgeisio am y rôl hon

 

Rhagair gan yr Aelod Cabinet dros Iechyd Integredig a Gwasanaethau Cymdeithasol Plant ac Oedolion

 

Fel Aelod Cabinet, rwy'n falch iawn o wahodd ceisiadau ar gyfer y rôl arwain ganolog hon. 

Mae swydd Pennaeth Plant a Theuluoedd yn benodiad hollbwysig i Gyngor Sir Caerfyrddin, gyda'r cyfrifoldeb o lunio dyfodol gwasanaethau i blant a phobl ifanc ledled ein sir. Mae hon yn rôl sy'n cyfuno dylanwad strategol ag effaith yn y byd go iawn. 

Rydym yn uchelgeisiol dros ein plant a'n pobl ifanc, ac yn chwilio am unigolyn sy'n gallu dangos arweinyddiaeth weledigaethol, ymrwymiad cryf i ddiogelu, ac angerdd dros gyflawni canlyniadau rhagorol. 

Byddwch yn cydweithio ar draws y Cyngor a gyda'n partneriaid i sicrhau bod plant a theuluoedd yn derbyn gofal a chymorth o'r safon uchaf, ac yn cael cyfle i ffynnu. 

Mae hwn yn gyfle i arwain gyda phwrpas — i ysbrydoli, i arloesi, ac i wneud gwahaniaeth parhaol. 

Rydym yn edrych ymlaen at groesawu arweinydd sy'n rhannu ein hymrwymiad i roi plant a theuluoedd wrth wraidd popeth a wnawn. 

 

Cyng. Jane Tremlett 

Cyngor Sir Caerfyrddin yw un o'r awdurdodau lleol mwyaf a mwyaf uchelgeisiol yng Nghymru. Rydym yn falch o'n cymunedau cryf, ein gweithlu ymroddedig, a'n hymrwymiad i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel sy'n gwella bywydau. Mae gennym ddiwylliant cadarnhaol sy'n cael ei yrru gan werthoedd, gan roi ein dinasyddion wrth wraidd popeth a wnawn. 

Mae ein Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn ganolog i'n gweledigaeth ar gyfer y Sir. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pob plentyn yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd a'r cyfle i gyrraedd eu potensial llawn. 

Mae'r rôl hon yn cynnig cyfle unigryw i ymuno â thîm o uwch-arweinwyr blaengar a chydweithredol, gan weithio ar flaen y gad o ran newid ar draws gwasanaethau cymhleth ac uchel eu heffaith. 

Rydym yn chwilio am arweinydd sy'n gallu cyfuno meddwl strategol â chyflawniad gweithredol cryf, rhywun sy'n gallu troi uchelgais yn gamau gweithredu a sicrhau canlyniadau ystyrlon. 

Os ydych chi'n rhannu ein huchelgais ac yn barod i wneud gwahaniaeth ar raddfa eang, byddem yn falch iawn o glywed gennych. 

Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai

Darren Mutter

 

Mae hon yn rôl arwain strategol allweddol, sy'n cynnig cyfle prin i lunio dyfodol Gwasanaethau Plant a Theuluoedd ledled y sir.  

Fel Pennaeth Plant a Theuluoedd, byddwch yn arwain gwasanaeth uchelgeisiol a phroffil uchel ar gam allweddol yn ei daith. 

Byddwch yn arwain agenda uchelgeisiol a chyffrous, gan gynnwys ffocws o'r newydd ar lety a chymorth i blant a phobl ifanc — gan sicrhau bod ein trigolion mwyaf agored i niwed yn derbyn y gofal, y sefydlogrwydd a'r cyfleoedd y maent yn eu haeddu. 

Mae hon yn rôl sylweddol, gyda chyfrifoldeb ac effaith go iawn. 

 

Pam mae'r rôl hon yn bwysig

Mae Gwasanaethau Plant wrth wraidd blaenoriaethau ein Cyngor. Bydd eich arweinyddiaeth yn dylanwadu'n uniongyrchol ar ganlyniadau i rai o'r plant a'r teuluoedd mwyaf agored i niwed yn Sir Gaerfyrddin. 

Byddwch yn:

  • Darparu cyfeiriad strategol ac arweinyddiaeth ar draws holl swyddogaethau'r Gwasanaethau Plant. 
  • Sicrhau ein bod yn cyflawni ein cyfrifoldebau diogelu statudol ac yn gwella gwasanaethau yn barhaus. 
  • Hyrwyddo diwylliant lle mae llais plant a theuluoedd yn ysgogi popeth a wnawn.
  • Troi strategaeth uchelgeisiol yn welliannau gweladwy mewn canlyniadau i blant a phobl ifanc. 
  • Gweithio ochr yn ochr ag Aelodau, partneriaid a chydweithwyr i lunio ymateb system gyfan i angen. 

Nid rôl arweinyddiaeth yn unig yw hon, ond rôl sy'n ymwneud â gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a pharhaol. 

Rydym yn chwilio am arweinydd sy'n cyfuno gweledigaeth strategol â hygrededd gweithredol. 

Byddwch yn:

  • Uwch-arweinydd profiadol yn y Gwasanaethau Plant neu faes cysylltiedig. 
  • Cwbl ymroddedig i ddiogelu a gwella canlyniadau. 
  • Arweinydd ysbrydoledig a gweladwy sy'n gallu sicrhau cefnogaeth pobl. 
  • Hyderus yn arwain gwasanaethau cymhleth a chyflawni newid yn gyflym. 
  • Angerddol dros arloesi, ymyrraeth gynnar, ac atal. 

Yn bennaf, byddwch yn rhannu ein hymrwymiad i sicrhau bod plant a theuluoedd wrth wraidd popeth a wnawn. 

Ein Gweledigaeth 

Mae ein gweledigaeth ar gyfer Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn syml ond yn bwerus: 

  • Cadw plant yn ddiogel
  • Helpu teuluoedd i aros gyda'i gilydd lle bynnag y bo modd
  • Ymyrryd yn gynnar i gyflawni canlyniadau hirdymor gwell 
  • Gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd a chymunedau

Rydym yn adeiladu gwasanaethau sy'n gweithio gyda theuluoedd, nid iddyn nhw, gan ganolbwyntio ar gryfderau, perthnasoedd, a newid cynaliadwy. 

Rydym yn darparu amrywiaeth eang o wasanaethau sydd, gartref, yn y gymuned ac yn yr ysgol, yn cefnogi ac yn amddiffyn plant a phobl ifanc sy’n agored i niwed, gan sicrhau bod pob plentyn yn gallu gwireddu ei botensial llawn gan fod yn iach, yn hapus ac yn ddiogel.

Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd

Gwasanaethau i blant a theuluoedd

Tîm Maethu Cymru Sir Gaerfyrddin yw eich darparwr maethu lleol a'ch rhwydwaith cymorth. Nid ydym yn wasanaeth maethu arferol; rydym yn llawer mwy na hynny.

Fel sefydliad nid-er-elw, rydym wedi ymrwymo i weithio fel tîm gyda gofalwyr maeth i helpu i greu dyfodol gwell i blant lleol yn Sir Gaerfyrddin. Rydym yn eu helpu i aros yn eu hamgylcheddau lleol cyfarwydd pan fydd yn iawn iddyn nhw.

Maethu Cymru Sir Gâr

Rydym yn awyddus i sicrhau bod plant yn tyfu i fyny yn rhan o deulu parhaol a chariadus nes y byddant yn oedolion. Rydym yn darparu amrywiaeth o wasanaethau ac adnoddau i helpu teuluoedd i ofalu am eu plant ond, os nad yw hyn yn bosibl, mae ein Gwasanaeth Mabwysiadu yn dod o hyd i deuluoedd eraill parhaol.

Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru

Mae'r Hwb Cymorth Cynnar yn cefnogi plant, pobl ifanc a'u teuluoedd drwy ddefnyddio'r dull cymorth cynnar i sicrhau newid cadarnhaol, parhaol. Trwy gynnig cymorth yn gynnar, rydyn ni'n helpu i atal problemau rhag gwaethygu a sicrhau bod teuluoedd yn cael yr help cywir ar yr adeg iawn.

Hwb Cymorth Cynnar

 

O ran lleoliad, mae Sir Gaerfyrddin yn cynnig popeth. Mae mewn lleoliad delfrydol ar hyd coridor yr M4, felly gallwch deithio i brif ddinasoedd o fewn ychydig oriau, gan gynnwys Abertawe, Caerdydd a Chasnewydd, yn ogystal â Bryste, Birmingham a Llundain ymhellach i'r dwyrain - ac i'r gorllewin mae gennym gysylltiadau cystal ag Iwerddon drwy byrth Sir Benfro.

Rydym yn falch o'n harfordir hardd, o Foryd Byrri â golygfeydd dros Benrhyn Gŵyr, ar draws milltiroedd o dywod euraid a thraethau baner las, hyd at Bentywyn yn y gorllewin, sy'n enwog am ei dirwedd wastad ar gyfer rasio; a'n cefn gwlad o fryniau a phantiau sy'n ymestyn at y ffin â Sir Benfro, Ceredigion, Powys, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe, yn ogystal â chyrion gorllewinol ardal hyfryd Bannau Brycheiniog.

Fel un o awdurdodau lleol mwyaf Cymru, rydym wedi arwain rhaglen buddsoddi a datblygu uchelgeisiol sydd wedi darparu gwasanaethau o'r radd flaenaf i'n trigolion, ein busnesau a'n hymwelwyr. Mae'r rhain yn cynnwys stadia chwaraeon modern a chyrsiau golff gwych, Stadiwm Parc y Scarlets, a'r Gylchffordd Gaeedig Genedlaethol ym Mhen-bre ac mae'r atyniadau diwylliannol yn cynnwys theatrau a safleoedd hamdden, megis Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Cartref Dylan Thomas, Marina Porth Tywyn, Parc Arfordirol y Mileniwm a'r cyfleuster Denu Twristiaid newydd ar lan y môr ym Mhentywyn. Felly nid oes ryfedd bod economi twristiaeth Sir Gaerfyrddin yn ffynnu, gan ddod â mwy na £434 miliwn i'r sir y llynedd a chynyddu bob blwyddyn.

Mae Sir Gaerfyrddin yn sir wirioneddol ddwyieithog ac mae mwy o siaradwyr Cymraeg yn y sir na'r un sir arall yng Nghymru (tua 40% o'n 187,900 o drigolion, yn ôl Cyfrifiad 2021). Mae'r iaith yn rhan bwysig o'n hanes a'n diwylliant, a dyna pam rydym wedi ymrwymo'n gadarn i helpu pobl i fyw, gweithio a defnyddio gwasanaethau yn eu dewis iaith, gan ddefnyddio ein Strategaeth Sgiliau Iaith i'n helpu i gyflawni Safonau'r Gymraeg. Rydym yn cynnig amrywiaeth o opsiynau cefnogol a hyblyg i ganiatáu i'n staff ddysgu Cymraeg neu wella eu sgiliau. Os bydd angen, byddwn yn gweithio'n galed i'ch ysgogi a'ch ysbrydoli o ran eich sgiliau Cymraeg ac yn eich helpu i gyrraedd y lefel sy'n ofynnol ar gyfer y swydd hon. Gallwch ddarllen rhagor yma.

Rydym am ichi fwynhau gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac iddo roi boddhad mawr ichi. Mae ein gweithwyr wrth wraidd y gwasanaethau rydym yn eu darparu i'r gymuned ac maent yn ein helpu i gyflawni ein huchelgeisiau. Rydym yn cynnig gwahanol fuddiannau a threfniadau gweithio i gynorthwyo gweithwyr yn eu bywyd gwaith a’u bywyd personol. Gweld beth rydym yn ei gynnig.

Dyma'ch cyfle i ymuno â Chyngor blaengar sy'n perfformio'n dda sydd wedi ymrwymo i: 

  • Arloesi a gwelliant parhaus
  • Cydweithio ar draws gwasanaethau a phartneriaid
  • Cefnogi a datblygu ei weithlu
  • Cyflawni newid ystyrlon i gymunedau

Byddwch yn rhan o gymuned o uwch-arweinwyr sy'n uchelgeisiol, yn gefnogol ac yn canolbwyntio ar wneud gwahaniaeth. 

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

Darren Mutter, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai

E-bost: djmutter@sirgar.gov.uk 

Rhif Ffôn: 01267 224698


Dyddiad Cau: 13 Awst

Panel Rhestr Fer: 8 Medi

Asesiad o'r Iaith Gymraeg: 14 Medi 

Y Ganolfan Asesu: 16 Medi

Panel Penodi: 29 Medi

Ymgeisio am y rôl hon