Prisiau a thocynnau

Diweddarwyd y dudalen ar: 26/06/2024

Mae nifer o gynlluniau ar gael sy'n eich galluogi chi i arbed arian ar eich siwrneiau bws.

Os ydych yn 16 i 21 mhlwydd oed ac yn byw yng Nghymru, yna cewch wneud cais am fy nghedrdyn teithio newydd o fis Medi 2015. Bydd y pás hwn yn caniatáu ichi deithio’n rhatach ar fysus lleol ac ar fysiau pellter hir TrawsCymru.

Mae'r math hwn o docyn yn cynnig mwy o ostyngiad i deithwyr rheolaidd na phe baent yn prynu tocynnau taith unffordd neu ddwyffordd bob dydd. Mae'r tocyn, y mae'n rhaid ei ddefnyddio cyn pen mis calendr, yn docyn ar gyfer 12 taith unigol, unrhyw ddydd o'r wythnos, ar y rhan fwyaf o'r gwasanaethau yr rhydym yn eu darparu. e.e. Byddai taith unigol o £2 yn costio £1.17 yn unig, pe baech yn defnyddio tocyn 12 taith, a byddai tocyn £4.90 i oedolion am daith ddwyffordd yn costio £3.27 yn unig. I gael rhagor o wybodaeth, holwch eich gyrrwr bws.

PLUSBUS yw tocyn bws sy’n cysylltu'r trenau â'r bysiau ledled Cymru. Y gallwch brynu tocyn PLUSBUS gyda'ch tocyn trên yn yr orsaf, dros y ffôn neu ar-lein. Mae'n caniatáu ichi wneud cymaint o ddefnydd ag y mynnoch o'r bysiau yn y trefi lle mae eich taith ar y trên yn cychwyn ac/neu yn gorffen, gan gynnwys y daith i'r orsaf drenau ac ohoni. Mae PLUSBUS ar gael mewn 275 o drefi ledled Prydain, gan gynnwys Llanelli a Chaerfyrddin.

Mae tocyn Cymru Connect yn caniatáu ichi archebu tocyn mewn gorsaf reilffordd a theithio o bwynt A i bwynt B yng Nghymru gan ddefnyddio cyfuniad o daith ar drên ac ar fws, ond prynu’r tocyn unwaith yn unig.

Y gwasanaethau bysiau sydd ar gael yn Sir Gaerfyrddin a’r cyffiniau yw:

  • 279 o Gaerfyrddin i Ardd Fotaneg Cymru;
  • 222 o Gaerfyrddin i Lacharn a Pentywyn;
  • X13 o Abertawe i Rydaman a Llandeilo;
  • 460 o Gaerfyrddin i Gastellnewydd Emlyn ac Aberteifi.

Mae’r Pas Darganfod Cymru yn rhoi'r rhyddid i chi ddefnyddio holl brif wasanaethau trên Cymru a bron pob gwasanaeth bws. Ac megis dechrau yw hynny. Bydd y rhai sydd â'r tocyn hwn yn cael amrywiaeth arbennig o fanteision eraill hefyd gan gynnwys mynediad “dau am bris un” neu ostyngiad ar brisiau mynediad i lawer o brif atyniadau twristiaeth Cymru a llety hosteli ieuenctid.

Mae gan First Cymru a Brodyr Richards eu math penodol o docynnau. Mae'r tocynnau hyn yn ddilys ar eu rhwydweithiau bysiau unigol.

Cofiwch, gall trigolion Cymru sy'n 60 oed neu'n hŷn, a phobl sydd ag anableddau penodol, deithio ar bob gwasanaeth bws lleol yng Nghymru YN RHAD AC AM DDIM!

Mae’r rhwydwaith o wasanaethau bws sydd yn y Sir yn cysylltu â bron pob prif dref a phentref, ac yn cyrraedd y rhan fwyaf o’r ardaloedd hyfrytaf.  Mae’r olygfa yng nghefn gwlad yn amrywio o drefi marchnad i bentrefi tawel sydd wedi’u lleoli yn yr ardaloedd mwyaf hardd a dilychwin.  Gallwch ymweld â chestyll hynafol sy’n rhan annatod o hanes yr ardal a chanolfannau sy’n arddangos hen grefftau traddodiadol, trefi sy’n cyfuno cyfleusterau siopa modern â nodweddion hanesyddol naturiol, ac amrywiaeth o atyniadau i deuluoedd ym mhob tywydd.
Ers cyflwyno Tocyn Crwydro Gorllewin Cymru mae’n hawdd ymweld â’r llefydd hyn ar fws.  Yn syml iawn rydych yn prynu’r tocyn ar y bws y byddwch yn teithio arno gyntaf a’i ddefnyddio i fynd a dod fel y mynnwch gydol y dydd.

Mae’r tocyn yn ddilys ar y rhan fwyaf o wasanaethau bws lleol yng:

  • Ngheredigion
  • Sir Gaerfyrddin  
  • Sir Benfro

Bydd y Tocyn Crwydro ddim yn cynnwys:

  • Gwasanaethau sydd ar gael i plant ysgol yn unig
  • Gwasanaeth National Express 507/508/528
  • Gwasanaethau 167, T1c rhwng Caerfyrddin a Chaerdydd, T1s, X14, neu X26
  • Cofiwch fod eich Tocyn Crwydro yn caniatáu teithio di gyfyng ar y dyddiad y prynir y tocyn ar y bysiau hynny sy’n rhan o’r cynllun, sy’n golygu y gallwch dorri eich taith yma ac acw fel y mynnwch.

Mae Tocyn Crwydro Diwrnod yn costio £8.50 i oedolion a £4.50 i blant. Mae Tocyn Crwydro Wythnos yn costio £34.00 i oedolion a £16 i blant.

Gall y gwasanaethau sy’n y cyfarwyddiadur hwn eich cludo cyn belled â Dinbych-y-pysgod, Aberteifi neu Abertawe, ond mae’r Tocyn Crwydro yn caniatáu i chi deithio ymhellach.  Beth am fynd i arfordir Ceredigion am y dydd neu ymweld ag arfordir Gorllewin Sir Benfro? I gael manylion am amserlenni cysylltwch â Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu ewch i www.cymraeg.traveline.cymru.

Cofiwch - mae’r Tocyn Crwydro yn hawdd i’w ddefnyddio ac ar gael ar y rhan fwyaf o fysiau. Gwnewch yn fawr o’ch amser rhydd - Tocyn Crwydr, Tocyn i Fwynhad.

Teithio, Ffyrdd a Pharcio